Rhan 1

Cerflun y Dyfrgi

Mae hon yn hen, hen stori. Nid yw llawer o bobl yn gwbod y stori hon ond os rwyt ti’n dod yn agosach wnai sibrwd y stori yn dy glust.

Amser maith yn ôl, roedd pobl yn adrodd straeon am y parc hwn. Roedd pobl yn dweud os oeddet ti’n dod i’r parc gyda’r nos, roedd e’n lle hudol. Byset ti ddim yn dod nôl, neu, os oeddet ti’n dychwelyd, byset ti wedi cal dy newid rywsut.

Ond un tro roedd merch fach, a oedd yn agos i dy oedran di, wedi bod yn chwarae cuddio a chyfri yn y parc gyda’i ffrindiau. A roedd hi wedi llwyddo cuddio’i hun mor dda nes bod neb wedi’i ffeindio hi a roedd hi wedi colli trac ar amser yn llwyr. Erbyn iddi sylweddoli bod neb yn mynd i ddod o hyd iddi, roedd hi wedi tywyllu, a roedd y parc yn wag a’r giatiau ar glo.

Ond roedd y ferch hon yn ferch ddewr. Teimlai ei holl gorff yn cynhyrfu wrth iddi feddwl am archwilio’r parc yn y tywyllwch. Doedd hi ddim wedi clywed y storis am y parc ti’n gweld. Felly dyma hi’n dechrau rhedeg ar draws y lawnt yng ngolau’r lleuad, yn mwynhau gwynto holl aroglau’r parc gyda’r nos. Rhedodd hi tuag at yr afon yn edrych mlan at weld sut oedd golau’r lleuad yn edrych ar y dwr.

A daeth hi i stop yn union yn y man yma, ble rwyt ti’n sefyll. Roedd pobman yn dywyll a dim ond cysgodion y coed roedd y ferch yn gallu’u gweld. Gyd odd hi’n gallu clywed odd swn yr afon yn canu a’r gwynt yn y canghenau uwchben. A dyna pan deimlodd y ferch ias yn rhedeg i lawr ei hasgwrn cefn ac aeth ei chorff hi’n oer iawn a gwelodd hi’n gysgod enfawr o’i blan hi. Roedd y cysgod mor dal â’r coed.

“Dylet ti ddim fod yma,” dywedodd y cysgod. “Nid lle ar gyfer y bobl feidrol, plant y ddaear, yw’r parc yma gyda’r nos.”

Roedd y ferch wedi’i rhewi. Nid oedd hi’n gallu symud un cam.

Siaradodd y cysgod eto. “Meddylia’n gyflym,” dywedai. “Symuda’n gyflymach. Bydd yn glyfar. Ac efallai, erbyn bore, fel weli di’r haul yn codi.”

A wedyn roedd y cysgod wedi diflannu’n llwyr gan adael dim byd ar ei hôl onibai am arogl melus blodau yn yr aer.

A dyna pan sylweddolodd y ferch ei bod hi’n newid. Dychmyga hwn – dychmyga edrych i lawr ar dy gorff a gweld bod yna ffwr yn ymddangos dros dy groen i gyd! Dyna beth odd yn digwydd i’r ferch. Roedd hi’n mynd yn llai ac yn llai, yn tyfu cynffon a chrafangau a dannedd miniog, a nawr, nid merch oedd hi ragor ond dyfrgi. A roedd bod yn ddyfrgi yn hwyl. Roedd y ferch yn gallu arogli popeth gyda’i thrwyn newydd – y gwair gwlyb, arogl y mwd ar wely’r afon. Roedd hi’n dyheu am gael plymio i fewn, i nofio, i hela.

Dechreuodd y ferch i symud fel dyfgri, i redeg fel dyfrgi. A wyt ti’n gallu neud yr un peth? Sut mae dyfrgi yn rhedeg? Sut mae’n nofio? Nofia o amgylch nawr. A dychmyga – nawr, rwyt ti’n greadur nosol, sy’n meddwl dy fod ti’n gallu gweld yn y tywyllwch. Mae dy drwyn di’n finiog a rwyt ti’n gallu arogli popeth hefyd.

Fel ti, dechreuodd y ferch i redeg a nofio a mwynhau bod yn ddyfrgi pan gofiodd hi beth roedd llais y cysgod wedi dweud wrthi.

“Os rwyt ti’n glyfar, efallai fel weli di’r haul yn codi.”

Am beth odd y cysgod yn sôn? Roedd hi’n benderfynol ei bod hi’n mynd i ffeindio mas.

Felly syllodd hi o amgylch yn graff gyda’i llygaid newydd dyfrgi a gwelodd hi, drwy’r tywyllwch, olygfa od iawn. Yn agos iddi hi roedd cylch cerrig.

Ac ar ganol y cylch cerrig roedd ffigwr yn sefyll.

A fedri di gweld y cylch cerrig o ble rwyt ti? Os wyt ti’n gallu, rheda iddo fel dyfrgi! Bant â ti – dim ond un siawns sy gyda ti, a’r cyntaf i’r felin caiff falu!