Cynlluniau Ysgolion Iach – Rhwydwaith Cymru Tîm Ysgolion Iach Caerdydd

Rhwydwaith Cymru Tîm Ysgolion Iach Caerdydd

Saith Pwnc Iechyd Allweddol

Mae Tîm Ysgolion Iach Caerdydd o Wasanaeth Addysg Caerdydd yn cefnogi holl ysgolion yr Awdurdod Lleol i gyflawni dull gweithredu ysgol gyfan o hyrwyddo iechyd a lles. Ceir saith pwnc iechyd allweddol:

  • Bwyd a Ffitrwydd (gan gynnwys agweddau fel darpariaeth bwyd a diod, bwyta’n iach a choginio ymarferol, hydradu, addysg gorfforol a chwarae actif)
  • Iechyd a Lles Meddyliol ac Emosiynol (gan gynnwys agweddau fel asesiadau lles disgyblion, darpariaeth gyffredinol a thargedig, lles staff, a gwrth-fwlio)
  • Datblygiad Personol a Pherthnasoedd (gan gynnwys Addysg Rhyw a Pherthnasoedd)
  • Defnyddio a Chamddefnyddio Sylweddau (gan gynnwys agweddau megis meddyginiaethau, ysmygu, alcohol a chyffuriau)
  • Amgylchedd (cysylltu â’r rhaglen Eco-Sgolion, Masnach Deg ac amgylchedd yr ysgol)
  • Diogelwch (gan gynnwys agweddau megis diogelu, e-ddiogelwch, diogelwch yn yr haul, diogelwch ar y ffyrdd)
  • Hylendid (gan gynnwys agweddau megis rheoli haint, hylendid y geg, golchi dwylo, hylendid toiledau, hylendid bwyd)

Agwedd Ysgol Gyfan

Er mwyn datblygu a sefydlu agwedd ysgol gyfan tuag at bob pwnc iechyd, eir i’r afael â’r agweddau canlynol:

  • Arweinyddiaeth a Chyfathrebu – Polisi a gweithdrefnau, hyfforddi staff, cysylltu â mentrau lleol a chenedlaethol
  • Cwricwlwm – Sicrhau bod adnoddau perthnasol yn cael eu defnyddio a’u cysylltu â chwricwlwm newydd Cymru, ynghyd â darpariaeth y tu allan i oriau
  • Ethos ac Amgylchedd – Cynnwys llais a chyfranogiad y disgybl, cyfranogiad y staff ac amgylchedd sy’n cefnogi iechyd a lles
  • Cynnwys Teuluoedd a’r Gymuned – cynnwys rhieni/gofalwyr/teuluoedd a llywodraethwyr, gan gysylltu â sefydliadau partner lleol

Mae gan bob ysgol yng Nghaerdydd Swyddog Ysgolion Iach dynodedig, sy’n cefnogi’n uniongyrchol cydlynwyr ym mhob ysgol i fynd ati i hyrwyddo ac ymgorffori’r pynciau allweddol hyn yng Nghymuned yr ysgol. Mae ysgolion yn symud ymlaen drwy’r cynllun drwy greu cynlluniau gweithredu a chwblhau achrediadau ar ddiwedd pob cam. Yna, mae ysgolion yn parhau â’u dilyniant drwy gyflawni’r Wobr Ansawdd Genedlaethol (GAG). Mae’r GAG yn wobr fawreddog a asesir yn annibynnol, sy’n dathlu ymrwymiad ysgol i iechyd a lles ei disgyblion, staff a chymuned yr ysgol gyfan.

 

Sut mae’r Tîm Ysgolion Iach yn cefnogi ysgolion?

  • Ymweliadau cymorth ag ysgolion er mwyn gweithredu cynllun o amgylch y 7 pwnc iechyd allweddol
  • Cwblhau achrediadau camau lleol, lle mae ysgolion yn ennill plac cydnabyddiaeth.
  • Gweithio gydag asiantaethau partner a chyfeirio ysgolion i gymorth perthnasol
  • Darparu a hwyluso hyfforddiant staff ar amrywiaeth o bynciau iechyd.
  • Datblygu adnoddau a phecynnau cymorth i helpu i gyflawni’r cwricwlwm
  • Datblygu templedi polisi perthnasol
  • Rhannu a benthyca adnoddau i gefnogi’r pynciau allweddol hyn
  • Trefnu digwyddiadau rhwydweithio ar gyfer ysgolion a sefydliadau partner
  • Rhannu gwybodaeth drwy e-fwletinau, cylchlythyrau a chyfryngau cymdeithasol.

Os hoffai eich ysgol gael rhagor o gymorth gyda’r cynllun, cysylltwch â’ch swyddog ysgolion iach.

