Rhan 2

Roedd Sion wedi bod yn cerdded am dipyn erbyn hwn, yn syllu o amgylch y lle hyfryd ma. Nid oedd unrhywun yma ond roedd hi mor brydferth, yn llawn swn canu’r adar. Gwelodd e nant fach odd yn rhedeg heibio’r llwybr i’w chwith, ac odd e di gwrando ar synau creaduriaid bach yn sgytlo ymysg y coed a’r llwyni, ac wedi gweld nifer o lwybrau cyfrinachol y galle fe’u archwilio. Ond roedd rywbeth wedi tynnu fe ’mlan, i’r lle ma, i’r llyn.

Roedd y llyn mor hyfryd, mor wyrdd. Penderfynodd Sion i orffwys am eiliad. ’Steddodd e lawr ar un o’r meinciau ac edrych o amgylch. Am beth anhygoel ei fod ef wedi dod o hyd i rywle mor gyfrinachol, mor hyfryd, a neb arall yn gwybod am y lle! Efallai bydd aros da Anti Maud ddim mor ofnadwy wedi’r cwbl, os odd da fe’r ardd gyfrinachol hon i chwarae ynddi, a llyn hefyd! Efallai roedd llyffantod a brogaod ynddo fe. Rhaid bod.

Roedd Sion ar fin mynd lawr ar ei bengliniau i edrych pan glywodd e’r llais.

“Helo.”

Neidiodd ei galon i’w wddf. Trodd mewn chwinc. Yno, yn eistedd ar y creigiau wrth ymyl y llyn, roedd bachgen. Bachgen oddeutu’r un oed a fe.

“Ti’n tresmasu,” dywedodd y bachgen.

“Tres- be?”

“Tresmasu. Mae’n meddwl bod rywle lle dylet ti ddim fod.”

“Sori,” meddai Sion, yn teimlo’n dwp.

“Dim cam o gwbl,” dywedodd y bachgen. Roedd ganddo fe ffordd od o siarad. Hen-ffasiwn. Roedd e’n edrych yn henffasiwn hefyd, meddyliodd Sion. Roedd e’n gwisgo pâr o siorts a sanau hir wedi’u tynnu lan i’w benglinau. Roedd het fflat ar ei ben, ac o amgylch ei wddf roedd e’n gwisgo sgarff goch, er mai diwrnod cynnes oedd hi. Cododd ar ei draed a daeth i eistedd ar bwys Sion. “Mae’n hyfryd cal rywun yma. Fel arfer dim ond fi sy ma. Mae’n gallu bod yn unig. Fi yw Cecil. Cecil Prosser.”

“Fi yw Sion,” meddai Sion.

“Mae’r pant yn perthyn i fi,” dywedodd Cecil. “Dyma’r pant, y parc hyfryd ma. ’Nath dad greu’r pant i fi. Felly mae’n sbeshal. Dwi’n gwbod ei holl gyfrinachau. Wyt ti eisiau ymchwilio gyda fi?”

Sylweddolodd Sion ar ôl ychydig bod hi’n wir. Roedd Cecil wir yn gwbod holl gyfrinachau’r pant. Roedd e’n gwbod pa goed oedd gyda adar yn nythu ynddyn nhw. Roedd e’n gwbod sut oedd ffeindio’r llwybrau cyfrinachol oedd yn ymdroelli drwy’r rhododendronau. Dangosodd i Sion y cloddiad i’r rheilffordd a’r orsaf drenau gyfrinachol oedd yn arbennig ar gyfer y pant.

Beth am i ti fynd gyda nhw nawr? Efallai elli di ffeindio rai o’r pethau ’ma dy hun? Cadwa i fynd lan y llwybr tan i ti gyrraedd rhodfa wedi’i gwneud o bren.