Rhan 3

Y Twrch Trwyth

Wrth i’r dyfrgi agosau at y goedwig, roedd hi’n gallu clywed swn rywbeth enfawr yn crashio drwy’r coed. Swn carnau, swn trwyn mawr yn snwffian, ac wedyn gyda’i llygaid craff gwelodd hi siâp rywbeth enfawr yn gwthio’i ffordd heibio’r coed. Roedd ganddo ddau ysgithr enfawr, a dannedd miniog oedd yn sgleinio yng ngolau’r lleuad. Baedd gwyllt oedd e – mochyn enfawr – ond baedd lot yn fwy nag unrhywun gall y ferch ddychmygu’n rhedeg o amgylch coedwig fel hon. Mae’n rhaid taw creadur hudol oedd e.

Wrth iddi agosau ddaeth hi’n fwy sicr taw bod hudol odd e achos rhwng clustiau’r creadur enfawr roedd rhywbeth yn sgleinio – crib, a phâr o siswrn.

Pam oedden nhw yno?

Ond cyn iddi fedru ystyried hwn ymhellach roedd y baedd gwyllt wedi stopio’i snwffio a roedd e’n edrych yn syth arni hi.

“Pwy wyt ti?” gofynnodd. “Dwyt ti ddim yn arogli fel anifail. Ai bod dynol yn esgus bod yn anifail wyt ti, wedi dod i ddwyn y crib a’r siswrn o rwng fy nghlustiau?”

“Na, wedi dod i ofyn am eich cymorth ydw i!”

“Nid yw’r twrch trwyth yn helpu pawb. Mae angen i ti roi rhywbeth i mi gyntaf.”

“Beth allai roi i chi?”

“Dere o hyd i rywbeth hyfryd sydd yn gorwedd yn agos. Ni gall hwn fod yn rywbeth byw, mae angen iddi fod yn rhydd i’w gymryd. Dere â’r eitem i mi a’i gosod o flaen fy nhrwyn a fe

benderfyna i os yw hi’n anrheg da. Os mai hi, efallai wnai dy helpu di. Os nad ydy hi’n anrheg da, wel, wnai siwr o fod dy fwyta di.”

Wel, nawr mae angen i ti hefyd i wasgu stop ar hwn a mynd i edrych am anrheg am y baedd gwyllt enfawr. Nid ydy hi’n gallu bod yn rhywbeth byw, ond rhywbeth elli di gymryd yn rhydd, a mae’n rhaid iddi hefyd fod yn rywbeth digon arbennig i blesio anifail mor grand. A yw hi’n bosib i ti fod yn ddigon clyfar i ddod o hyd i rywbeth fydd yn plesio’r baedd a sicrhau nad yw’n dy fwyta di?

Wel, pan ddychwelodd y ferch, fel ti, gosododd hi ei hanrheg o flaen y baedd gwyllt a roedd yna eiliad wrth i’r baedd ei arogli. – snwff snwff snwff

Teimlodd y dyfrgi ei chalon yn curo’n galed yn ei bron. Be byse’r baedd yn neud os nad oedd e’n hoffi ei hanrheg?

O’r diwedd cododd y baedd ei ben enfawr a ochneidio’n ddwfn – whooooshh. Bu bron i’r dyfrgi gwmpo drosodd achos roedd anadl y creadur mor gryf a mor ddrewllyd.

“Mae dy anrheg yn fy mhlesio. Nawr, sut fedrai dy helpu di?”

“Rydw i wedi cael fy swyno gan wrach y parc. Os nad ydw i yn dod o hyd i ryw ffordd o dorri’r swyn erbyn i’r haul godi, fyddai’n aros fel dyfrgi carreg ar y wal anifeiliaid am byth. Plîs, ydych chi’n gwybod sut mai torri’r swyn?”

Ochneidiodd y baedd unwaith eto – whoooosh – a daliodd y dyfri ei hanadl unwaith eto achos roedd gwynt ei ochenaid wir yn drewi’n ofnadwy.

O’r diwedd, dyma fe’n siarad.

“Dwi’n hen iawn,” dywedodd. “A rydw i wedi bod yn y parc yma am amser hir iawn, iawn, ers cyn iddo fod yn barc hyd yn oed. Des i yma pan oeddwn i’n fochyn bach, a phryd hynny, nid oedd dinas Caerdydd yn ddinas o gwbl, ond tref fach, gyda wal o’i hamgylch, ac ar ei chanol roedd y castell. Roedd y goedwig hon lot yn fwy bryd hynny a rhedais o amgylch ynddi a thyfais yn fwy ac yn fwy ac yn fwy. Daeth dynion i’r goedwig er mwyn fy hela i ond yn fuan roedden nhw’n ofni fi. Ceision nhw fy hela gyda gwaywffwn a thariannau a chleddyfau ond gwnaeth gymaint ohonynt golli eu bywydau nes bod nhw’n rhoi’r ffidil yn y to a gadael i mi gerdded y llwybrau yma mewn heddwch. Ac felly rydw i wedi aros yma, wrth i’r dref ddod yn ddinas, a’r goedwig droi i fod yn barc, ac yma rydw i’n parhau i fod. Ond nid ydw i’n gwbod sut mae torri swyn y wrach. Mae hi lawer yn hyn na fi a mae ei hud a lledrith hi’n redeg yn ddwfn yn y ddaear. Ond mae yna greaduriaid eraill yn y parc sydd yn hyn na fi.

“Os ei di tuag at y ganolfan ymwelwyr fe ddoi di o hyd i ddyn sydd yn marchogaeth ar gefn eryr enfawr. March yr eryr yw e. Mae e wedi bod yn y lle yma lot yn hirach na fi. Efallai bydd e’n gwbod sut mae torri swyn y wrach. Ond bydd yn ofalus! Mae e’n ddyn anodd a llym, a bydd e eisiau gwybod yn union sut ddest ti o hyd iddo. Cyfra faint o gamau mae’n cymryd i ti deithio o fan hyn tuag ato fe a dyweda’r rhif wrtho’n syth bin wrth i ti ei gwrdd.”

“Diolch,” meddai’r dyfrgi ac i ffwrdd rhedodd hi ond y tro yma roedd hi’n ofalus iawn i gyfri ei chamau hi – ac mae angen i ti wneud yr un peth hefyd. 1, 2, 3, 4, 5…