Gweithgareddau iechyd a lles yn y cartref ar gyfer teuluoedd

Dyma restr o adnoddau ac asiantaethau cefnogi a all helpu staff ysgol, disgyblion a rhieni/gofalwyr yn ystod y cyfnod hwn o hunanynysu gartref. Mae croeso i chi rannu a hefyd tagio Tîm Ysgolion Iach Caerdydd ar Twitter gydag unrhyw weithgareddau: @YsgolionIachCaerdydd

Adrannau

1. Gwefannau gyda gweithgareddau iechyd a lles

2. Hybiau Gwybodaeth Eraill

3. Cymorth Meddyliol ac Emosiynol i blant a phobl ifanc – gwefannau, llinellau ffôn, gwasanaethau testun

4. Gwasanaethau gwybodaeth a chymorth i rieni/gofalwyr

Lawrlwythwch yr adnodd yn Gymraeg (1mb PDF)

Lawrlwythwch yr adnodd yn Saesneg (1mb PDF)

Cyfeiriadur i Gefnogi Addysg Perthynasoedd Iach

Mae timau Ysgolion Iach a Chwricwlwm am Oes Caerdydd yng Ngwasanaeth Addysg Caerdydd wedi datblygu cyfeirlyfr i helpu ysgolion gael cymorth a gwasanaethau yn gysylltiedig ag Addysg Perthnasoedd Iach.

Lawrlwythwch yr adnodd yn Gymraeg (2mb PDF)

Lawrlwythwch yr adnodd yn Saesneg (2mb PDF)

Adnoddau i’ch Cynorthwyo i Siarad â’ch Plentyn am y Glasoed a Pherthnasoedd

Mae rhieni a gofalwyr ledled Cymru yn helpu eu plant i wneud gwaith ysgol o gartref ac mae hyn wedi bod yn adeg o ddysgu i lawer ohonom! Un agwedd sydd efallai heb gael ei meddwl amdani ar y dechrau yw helpu eich plentyn i ddysgu am dyfu i fyny a diogelwch personol.

Mae Tîm Ysgolion Iach Caerdydd wedi casglu rhai dolenni gwefannau ac awgrymiadau ar gyfer adnoddau ar-lein a all helpu rhieni/gofalwyr i gael gafael ar adnoddau perthnasol i gefnogi’r trafodaethau hyn.

Adnoddau Cynradd

Lawrlwythwch yr adnodd Cynradd yn Gymraeg (0.7mb PDF)

Lawrlwythwch yr adnodd Cynradd yn Saesneg (0.7mb PDF)

Adnoddau Uwchradd

Lawrlwythwch yr adnodd uwchradd yn Gymraeg (0.7mb PDF)

Lawrlwythwch yr adnodd uwchradd yn Saesneg (0.7mb PDF)

Bocsys Bwyd Iach i Ni

Mae Tîm Ysgolion Iach Caerdydd wedi rhoi gwybodaeth ddefnyddiol at ei gilydd i helpu myfyrwyr / rhieni / gofalwyr i baratoi pecynnau bwyd iach. Darperir y wybodaeth hon gan y bydd rhai ysgolion yn rhoi’r gorau i ddarparu prydau ysgol dros dro oherwydd COVID-19 a gall gwneud pecynnau cinio fod yn rhywbeth newydd i rai teuluoedd.

Gwefannau ac Appiau Defnyddiol

Gallai cymuned yr ysgol gyfan sef staff, myfyrwyr a rhieni/gofalwyr gael budd o edrych ar rai o’r gwefannau a argymhellir ac appiau defnyddiol. Efallai y bydd myfyrwyr yn hoffi gwneud ymchwil a chreu taflen wybodaeth ar gyfer eu hysgol, fel gweithgaredd cartref/ysgol

Bocsys Bwyd Iachach ‘Newid am Oes’
www.nhs.uk/change4life/recipes/healthierlunchboxes
Mae gan y wefan ddelweddau da o syniadau bocs bwyd. Mae’n cyfeirio at y Canllaw Bwyta’n Dda ac yn annog teuluoedd i ddewis un delwedd prif bryd, ychwanegu ffrwythau neu salad, rhywbeth bach arall, a hefyd diod. Mae enghreifftiau difyr e.e. ‘bytholwyrdd’, pob amser ychwanegu salad at frechdanau, gan ei fod yn cyfrif at un o 5 Y DYDD eich plentyn. ‘Newid y bariau ffrwyth’, ‘newid y losin’, ‘gwyliwch y dannedd!’.

