Rhan 5

Roedd Anti Maud mor grac ’nath hi ddim dweud gair, a roedd hwnna rywsut yn waeth nag os oedd hi wedi rhoi stwr iddo. Dyma hi’n martsio Sion yn ôl i’r ty a’i orfodi i eistedd a bwyta’i swper, a oedd yn oer, ond roedd Sion yn gwybod i beidio cwyno. Pan oedd e wedi gorffen, rhoddodd hi’r platiau yn y gegin, yn gwneud lot mwy o swn nag oedd angen. O’r diwedd, stompiodd hi yn ôl i fewn i’r ystafell fwyta.

“Symiau,” dywedodd hi. “Pob dydd, am byth, o hynny’n mlan.”

Suddodd galon Sion.

“Na, plîs,” erfynnodd. “Dwi mor sori, Anti Maud. Colles i drac ar amser achos doeddwn i ddim am adael Cecil ar ben ei hun lawr y pant. Roedd e mor unig hebdda i. ’Dyw neb byth yn ymweld â fe.”

Roedd yna dawelwch. Roedd gwyneb Anti Maud wedi mynd yn welw. Eisteddodd hi i lawr yn gyflym.

“Cecil, wedest ti?”

“Ie. Dyna yw enw’r bachgen lawr y pant, yr un dwi wedi bod yn chwarae efo.”

“Nefoedd annwyl.” Rhoddodd ei fodryb ei llaw dros ei chalon. Yna, syllodd yn graff ar Sion. “Cecil oedd enw fy ffrind. Yr un ro’n i arfer chwarae efo yn y pant, amser maith yn ôl.”

Teimlodd Sion iâs yn rhedeg i lawr ei gefn. Gwyddai nawr fod ei amheuon am Cecil yn wir, y rhai roedd e wedi trio anghofio. Nid o’r cyfnod yma oedd Cecil. Dyna pam roedd e’n siarad mor od, mor henffasiwn, ac yn sôn am bethau oedd wedi digwydd amser maith yn ôl fel roedden nhw wedi digwydd ddoe.

Ife atgof oedd Cecil, atgof o berson oedd wedi byw yn y gorffennol?

Aeth Anti Maud yn ei blaen. “Ie – Cecil, ’na fe. Roeddwn i wedi anghofio’n llwyr amdano fe. Nid bachgen bach iachus oedd e. Roedd ei dad wedi adeiladu’r pant iddo fe, gyda’r pwll nofio a’r ty haf, fel ei fod e’n gallu cael awyr iach ac yn gallu gwneud ymarfer corff a gwella’i iechyd. A mi ’nath e weithio, am amser. Ond nid am byth. Dwi’n cofio nawr. Bu farw. Bu farw Cecil.”

“Wyt ti’n meddwl dwi wedi bod yn chwarae lawr y pant yr holl amser ’ma gyda – ysbryd?” gofynnodd Sion. Yn sydyn, teimlodd e’n ofnus.

Ymestynodd Anti Maud ato a chymryd ei law. “Paid â bod ofn. Mae’n edrych i fi fel petai bod Cecil yn teimlo’n unig. Wedest ti bod neb yn dod i ymweld â fe? Weithiau mae atgofion y bobl ag oedd yn byw cyn ni yn aros, yn y llefydd roedden nhw’n caru pan oedden nhw’n fyw. Dwi’n meddwl y dylet ti barhau i ymweld â Cecil.”

Sylweddolodd Sion rywbeth yn sydyn. “Dylet ti ddod gyda fi tro nesa’! Dwi’n siwr fydd Cecil yn caru gwel’ ti – gan mai ffrindiau oeddech chi.”

Ond roedd Anti Maud yn ysgwyd ei phen hi. “Na, dwi ddim yn meddwl y fedra i, Sion. Mae’n wahanol i fi. Mae gormod o amser wedi pasio. Dwi ddim yn meddwl y fedra i ei weld e fel rwyt ti’n gallu. Dwi’n meddwl fy mod i wedi tyfu lan gormod erbyn hwn.”

