Haf o Hwyl

Haf o Hwyl

Cynhyrchiad Caerdydd sy’n Dda i Blant

Ar ôl llwyddiant Gwên o Haf a Gaeaf Llawn Lles y llynedd, mae Caerdydd sy’n Dda i Blant yn dod â’r ŵyl “Haf o Hwyl” i blant a phobl ifanc Caerdydd dros wyliau’r haf.

Bydd Haf o Hwyl 2022 yn cefnogi cenedlaethau’r dyfodol Caerdydd gyda’u lles cymdeithasol, emosiynol, meddyliol a chorfforol dros yr haf ac yn parhau â gwaith hanfodol adferiad cyfeillgar i blant y ddinas, a ddechreuodd ar ôl y pandemig.

Trefn Gŵyl Haf o Hwyl

Gweithgareddau Ledled y Ddinas

23 Gorffennaf i 5 Medi

Mae Caerdydd sy’n Dda i Blant eisiau cyrraedd cymaint o blant a phobl ifanc â phosibl a chefnogaeth i gael hwyl a meithrin eu lles cymdeithasol, emosiynol, meddyliol a chorfforol dros Wyliau’r Haf. Er mwyn cysylltu â chymaint o bobl â phosibl, rydym yn cefnogi nifer fawr o sefydliadau i ddarparu ystod eang o weithgareddau ym mhob rhan o’r ddinas.

Edrychwch ar y map isod i weld pa sefydliadau sy’n cymryd rhan yn eich ardal chi! Isod mae rhestr lawn o gyfleoedd a manylion ar sut i gymryd rhan.

Tîm Diogelwch ar y Ffyrdd, Canolfan Hamdden Maindy

Mae Tîm Diogelwch ar y Ffyrdd Cyngor Caerdydd yn cynnig hyfforddiant beicio gan blant 4 oed a hŷn, a bydd hyn yn cael ei ddarparu ar draws i weithgareddau. 

Dysgu Beicio: Galluogi plant i gadw cydbwysedd a gwneud i’w beic fynd i’r man lle maen nhw eisiau hynny. Yn gallu dechrau a stopio. Yn gallu edrych y tu ôl a chynnal cyfeiriad a rheolaeth ar eu beic. 

Bydd pob sesiwn yn rhedeg o 1:30pm-2:30pm ar y dyddiadau canlynol: 25 Gorffennaf, 1 Awst, 8 Awst, 15 Awst, a 22 Awst

Cyrsiau hyfforddiant beicio (8+) Safon Genedlaethol L1/2: 5 x cwrs 4 diwrnod. Cynhelir pob cwrs am 10am-12pm (Llun-Iau) yn dechrau ar y dyddiadau canlynol: 25 Gorffennaf, 1 Awst, 8 Awst, 15 Awst, a 22 Awst. Bydd y cwrs yn edrych fel hyn:

  • Diwrnod 1: asesiad sgiliau a beiciau
  • Diwrnod 2: cychwyn taith ar y ffordd, pasio car wedi’i barcio a ffordd ymyl
  • Diwrnod 3: Troi i’r chwith o ffordd fawr i ffordd fach ac i’r dde o ffordd fach i ffordd fawr, tro pedol.
  • Diwrnod 4: Troi i’r chwith o ffordd fach i ffordd fawr ac i’r dde o ffordd fawr i ffordd fach

Mae’r digwyddiad hwn yn llawn. I gael rhagor o wybodaeth cysylltwch â rs01@caerdydd.gov.uk

Canolfan Hwylio Caerdydd, Bae Caerdydd 

Yn ystod y sesiwn, byddwch yn neidio ar fwrdd ein cwch celfad J/80 ‘MoJo’ sy’n un o’r cychod celfad un dyluniad 26 troedfedd mwyaf poblogaidd yn y byd. 

Bydd un o’n hyfforddwyr profiadol a chyfeillgar yn ymuno â chi i ‘ddangos y rhaffau i chi’ a’ch cyflwyno i fyd cyffrous hwylio.  

Byddwch yn mynd i hwylio o amgylch yr hyfryd Fae Caerdydd a byddwch yn dechrau dysgu beth yw hwylio. Byddwch yn cael rheoli’r hwyliau yn ogystal â chael cyfle i lywio’r cwch, i gyd mewn amgylchedd diogel a hwyliog! 

Mae’r digwyddiad hwn yn llawn. I gael rhagor o wybodaeth ewch I https://www.cbwac.com/sailing/

Parc Dŵr Caerdydd, Bae Caerdydd

Mae’r Parc Dŵr yn gwrs rhwystrau ar ddŵr, lle gall cyfranogwyr lithro, sblasio a dringo eu ffordd o gwmpas, gan gael hwyl mewn amgylchedd diogel.  

Llithro, slipio, sblasio a rhannu oes o chwerthin! 

Mae gan y Parc Dŵr llawn offer gwynt arnofiol fwy na 72 o rwystrau gan gynnwys waliau dringo, trampolinau, barrau cydbwyso, llithrennau, sachau ffrwydro a barrau mwnci, sy’n ei wneud yn barc dŵr mwyaf Cymru a’r diwrnod mas gorau i grwpiau, teuluoedd, plant a’r rhai sy’n gaeth i adrenalin! 

Mae’r digwyddiad hwn yn llawn. I gael rhagor o wybodaeth ewch i Gwefan AquaPark

Young Driver Training Limited, Canolfan Hamdden Maendy   

Profiad gyrru 30 munud i blant rhwng 10 ac 17 oed.  Rhaid i yrwyr fod o leiaf 1.42m o dal i gymryd rhan yn y profiad.  Mae’r profiad hwn ar gael am bris arbennig o £12 y pen yn unig. 