App Sganio Bwyd ‘Newid am Oes’
Dysgwch faint o siwgr, braster dirlawn, halen a chalorïau sydd mewn bwyd a diodydd.
Dewch o hyd i god bar bwyd neu ddiod a’i sganio i weld beth sydd tu fewn. Mae hefyd yn cynnig dewisiadau byrbryd iachach y gallech eu gwneud. Ar ôl i chi lawrlwytho’r app gallwch ei ddefnyddio gartref neu wrth siopa am eitemau sydd i fod yn rhan o focs bwyd.

Sefydliad Maeth Prydain – Bwyd un o Ffeithiau Bywyd
www.foodafactoflife.org.uk
Gwefan wych ag adnoddau ar fwyta’n iach yn gyffredinol, Y Canllaw Bwyta’n Dda a bocsys bwyd ach. Yn cynnwys stori ac adnoddau ‘Y Bocs Bwyd Rhyfeddol’.

Veg Power

vegpower.org.uk
Os hoffech annog eich plentyn i fwyta mwy o lysiau, gweler y wefan Veg Power UK lle ceir gweithgareddau a ryseitiau y gellir eu lawrlwytho


Ystyriaethau Hylendid

Cyngor defnyddiol ar gadw eich bocs bwyd yn lân ac oer:

  • Golchwch eich dwylo cyn gwneud y bocs bwyd
  • Golchwch ffrwythau a llysiau
  • Glanhewch a sychwch eich bocs bwyd yn gywir bob dydd.
  • Os byddwch yn paratoi brechdanau / bwyd y noson gynt, storiwch nhw mewn oergell dros nos.
  • Os yw’n bosibl, defnyddiwch fag bwyd wedi’i inswleiddio a’i gadw’n lân â chwistrell gwrthfacterol
  • Defnyddiwch becynnau iâ neu botel o ddŵr wedi’i rewi
  • Cofiwch gadw’r bocs bwyd yn oer yn yr ysgol; sicrhewch ei fod yn cael ei gadw’n rhywle i ffwrdd o reiddiaduron ac ardaloedd cynnes/heulog.
  • Rhaid i blant ddilyn canllawiau’r ysgol ar gyfer COVID-19 wrth fwyta eu pecyn cinio yn yr ysgol e.e. golchi dwylo cyn bwyta a pheidio â rhannu bwyd

Ryseitiau

  1. Colslô crensiog
  2. Salsa tomato smyl
  3. Sgonau Caws a Pherlysiau
  4. Pizzas hawdd
  5. Myffins ffrwythau a rhai sawrus
  6. Fflapjacs crymbl ffrwythau
  7. Potiau teisen gaws a ffrwythau
  8. Tortilla iachus
  9. Sglodion tortilla cartref
  10. Pizzas maint fi
  11. Salad cwscws yr enfys
  12. Salad pasta heulog

Gwych bod Coginio Gyda’n Gilydd Cymru’n creu fideos ar sut i wneud ystod o’r ryseitiau hyn. Bydd y fideos hyn ar gael ar wefan Coginio Gyfa’n Gilydd Cymru: www.cookingtogether.co.uk/healthylunchboxes a gallwch fynd i dudalen Facebook ‘Coginio Gyda’n Gilydd Cymru’ a’u ffrwd Twitter (@cook_together1). Bydd tîm Ysgolion Iach Caerdydd yn hyrwyddo’r fideos ar ein tudalen Twitter @CdfHealthySch – Tagiwch ni gydag unrhyw luniau o ryseitiau ar y cyfryngau cymdeithasol!

Taflenni

Ysgolion Iach Caerdydd – Bocsys Bwyd Iach i Ni (Cynradd)

Ysgolion Iach Caerdydd – Bocsys Bwyd Iach i Ni (Uwchradd)

Taflen Bocs Bwyd ‘Newid am Oes’ (pdf 0.5mb)

Welsh Government Healthy Lunchbox leaflet 2019
Mae taflen A4 Llywodraeth Cymru ar gael yn Gymraeg a Saesneg ac mae’n cysylltu â’r Canllaw Bwyta’n Dda a labelu bwyd. Gellir rhannu hon gyda’r gymuned ysgol gyfan.

Mae Tîm Ysgolion Iach Caerdydd yn rhan o Wasanaeth Addysg y Cyngor, ac Iechyd Cyhoeddus Cymru – Cynlluniau Ysgolion Iach – Rhwydwaith Cymru (CYIRhC). Lansiwyd CYIRhC yn 1999 ac ‘Mae Sefydliad Iechyd y Byd (WHO) yn cydnabod bod y CYIRhC yn chwarae rôl allweddol yn hyrwyddo iechyd plant a phobl ifanc’.

Ewch i wefan Cynlluniau Ysgolion Iach – Rhwydwaith Cymru