Cydnabyddiaeth fyd-eang i Gaerdydd wrth iddi ddod y ddinas gyntaf yn y DU i gael ei henwi’n Ddinas sy’n Dda i Blant UNICEF

Gan weithio gyda phlant a phobl ifanc y ddinas, mae Caerdydd wedi blaenoriaethu chwe maes allweddol: Arweinyddiaeth a Chydweithrediad; Cyfathrebu; Diwylliant; Iechyd; Teulu a Pherthyn; Addysg a Dysgu.

Mae’r blaenoriaethau a’r nodau hyn wedi’u hymgorffori yn Strategaeth sy’n Dda i Blant Caerdydd ers 2018. Gan weithio mewn partneriaeth â sefydliadau ar draws y ddinas, cynhaliwyd nifer sylweddol o brosiectau, mentrau a chamau gweithredu i sicrhau bod plant a phobl ifanc yn gallu manteisio ar eu hawliau, ffynnu a chyrraedd eu potensial, tra’n mynd i’r afael â’r rhwystrau a allai gyfyngu ar eu cyfleoedd bywyd.

Dywedodd y Cynghorydd Huw Thomas, Arweinydd Cyngor Caerdydd: “Ers lansio Strategaeth sy’n Dda i Blant Caerdydd, mae’r ddinas wedi cychwyn ar daith o drawsnewid gyda’r nod i bob plentyn, gan gynnwys y rhai mwyaf agored i niwed, deimlo’n ddiogel, bod ganddynt lais, eu bod yn cael eu meithrin a’u bod yn gallu ffynnu, i fod yn fan lle mae eu hawliau yn cael eu parchu gan bawb.

“Trwy uchelgais gyffredin gwasanaethau cyhoeddus eraill, mae gwaith helaeth wedi’i wneud i sicrhau bod Caerdydd yn fan lle mae pob plentyn a pherson ifanc, waeth beth fo’u cred, ethnigrwydd, cefndir neu gyfoeth, yn ddiogel, yn iach, yn hapus ac yn gallu rhannu llwyddiant y ddinas gyda chyfle cyfartal i wneud y gorau o’u bywydau a’u doniau.

“Sylfaen y newid hwn oedd datblygu diwylliant sy’n parchu hawliau ar draws y cyngor ac ymysg partneriaid ledled y ddinas i sicrhau bod ein staff yn wybodus ac yn hyderus ynghylch hawliau a’r broses o’u harfer. Cefnogwyd hyn gan bolisi sydd wedi grymuso plant a phobl ifanc i gymryd rhan ystyrlon mewn penderfyniadau sy’n bwysig iddynt, gan alluogi gwasanaethau i fodloni eu hanghenion ac oedolion i fod yn fwy atebol am y ffordd y mae hawliau plant a phobl ifanc yn cael eu parchu, eu diogelu a’u cyflawni.”

 