I gael rhagor o wybodaeth a phrynu tocyn ewch i Gwefan YoungDrivers.EU

Chwaraeon Caerdydd, Pwll Rhyngwladol Caerdydd 

Sesiwn nofio fer ym Mhwll Rhyngwladol Caerdydd wedyn taith beicio fer o gwmpas y pentref chwaraeon wedyn sesiwn rhedeg fer ar hyd Llwybr Bae Caerdydd. Dewch â beic ond os nad oes un gennych, rhoddir un i chi. Mae helmedau’n orfodol yn y digwyddiad hwn. Dewch ag unrhyw luniaeth y gallai fod ei hangen arnoch ar ôl y gweithgaredd. 

I gael rhagor o wybodaeth a phrynu tocyn ewch i Gwefan Gotri

Fydd adran Chwaraeon yr Urdd yng Nghaerdydd yn cynnal amrywiaeth o weithgareddau chwaraeon drwy gyfrwng y Gymraeg ar hyd y Gwyliau Haf. Bydd y ddarpariaeth yn cynnwys gwersylloedd chwaraeon diwrnod llawn mewn amrywiaeth o leoliadau gan gynnwys Grange Pavillion, Glantaf, Gwaelod y Garth a Bro Edern i blant 6 i 11 mlwydd oed.

Byddwn hefyd yn cynnal sesiynau hwyl i’r teulu ar draws 5 parc lleol gan gynnwys Caeau Llandaf, Mynydd Bychan, y Marl, Trelai a Hailey.

Yn ogystal â hyn, byddwn yn cynnal gwers nofio ddwys ar draws 3 chanolfan hamdden leol [Maendy, Sblot a Dwyrain].

Bydd amrywiaeth o sesiynau ar gael i fenywod 14-25 oed i fynychu megis Breaking, ffitrwydd neidio a sesiwn ffitrwydd. Rydym yn darparu cyfleoedd cynhwysol a hygyrch i blant a phobl ifanc ymuno, profi a datblygu sgiliau chwaraeon mewn amgylchedd hwyliog a chroesawgar.  

I gael rhagor o wybodaeth a gael tocyn ewch i Gwefan Urdd

Fel rhan o ŵyl “Haf o Hwyl” Cyngor Caerdydd, rydyn ni’n estyn gwahoddiad i blant a phobl ifanc 12+ oed i ddod draw i Ganolfan Mileniwm Cymru i abseilio waliau ein hadeilad eiconig ym Mae Caerdydd.

Cynhelir sesiynau ar ddydd Sadwrn 3 Medi a dydd Sul 4 Medi o 11am i 5pm.

Bydd modd naill ai archebu slot amser ymlaen llaw neu droi lan ar y diwrnod – cyhyd â bod slotiau amser ar gael.

Rhaid i unrhywun dan 18 ddarparu llofnod o ganiatâd gan riant/warcheidwad neu athro/weithiwr cefnogi.

I gael rhagor o wybodaeth a phrynu tocyn ewch i Gwefan Canolfan Mileniwm Cymru

Ydych chi rhwng 14 a 17 oed, ac yn ymddiddori mewn creu theatr sy’n berthnasol i’r byd rydych chi’n byw ynddo heddiw?

Mae Canolfan Mileniwm Cymru yn falch o gyhoeddi rhaglen theatr ieuenctid newydd sbon am ddim, lle byddwch chi’n dysgu sgiliau theatr a pherfformio newydd mewn gofod cyfeillgar a chynhwysol.

Yn ystod y rhaglen, byddwch chi’n datblygu eich dealltwriaeth o’r holl elfennau sy’n rhan o greu gwaith theatr da – o ymchwilio a datblygu syniadau, i gynllunio setiau a rhoi perfformiad o fri.

Ymarferwyr proffesiynol fydd yn arwain y cwrs, a byddant wrth law i rannu eu safbwyntiau unigryw o fyd y theatr, gan roi’r man cychwyn perffaith i chi i ddiwylliant celfyddydol ffyniannus Cymru.

I gael rhagor o wybodaeth a gael tocyn ewch i Theatr Ieunctid | Canolfan Mileniwm Cymru

Rhaglen Celfyddydau a Diwylliant (Arts Active)

Drwy gydol mis Gorffennaf ac Awst mae Actifyddion Artistig yn gweithio gyda phartneriaid ledled y ddinas i gynnal amrywiaeth o ddigwyddiadau a gweithgareddau celfyddydol hwyl i blant, pobl ifanc a theuluoedd.

Ein prif ddigwyddiad fydd Out of Doors Live yn yr ŵyl Haf o Hwyl ar Lawnt Neuadd y Ddinas lle bydd gennym raglen o weithgareddau ac adloniant celfyddydol rhwng 23 Gorffennaf a 7 Awst. Yn ogystal â hyn, byddwn yn mynd allan i ganolfannau cymunedol, canolfannau ieuenctid a chanolfannau hamdden ledled Caerdydd i gynnig mwy o weithgareddau celfyddydol hwyl i bawb o bob oedran.

Hefyd, cadwch lygad am rai o’n digwyddiadau haf rheolaidd yn Neuadd Dewi Sant – mae Prom y Plant i blant dan 5 a Phrom y Teulu ill dau’n cynnig cyfle i deuluoedd weld cerddoriaeth fyw wych gyda straeon, cymeriadau a rhyngweithio i gyfareddu’r gynulleidfa.

Byddwn yn diweddaru rhaglen weithgareddau Haf o Hwyl Actifyddion Artistig yn rheolaidd ar ein gwefan, felly cadwch olwg ar www.artsactive.org.uk. Hefyd, byddwn yn postio gwybodaeth fanylach am y digwyddiadau hwyl hyn drwy ein cyfryngau cymdeithasol.

Perfformiadau:

Welsh Government logo