Rhan 5

Roedd hi’n mynd yn dywyll. Roedd hi’n oeri. Roedd Llygoden yn dechrau poeni. Ti’n gweld, roedd e’n dod allan yn y nos lawer: mae llygod yn anifeiliaid nosol. Ond roedd e bob amser yn cerdded gyda’r nos yn ei ran bach ef o dir, ble roedd e’n gwybod y llefydd i guddio a chwtshio lawr os oedd Tylluan yn hedfan dros ben. Nid oedd e byth wedi bod mor bell oddi gartre’ o’r blaen.

Cerddodd e ar y pawennau tawelaf roedd e’n gallu. Syllodd trwy’r tywyllwch gyda llygaid craff. Ac yn sydyn, dyma fe’n rhewi. Achos o’i flaen e roedd pâr o lygaid enfawr yn sgleinio gyda golau gwyrdd. Llwynog oedd e, mas am dro gyda’r nos.

“Wel helo, Llygoden,” meddai Llwynog. “Clywes i dy fod di ar daith.”

“Ti’n gywir,” meddai Llygoden. “Taith pwysig iawn yw hi, felly plîs paid â bwyta fi, Llwynog. Mae hi’n daith arbennig, ar gyfer holl greaduriaid eraill y goedwig. Mae’r dyn gwyrdd wedi gofyn i fi i ddod o hyd i enw coll yr hen goeden, achos rydym ni wedi’i anghofio, ac hebddo, bydd yr hen goeden yn marw. Ac heb yr hen goeden, bydd y goedwig hefyd yn marw. Achos rydym ni gyd wedi ein cysylltu.”

“’Nai ddim dy fyta di,” meddai Llwynog. “Ond, ti’n gwbod, dwi’m yn sicr bod yna lot ti’n gallu neud. Ti mor…fach. Lot rhy fach i neud gwahaniaeth.”

Ac eisteddodd Llwynog i lawr a fflicio’i gynffon hir oren.

“’Dyw hynny ddim yn wir,” meddai Llygoden. “Rhoddodd y dyn gwyrdd y dasg hon i mi achos mae e’n gallu ei chyflawni hi.”

“Ydy hwnna’n wir?” dywedodd Llwynog. “Clywes i dy fod ti wedi gwirfoddoli am y dasg. A bod y dyn gwyrdd yn rhy garedig i ’weud na i ti.”

Roedd ymennydd bach Llygoden yn llawn ffws a ffwdan. Doedd e ddim cweit yn gallu cofio beth roedd wedi digwydd. A oedd Llwynog yn gywir? Ife fe oedd wedi gwirfoddoli? Dim rhyfedd bod yr anifeiliaid eraill i gyd yn chwerthin ar ei ben. Doedd e ddim yn gallu ’neud dim byd.

Y mwyaf roedd Llygoden yn meddwl am y peth, y mwyaf sicr roedd e ei fod e wedi bod yn Llygoden Dwp i feddwl bod e’n ddigon clyfar i wneud unrhywbeth i amddiffyn yr hen goeden a stopio’r goedwig rhag farw.

“Rydw i’n Llygoden Ddewr,” meddai Llygoden i’w hun. “Rydw i’n Llygoden Glyfar. Rydw i’n gallu cyflawni’r dasg hon.” Ond hyd yn oed wrth iddo fe ddweud y geiriau ma i’w hun, doedd e ddim wir yn eu credu nhw rhagor.

Roedd Llwynog yn esgus edrych fel bod piti ganddo dros Llygoden.

“O paid a gwrando arna i,” meddai yn ei lais llyfn llwynogaidd. “Nid jyst ti yw’r broblem. Mae pawb yn broblem. Nid yw hi’n bosib i unrhywun wneud unrhywbeth i amddiffyn y goedwig os mae’r hen goeden yn marw. Mae’n rhaid i ni dderbyn hwnna. Mae pethau’n symud ymlaen. Mae’r byd yn anghofio pethau. Dyna pam rydw i wedi dysgu sut i addasu. Mae fy nghefndrod yn y ddinas ’run fath. Rydym ni wedi dysgu sut i oroesi, ac unrhywbeth sy’n digwydd, fe fyddem ni’n ymdopi. Dylet ti neud yr un peth. Dyle pawb jyst edrych ar ôl ei hun. Dyna’r ffordd gorau i fod. Dyna’r unig ffordd i fod.”

