Caerdydd yn Ddinas sy’n Dda i Blant

Caerdydd yn Ddinas sy’n Dda i Blant
Gwireddu hawliau yng Nghaerdydd

Ein Nodau i wneud Caerdydd yn Ddinas sy’n Dda i Blant

Caerdydd yw’r ddinas gyntaf yng Nghymru i gymryd rhan ym menter DU gyfan UNICEF, Dinasoedd a Chymunedau sy’n Dda i Blant . Ein huchelgais yw i Gaerdydd gael ei hadnabod fel dinas sy’n dda i blant: dinas â phobl ifanc wrth ei gwraidd, lle mae hawliau plant a phobl ifanc yn cael eu parchu, a lle sy’n wych i gael eich magu.

Byddwn yn gweithio gyda’n gilydd i greu dinas lle gall yr holl blant a phobl ifanc rannu eu barn a chael mewnbwn ar benderfyniadau sy’n cael eu gwneud a fydd yn effeithio arnynt.

Gweld ein nodau, lawrlwytho ein strategaeth a’n hadroddiadau blynyddol.

A oes gennych syniad neu awgrym ar sut y gallwn wneud Caerdydd yn Ddinas sy’n Dda i Blant? Os felly rhannwch nhw gyda ni.