Llwybr Stori Cefn Onn

Y Bachgen â’r Sgarff Goch

1940 yw hi a mae Sion yn faciwi, yn aros gyda’i Anti Maud ofnadwy yn Llysfaen. Gyda dim byd i’w wneud, mae’n dod o hyd i barc prydferth, a bachgen unig sydd yn gwybod holl gyfrinachau’r lle. Ond pwy yn union yw Cecil? A pham ydy e mor unig?