Magodd Llygoden ei blwc orau. “Celwydd pur yw hwnna,” dywedodd e’n gadarn. “Dywedodd y dyn gwyrdd wrtha i bod popeth yn gysylltiedig i’w gilydd. Yr hen goeden sydd yn dal y goedwig mewn cydbwysedd, a mae popeth allan o falans ar hyn o bryd achos mae hi’n marw. Dyw hi ddim yn wir bod angen i ni ymdopi ar ben ein hun. Y gwirionedd yw bod hi’n amhosib i ni oroesi heb gydweithio gyda’n gilydd.”

Llyncodd ei boer achos roedd Llwynog yn edrych yn wyllt gacwn. Nid oedd neb byth yn anghytuno gyda Llwynog. Ond aeth yn ei flaen achos roedd e am fod yn Lygoden Ddewr. “Dyna beth rydw i’n meddwl hefyd. A dwi’n meddwl ein bod ni’n gywir.”

Gwenodd Llwynog mewn ffordd cas a fflachiodd ei ddannedd yng ngolau’r lleuad. “Wel, Llygoden Fach, efallai dwyt ti ddim mor fach a mae pobl yn dweud yr wyt ti. Ond er chwaith hwn dwi ddim yn meddwl y fyddet ti’n llwyddo yn dy dasg.”

Daliodd Llygoden ei hun yn gryf. “Llwynog, mae’n rhaid i mi fynd ar fy ffordd, os nad wyt ti am weud rywbeth o les i mi am enw coll yr hen goeden. Wyt ti’n gwbod beth yw e? Neu wyt ti’n gwbod rhywun gall helpu fi?”

“Diar mi,” meddai Llwynog. “Dwi’n gwybod dim byd o gwbl. Dim ond hen lwynog dwl ydw i.”

Mae’n rhaid bod Llygoden wedi edrych yn drist iawn achos tynerodd Llwynog tuag ato rywfaint. “Os ei di i’r guddfan adar mae yna siawns fe ddei di ar draws aderyn sydd wedi hedfan miloedd ar filoedd o filltiroedd i fod yma. Mae nifer o’r adar yno yn teithio’n bell, ti’n gweld. Efallai gofynna iddyn nhw. Maen nhw wedi bod ar draws y byd, mae’n rhaid bo nhw’n gwybod mwy nag ydw i.”

“Diolch,” meddai Llygoden, ac roedd e ar fin heglu i ffwrdd pan gofiodd ei gynllun am yr anrhegion. Dywedodd e, “Llwynog, dwi’n casglu anrhegion am yr hen goeden. Dwi’n meddwl y bydd hwn yn ei hatgoffa hi am ba mor gyfoethog ac arbennig yw’r goedwig, a pha mor bwysig y mae hi. Oes yna unrhywbeth hoffet ti roi iddi hi?”

Meddyliodd Llwynog am funud ac wedyn dywedodd, “Dwi wedi bob amser feddwl pa mor arbennig y byddai i weld holl olion traed yr anifeiliaid sydd yn byw yn y goedwig. Felly hyd yn oed os maen nhw fel ti, Llygoden, ac yn cuddio i ffwrdd yn ystod y dydd, rwyt ti dal i fod yn gwybod eu bod nhw yno, yn sgrialu o amgylch y lle, yn dod â bywyd i bobman.”

Felly tra bod ti’n teithio wrth ymyl Llygoden, beth am edrych am olion traed a phawen yr anifeiliaid gwahanol? Gall rhain fod yn olion llwynog, adar, llygoden…bydden nhw mewn llefydd ble mae’r baw wedi sychu, neu efallai ar ben y ffens. Gallet ti dynnu llun ohonyn nhw, neu gymryd llun, a mynd â nhw gyda ti i ddangos yr hen goeden.

A phaid anghofio i gysuro Llygoden wrth iddo fe deithio. “Un cam o flaen y llall. Bant â fi. Bant â fi. Bant â fi.”