Rhan 5

Blodeuwedd y Dylluan

Wrth i’r dyfrgi wneud ei ffordd tuag at y cerflun pellaf, roedd hi’n gallu teimlo panig yn codi ynddi. Achos roedd ei thaith o amgylch y parc wedi cymryd gymaint o amser, roedd hi nawr yn gallu gweld llinell pinc o olau haul ar y gorwel yn y dwyrain. Roedd yr haul ar fin codi! Roedd hi’n gwybod taw dim ond munudau oedd ganddi hi ar ôl. Ai ei dychymyg oedd hi, neu a oedd ei phawennau dyfrgi yn teimlo’n drymach? Oedd e thrwyn yn teimlo’n oer ac yn galed? Oedd hi’n barod yn troi i fewn i garreg?

Yno, o’i blaen hi, fel o dy flaen di, roedd boncyff coeden wedi’i bydru, a doedd e ddim yn edrych yn obeithiol iawn i’r dyfrgi. Beth oedd e? Sut oedd hen goeden i fod i’w helpu hi?

Fel y dyfrgi bach, beth am i ti gerdded o amgylch y goeden? Gweler pa anifeiliaid sydd yn ymddangos o’r pren. Wyt ti’n gallu gweld, ar ben y goeden, adenydd tylluan?

Wrth i’r dyfrgi sbio’n agosach, dechreuodd adenydd y dylluan i symud. Dechreuon nhw i fflapio. Ac yn sydyn nid tylluan o bren oedd hi ond tylluan wen, gyda gwyneb mawr rownd, a chododd o’r goeden a chylchdroi yn yr awyr uwchben, unwaith, dwywaith, teirgwaith, nes dod yn ôl a glanio ar y ddaear.

“Felly,” meddai’r dylluan. “Mae gen ti tan i’r haul godi.”

“Na fe,” meddai’r dyfrgi yn teimlo’n anobeithiol. “Ond does dim clem gennyf fi sut i dorri’r swyn. A mae’r haul ar fin codi ac yn fuan fyddai’n ddyfrgi carreg ar y wal am byth. Plis, ydych chi’n gallu fy helpu i? Danfonodd y creaduriaid eraill fi yma. Dywedon nhw taw chi yw’r creadur hynaf a doethaf oll, a byddech chi’n gwybod beth i’w wneud.”

Hedfanodd y dylluan i fewn i’r awyr unwaith eto a gwyliodd y dyfrgi hi’n mynd, ei chalon yn suddo. Nid oedd hi’n edrych fel bod y dylluan am ei helpu hi o gwbl.  Ai ei dychymyg hi oedd e neu a oedd yr awyr i’r dwyrain yn troi’n las olau? Roedd yr haul ar fin codi. Roedd hi’n mynd i fod yn ddyfrgi am byth.

Gwyliodd hi wrth i’r dylluan lanio unwaith eto ar ganol y lawnt. Ac yna ddigwyddodd rhywbeth arbennig. Nid tylluan oedd y dylluan ragor ond menyw. Menyw oedd bron mor dal â’r coed o’i hamgylch. Gwisgai’r fenyw ffrog mor wyrdd â’r gwair a roedd arogl melys blodau o’i hamgylch. Roedd hi’n edrych fel petai roedd hi wedi’i chreu o flodau.

Y peth mwyaf od am y fenyw hon oedd ei bod hi’n deimlo’n gyfarwydd. Syllodd y dyfrgi arni. Beth roedd yn gyfarwydd amdani? Cymerodd hi anadl ddwfn drwy ei thrwyn dyfrgi. Unwaith eto gwyntodd hi arogl melys y blodau.

Teimlodd hi ofn yn corsi drwyddi’n syth a chrynodd hi.

“Ti!” meddai. “Ti nath fy swyno i! Ti yw’r wrach!”

“Weithiau,” meddai’r fenyw o flodau. “Weithiau gwrach ydw i. Weithiau tylluan ydw i. Weithiau menyw ydw i.”

Teimlodd y dyfrgi bach ddagrau’n powlio lawr ei thrwyn a sblashio i lawr ar ei phawennau. Roedd hi’n rhy hwyr. Roedd hi wedi gwneud ei gorau glas ond nid oedd amser nawr iddi ddod o hyd i ffordd i dorri swyn y wrach a roedd hi’n mynd i fod yn ddyfrgi carreg am byth.

Camodd y fenyw o flodau’n agosach. Yn dyner dyma hi’n cyffwrdd pen y dyfrgi bach.

“Wrth iddi nosi yn y parc, gwrach ydw i,” meddai. “Ond wrth i’r haul godi, rydw i’n fenyw unwaith eto, y fenyw roeddwn i amser maith yn ôl. A rydw i, unwaith eto, yn garedig. Paid â phoeni, ferch. Wnest ti’n dda heno. Roeddet ti’n glyfar. Wnest ti ddilyn dy drwyn. Ni fyddet ti’n ddyfrgi carreg ar y wal. Gall y wal aros am rywun arall i grwydro i fewn i’r parc.”

Snwffiodd y dyfrgi a theimlo’i chalon yn codi.

“Mae un peth arall i ti’i wneud,” dywedodd y fenyw o flodau. “Cer i’r cerflun acw o ddwylo wedi’u codi ac eistedda o dan yr arch o ddail. Adrodda’r geiriau yma ar fy ôl i a bydd y swyn wedi’i dorri a fyddi di’n ferch unwaith eto.”

does dim pwer gyda ti, does dim pwer gyda ti, does dim pwer gyda ti

a gadael rywbeth bach i mi, anrheg bach, rhywbeth fel bod y parc yn dy gofio di.

Felly cerdda di nawr cam wrth gam gyda’r dyfrgi bach i’r arch o ddail. Dyma’i munudau ola hi fel dyfrgi. Mae hi ar fin troi’n ôl i fewn i ferch. Mae hi’n mwynhau teimlo’r gwair gwlyb o dan ei phawennau, yn mwynhau bod yn ddyfrgi am y tro olaf. Yn y pellter, ar draws y lawnt, mae cawr yn gorwedd i lawr i gysgu drwy’r dydd sydd i ddod, gyda’r gwair yn tyfu yn ôl dros ei ben i’w guddio tra iddo freuddwydio. Mae baedd gwyllt enfawr yn snwffian ei ffordd i’r gwely, a march yr eryr yn rhewi mewn unman. Ond rwyt ti’n gwybod cyfrinach y parc nawr. Rwyt ti’n gwybod y creaduriaid yma a’u gwirionedd nhw. Ac hefyd, os wyt ti byth yn ffeindio dy hun yn y parc gyda’r nos, rwyt ti’n gwybod sut i dorri swyn y wrach.

Bute park trail: part 5