A sylweddolodd Sion nad oedd Anti Maud mor wael ag oedd e’n meddwl. Dim o gwbl. I fod yn onest, roedd hi’n wych. A roedd aros gyda hi yn mynd i fod yn iawn, ac, yn fwy pwysig byth, roedd swydd bwysig gyda fe i’w wneud, lawr y pant, yn ymweld â’r bachgen o’r gorffennol.

Beth am i ti eistedd nawr, fan hyn, ble roedd Sion a Cecil yn arfer eistedd gyda’i gilydd, yn y ty haf, yr un gafodd ei adeiladu yn arbennig ar gyfer Cecil? Beth wyt ti’n gallu clywed, gweld, arogli? Fan hyn yn y lle hyfryd hwn, sy’n dal atgofion y gorffennol.

Ar ôl ychydig, daeth amser Sion yn y pant i ben. Roedd y bomio wedi gorffen ac aeth e yn ôl at ei fam. Roedd e’n poeni y bydd Cecil yn unig eto hebddo. Ond, wrth i’r ryfel orffen, digwyddodd rywbeth arbennig.

Pasiwyd y pant i fewn i berchnogaeth gyhoeddus. Nawr, y cyngor oedd yn perthyn y pant. Agorwyd y pant fel parc i bawb. Y parc yma. Parc Cefn Onn.

Gwyddai Sion nawr y bydd nifer fawr o bobl yn dod yma i ymweld â Cecil. Ni fydd Cecil byth yn unig eto. Roedd e’n gwybod y bydd Cecil yn mwynhau gwylio teuluoedd yn archwilio’r llwybrau cyfrinachol, a bwyta picnics yn yr haul, a gwylio’r bywyd gwyllt. Gwyddai Sion y bydd pobl yn dod yma er chwaith y tywydd, yn y glaw a’r eira a’r haul, a bydd plant yma drwy’r amser fel bod Cecil gyda ffrindiau, a phobl i ddangos cyfrinachau’r parc iddyn nhw.

Felly ni ddychwelodd Sion am amser maith. Dim ond pan roedd e’n hen ddyn gyda wyrion ei hun y ddaeth e nôl un diwrnod, i fynd am dro, fel rwyt ti’n gwneud. Roedd e’n gwybod ei fod e’n rhy hen erbyn hwn i weld Cecil. Ond roedd yna un funud, pan safodd e yma, ar bwys y ty haf, a meddyliodd ei fod e wedi gweld fflach sgarff goch allan o gornel ei lygaid. Gwenodd i’w hun. Cofiodd yn ôl i’r amser pan oedd e’n fachgen ifanc, yn rhedeg y llwybrau hwn gyda bachgen arall, mewn cap fflat a oedd yn siarad fel ei fod e’n dod o amser gwahanol. Cofiodd wneud ei symiau mewn hen dy tywyll Anti Maud. Cofiodd wasgu o dan y llwyn i ddod i’r pant pan oedd hi’n dawel a dim ond fe a Cecil oedd yn gwybod ei gyfrinachau.

Roedd y pant hyd yn oed yn well fel hwn, meddyliodd Sion. Yn llawn pobl. Yn llawn bywyd.

Efallai fyddet ti’n ddigon lwcus i weld fflach sgarff goch wrth i ti gerdded heddi. Efallai, os wyt ti’n lwcus iawn, bydd Cecil yn dangos rai o gyfrinachau Cefn Onn i ti wrth i ti fynd. Ond dim ond os wyt ti’n ddewr y fyddet ti’n eu gweld nhw, os wyt ti’n camu oddi ar y llwybr, ac ymchwilio, a charu’r parc hwn yn union fel y mae ef, a fel y bydd e’n ei garu am byth.