Rhan 3

Roedd Sion a Cecil wedi bod yn chwarae ymysg y coed pinwydden tal am amser hir. Roedd arogl y coed pin yn felus ar yr aer a roedd Sion yn joia’i hun gymaint nes bod e wedi colli trac ar amser yn llwyr. Erbyn iddo fe sylweddoli bod e’n amser tê, achos roedd e’i fola’n teimlo’n wag, roedd cysgodion y coed yn hir ar lawr y goedwig.

“Hwyl fawr, Cecil,” dywedodd e’n gyflym. “Mae rhaid i mi fynd. Bydd fy modryb yn wyllt gacwn os mae hi’n sylweddoli nad ydw i yn y ty.”

“O na,” dywedodd Cecil, yn edrych yn drist. “Nei di ddod nôl yfory? Croeso i ti ddod unrhywbryd yr hoffet ti. Nid tresmasu yw hi os dwi’n rhoi caniatâd i ti, achos fy mharc i yw e.”

“Dwi’n gaddo,” meddai Sion, a rhedodd e mor gyflym â’r gwynt yn ôl i’r twll yn y llwyni. Gwasgodd e drwyddo a rhowlio’n bendramwngwl allan ar lawnt Anti Maud, just mewn pryd i’w gweld hi’n cerdded i lawr o’r ty. Crychodd ei thalcen hi wrth iddi ei weld e, a roedd Sion yn sicr ei fod e ar fin cal stwr.

“Ble ar y ddaear wyt ti wedi bod? Roeddwn i’n poeni amdanat ti.”

“Lawr y pant ro’n i, na gyd.”

“Tir preifat yw’r pant. Nid wyt ti am fynd yno.”

“Wedodd y bachgen sy’n byw ’na bod e’n iawn. Wedodd e bod e ddim yn tresmasu os mae e’n rhoi caniatad i mi.”

Gwgodd Anti Maud hyd yn oed y fwy. “Does dim bachgen yn y byw yn y pant,” dywedodd hi. “Nid oes wedi bod bachgen yno am dros ugain mlynedd. Nawr dere mewn a golcha dy hun yn barod am swper. Ti’n edrych fel dy fod ti wedi bod lawr y pwll glo.”

Penderfynodd Sion bod hi’n synhwyrol iddo beidio dweud mwy. Ond penderfynodd e hefyd i anwybyddu gorchymyn Aunt Maud i beidio fynd i lawr y pant eto. Wedi’r cyfan, roedd Cecil wedi gofyn iddo fe’n arbennig i ddychwelyd. Ac roedd e wedi edrych mor drist pan roedd Sion yn gadael. Felly roedd yn rhaid i Sion fynd yn ôl, i gadw cwmni iddo.

Y diwrnod wedyn, pan aeth Anti Maud i orffwys, dyma Sion yn gwasgu trwy’r llwyn a mynd i fewn i’r pant unwaith eto. Daeth e o hyd i Cecil yn ddigon hawdd. Roedd sgarff goch Cecil yn ddigon llachar nes bod e’n dangos trwy’r coed er chwaith yr holl flodau o amgylch.

Un o’r diwrnodau gorau y gafodd Sion erioed oedd hi. Dangosodd Cecil iddo’r coed gorau i’w dringo. Dyma nhw’n creu’r pasti mwd gorau roedd Sion erioed wedi gwneud. Roedd Cecil yn gwbod gymaint am yr holl flodau a’r coed a’r byd natur yn y pant.

Roedd hi’n wir, meddyliodd Sion, bod Cecil weithiau’n siarad yn od, fel nad oedd e’n dod o’r amser ’ma o gwbl. Nid oedd e’n gwbod dim am y rhyfel, er enghraifft, a roedd e wedi’i synnu pan soniodd Sion ei fod e’n faciwi, yn aros gyda’i fodryb o achos y bomiau. I fod yn onest, nid oedd Cecil yn gwybod taw 1940 oedd hi. Roedd e fel petai bod e’n byw mewn byd gwahanol. Weithiau, roedd e’n siarad am bethau nad oedd Sion yn gwybod am o gwbl, neu bethau oedd wedi digwydd amser maith yn ôl, fel petai oedden nhw wedi digwydd ddoe.

Meddyliodd Sion mae’n rhaid bod Cecil yn aros yn y pant drwy’r amser. Dyna oedd y rheswm doedd e ddim yn gwbod lot. Ond roedd hynny’n iawn, meddyliodd. Roedd y pant yn lle mor hyfryd roedd hi’n ddigon teg treulio dy holl amser di yno.

Weithiau, dywedodd Cecil bethau od. “Mae’r pwll nofio yn perthyn i fi,” dywedodd e unwaith. “Cafodd ei adeiladu i wneud fi’n iach eto.”

Sylweddolodd Sion fod Cecil yn sôn am y pwll, yr un rwyt ti wedi cerdded heibio. Ond rwyt ti wedi’i gweld hi hefyd. Mae’n llawn brwyn a lilis a chwyn dwr. Sut gallai fod yn bwll nofio?

Tro ma, gwnaeth Sion yn sicr i adael y pant mewn amser da i fod adre am swper cyn i Anti Maud ddeffro. Ond roedd chwant bwyd uffernol arno ar ôl yr holl ymchwilio a chwarae gyda Cecil lawr y pant nes bod e’n bwyta tri plât cyfan o datws wrth ymyl ei bastai. Roedd Anti Maud yn edrych yn amheus wrth iddi hi glirio’r platiau.

“Beth wyt ti wedi bod yn gwneud?” gofynnodd iddo.

“Dim byd o gwbl,” meddai Sion. “Ymarfer symiau, fel wedest ti i mi wneud.”

“Nid llo heb eu luo ydw i,” meddai hi. “Wyt ti wedi bod i lawr y pant eto? Jyst bydd yn ofalus. Mae’n breifat.” Ochneidiodd hi’n ddwfn. “Roeddwn i arfer mynd lawr ’na pan ro’n i’n ferch. Roedd gen i ffrind o’n i’n arfer cwrdd a lawr na. Beth oedd ei enw e eto? Na, dwi methu cofio. Mae gormod o amser wedi pasio. Ond dwi’n cofio roedd e bob amser yn gwisgo sgarff. Sgarff goch.”

Teimlodd Sion iâs yn rhedeg i lawr ei gefn.

“Odd e’n gwisgo sgarff goch?”

“Ie, ’na fe. Nid oedd e’n iach iawn, ti’ wel. Roedd e bob amser yn gwisgo’r sgarff ’na, i’w gadw fe’n gynnes, er chwaith y tymheredd, hyd yn oed yn yr haf.” Syllodd yn graff arno’n sydyn. “Amser bath, os gwelwch yn dda. Ti’n faw i gyd.”

Aeth Sion lan llofft, ei galon yn curo’n gyflym yn ei fron. Nid oedd e cweit yn gallu gweithio mas am beth roedd ei fodryb wedi sôn. Ond doedd e ddim yn siwr ei fod e am fynd yn ôl i’r pant. Nid eto. Roedd rhywbeth wedi’i ofni.

Os wyt ti am ddod o hyd i beth sy’n digwydd nesaf, bydd angen i ti fod yn fwy ddewr na Sion a pharhau i archwilio. Dilyna’r llwybr i ffwrdd o’r pwll nes bod ti’n dod i bont fach o garreg.