Ein Nodau

Ein Nodau i wneud Caerdydd yn Ddinas sy’n Dda i Blant

Caerdydd yw’r ddinas gyntaf yng Nghymru i gymryd rhan ym menter DU gyfan UNICEF, Dinasoedd a Chymunedau sy’n Dda i Blant. Ein huchelgais yw i Gaerdydd gael ei hadnabod fel dinas sy’n dda i blant: dinas â phobl ifanc wrth ei gwraidd, lle mae hawliau plant a phobl ifanc yn cael eu parchu, a lle sy’n wych i gael eich magu.

Rydym yn cydnabod pwysigrwydd sefydlu dull ar sail hawliau plant trwy’r gwasanaethau cyhoeddus i ddod ag atebion parhaol i broblemau cymhleth. Mae’n rhaid i ddiddymu rhwystrau sy’n atal ein plant a phobl ifanc rhag pontio’n llwyddiannus i fyd gwaith, dod â’r canlyniadau gorau i blant sydd yn ein gofal a helpu pobl ifanc i fyw yn annibynnol fod yn flaenoriaeth gan bawb.

Bydd hyn yn gofyn am i bartneriaid weithio gyda’i gilydd i wneud dinas lle caiff lleisiau, anghenion, blaenoriaethau a hawliau plant a phobl ifanc fod wrth galon polisïau, rhaglenni a phenderfyniadau cyhoeddus.

Byddwn yn gweithio gyda’n gilydd i greu dinas lle gall pob plentyn a pherson ifanc:

  • Ddeall ei hawliau a dylanwadu ar benderfyniadau sy’n effeithio ar ei fywyd;
  • Cael cyfle cyfartal ym mhob peth a wna;
  • Bod yn ddiogel, cael ei barchu a pheidio ag wynebu unrhyw fath o wahaniaethu neu niwed;
  • Profiad a rhannu caredigrwydd yn ei fywyd bob dydd;
  • Symud o gwmpas yn annibynnol ac yn ddiogel a gallu mwynhau rhyddid y ddinas;
  • Cael dechrau da mewn bywyd a thyfu’n iach a chael gofal;
  • Profi addysg gynhwysol o safon uchel sy’n ei baratoi at fywyd;
  • Cael gafael yn hawdd ar unrhyw wybodaeth, cyngor neu gymorth y mae arno eu hangen a phan fo eu hangen.
  • Rhannu llwyddiant y ddinas ar ei holl ffurfiau, beth bynnag fo cefndir y plentyn neu berson ifanc.

Meysydd blaenoriaeth 2023 -2026:

Dyma restr o feysydd blaenoriaeth presennol Caerdydd sy’n Dda i Blant fydd yn gweld cyfres o waith yn cael ei gyflawni sy’n cyfrannu at ein set uchelgeisiol o ganlyniadau.

Addysg Hawliau Plant

Deilliant: Ar draws y ddinas, mae gan blant, pobl ifanc ac oedolion wybodaeth dda am hawliau plant ac mae plant yn cael eu cefnogi’n weithredol i fanteisio ar eu hawliau.

Lle – Cynllunio a Dylunio Dinesig

Deilliant: Mae cynllunio trefol yn cael ei ategu gan ymchwil gyfranogol ar brofiadau plant a phobl ifanc o’u cymunedau, gan gynnwys y ffordd y maent yn symud o gwmpas y ddinas ac yn mwynhau mannau cyhoeddus.

Cyfranogiad

Deilliant: Defnyddir safbwyntiau a phrofiadau plant a phobl ifanc yn gyson i lywio dylunio, datblygu a gwerthuso polisïau, gwasanaethau a rhaglenni.

Cyfartal ac yn Cael eu Cynnwys

Deilliant: Mae pob plentyn a pherson ifanc yn cael eu trin ag urddas a pharch ac yn rhydd rhag gwahaniaethu