Comisiynydd Plant Cymru – Cynlluniau Cenhadon

Cenhadon Gwych

Cenhadon Gwych cynllun Comisiynydd Plant Cymru â’r nod o hyrwyddo hawliau’r plant a’r CCUHP ymhlith plant Cyfnodau Allweddol 1 a 2.

Mae ysgolion yn ethol dau Llysgennad Gwych ar ddechrau pob blwyddyn. Swyddi’r llysgenhadon yw:

  • Dweud wrth bawb yn yr ysgol am y Comisiynydd a’i phwerau
  • Gwneud yn siwr bod disgyblion eraill yn gwybod am hawliau plant a CCUHP
  • Cwblhau tasgau arbennig i’r Comisiynydd yn eu hysgol i fwydo’n uniongyrchol i waith ein swyddfa.

Cynllun Myfyrwyr Genhadon

Mae ein Cynllun Myfyrwyr Genhadon yn hyrwyddo hawliau pobl ifanc a CCUHP ymhlith disgyblion yng Nghyfnodau Allweddol 3, 4, a 5.

Mae ysgolion yn ethol dau Lysgennad ar ddechrau pob blwyddyn. Mae gan Lysgenhadon Uwchradd tair dasg arbennig:

  • Dweud wrth ddisgyblion eraill am rôl y Comisiynydd
  • Sicrhau bod plant eraill yn gwybod am hawliau plant a CCUHP
  • Cwblhau tasgau i’r Comisiynydd yn eu hysgol. Mae’r tasgau hon yn bwydo’n uniongyrchol i waith ein swyddfa ac yn cael effaith mawr ar ein gwaith

Cenhadon Cymunedol

Plant a phobl ifanc sy’n rhan o grŵp o ddiddordeb arbennig ac sydd wedi gwirfoddoli i fod yn genhadon i fwydo i mewn i waith y Comisiynydd yw’r Cenhadon Cymunedol .