Llwybrau Stori Parc Bute

Swyn y Wrach

Dewch i chwarae, joio a dilyn llwybr stori’r plant drwy Barc Bute. Beth sydd yn digwydd ym Mharc Bute gyda’r nos, pan mae’r pobl feidrol wedi mynd i’r gwely? Pan fydd merch yn mynd ar goll ymysg y coed, mae hi’n cwrdd â chreaduriaid y parc, ac yn ei chael ei hun o dan swyn y wrach. A fydd hi’n bosib iddi hi dorri’r swyn cyn i’r haul godi, neu a fydd hi o dan hud y parc am byth?