Cyngor Ieuenctid Caerdydd

Cyngor Ieuenctid Caerdydd (CIC) yw rhwydwaith swyddogol Caerdydd i bobl ifanc rhwng 11 a 25 oed sy’n hyrwyddo newid cadarnhaol ledled y ddinas.

Mae gan CIC ddau aelod o Senedd Ieuenctid etholedig ac maent yn aelodau o Gyngor Ieuenctid Prydain.

Mae’r CIC yn cwrdd yn fisol ac yn gweithio ar flaenoriaethau a osodir gan bobl ifanc ledled y ddinas.  Mae pobl ifanc hefyd yn dewis bod yn rhan o is-grwpiau ychwanegol sy’n cwrdd y tu allan i’r prif gyfarfod gyda’r nod o wneud Caerdydd yn lle gwell i bobl ifanc fyw, gweithio a chwarae ynddo.

Sut mae cymryd rhan?

Gall unrhyw un fod yn rhan o CIC, am fwy o fanylion Cysylltwch Jamie Scriven (jamie.scriven@cardiff.gov.uk)