Panel Dinasyddion Phobl Ifanc

Mae’r Panel Dinasyddion Plant a Phobl Ifanc yn cynnwys plant a phobl ifanc 11-25 oed, ar draws Caerdydd sydd wedi cytuno i roi eu barn ar nifer o bynciau ymgynghori drwy gydol y flwyddyn. Bydd aelodau’r panel yn rhannu eu barn trwy lenwi arolygon ac, o bryd i’w gilydd, trwy gymryd rhan mewn gweithgareddau eraill megis grwpiau ffocws, gweithdai neu fforymau.

Drwy fod yn rhan o’r ymgynghoriadau hyn, byddwch yn:

  • Helpu’r rhai sy’n gwneud penderfyniadau yng Nghyngor Caerdydd a gwasanaethau eraill, megis y Bwrdd Iechyd, Trafnidiaeth ac Addysg, ar draws y ddinas i wneud Caerdydd yn lle gwell i blant a phobl ifanc gael eu magu ynddo
  • Gwireddu eich hawl i gael eich clywed dan erthygl 12 o Gonfensiwn y Cenhedloedd Unedig ar Hawliau’r Plentyn (CCUHP)
  • Helpu Cyngor Ieuenctid Caerdydd i eirioli dros newid cadarnhaol a hawliau plant ledled dinas Caerdydd
  • Wedi’ch ychwanegu at raffl dymor lle gallech ennill taleb £50