Mae rhai uchafbwyntiau hyd yn hyn

  • Mae 40,000 o blant a phobl ifanc wedi cymryd rhan mewn rhaglenni lles gan gynnwys digwyddiadau Haf o Hwyl a Gaeaf Llawn Lles.
  • Mae 42,254 o blant a phobl ifanc wedi cael cymorth a chefnogaeth gynnar drwy’r Porth Cymorth i Deuluoedd newydd ers mis Ebrill 2019.
  • Mae 66,324 o blant 5-14 oed wedi manteisio ar ddarpariaeth chwarae’r awdurdod lleol ers mis Ebrill 2020.
  • Mae 73% o ysgolion Caerdydd yn gweithio i wreiddio hawliau plant fel rhan o Wobr Ysgolion sy’n Parchu Hawliau UNICEF UK.
  • Mae 3,995 o blant a phobl ifanc wedi derbyn hyfforddiant cyfranogiad a hawliau.
  • Mae bron i 14,000 o oriau dinasyddiaeth weithgar wedi cael eu rhoi gan bobl ifanc drwy grwpiau gan gynnwys y Panel Dinasyddion Plant a Phobl Ifanc, Dylanwadwyr Caerdydd a’r Cyngor Ieuenctid Plant.
  • Mae 4,807 aelod o staff y Cyngor wedi derbyn hyfforddiant hawliau.
  • Mae dros 700 o gyfleoedd wedi bod i blant a phobl ifanc gyfrannu’n ystyrlon at y broses o wneud penderfyniadau yng Nghyngor Caerdydd.
  • Rydym wedi dod â 50 tîm o blant ynghyd i ddylunio ardaloedd newydd o’r ddinas drwy Minecraft Education.
  • Mae 2,785 o blant wedi cymryd rhan mewn dylunio, monitro a gwerthuso gwasanaethau’r Cyngor
  • Mynegodd 12,000 o bobl ifanc farn trwy’r Arolwg Dinas sy’n Dda i Blant.
  • Mae mwy na 155,000 mil o becynnau o gynhyrchion wedi’u dosbarthu i ysgolion i gefnogi Addewid Caerdydd i hyrwyddo urddas mislif ers mis Mawrth 2019.
  • Mae 19 o strydoedd wedi cael eu gwneud yn fwy diogel drwy’r Cynllun Strydoedd Ysgol, gan helpu i leihau traffig yng nghyffiniau 22 ysgol.
  • Mae naw Llwybr Stori awyr agored wedi cael eu datblygu ledled y ddinas i deuluoedd eu mwynhau.
  • Mae mwy na 2861 o blant wedi cael mynediad at dros 90 o weithgareddau allgyrsiol am ddim drwy’r fenter Pasbort i’r Ddinas gan eu helpu i ddatblygu ymdeimlad o falchder yn eu cymuned a’u dinas.
  • Mae 43 o bartneriaid wedi cyflwyno cannoedd o fentrau ar gyfer pobl ifanc mewn meysydd fel gwyddoniaeth a thechnoleg, y celfyddydau a diwylliant ac iechyd a lles i gyfoethogi eu profiadau dysgu yn yr ystafell ddosbarth a’r tu hwnt.

 

Y Cynghorydd Thomas

“Mae ennill statws Dinas sy’n Dda i Blant UNICEF yn garreg filltir allweddol yng nghynlluniau hirdymor Caerdydd o ran ei strategaeth Dinas sy’n Dda i Blant. Mae’r gwaith o wneud dinas lle mae lleisiau, anghenion, blaenoriaethau a hawliau plant a phobl ifanc wrth wraidd polisïau, rhaglenni a phenderfyniadau wedi datblygu’n sylweddol ond mae gwaith i’w wneud o hyd ac rydym yn parhau i fod yn ymrwymedig i wireddu hawliau plant ac edrychwn ymlaen at weithio gyda phlant a phobl ifanc i ddatblygu ein hymagwedd at hawliau ymhellach.

“Hoffwn longyfarch a diolch i dîm Dinas sy’n Dda i Blant Caerdydd a’n holl sefydliadau partner sydd wedi helpu i wireddu uchelgeisiau’r ddinas ac sydd wedi creu hanes, gan roi Caerdydd ar y map am ei gwaith caled a’i phenderfyniad i roi plant yn gyntaf ym mhopeth a wnawn.”

Y Cynghorydd Sarah Merry, Dirprwy Arweinydd Cyngor Caerdydd a’r Aelod Cabinet dros Addysg, Cyflogaeth a Sgiliau

“Ddeng mlynedd yn ôl, rhoddodd Cymru hawliau plant wrth wraidd eu cyfreithiau gyda holl weinidogion Cymru, gwasanaethau cyhoeddus a sefydliadau cenedlaethol mawr yn talu sylw i hawliau plant ym mhopeth a wnânt. Mae Caerdydd wedi adeiladu ar y diwylliant hwn ac ers 2018 rydym wedi cyflawni pethau gwych er gwaethaf yr heriau a gyflwynwyd gan y pandemig.

“Mae ein Hadferiad Covid, er enghraifft, wedi bod yn un o lawer o strategaethau sy’n canolbwyntio ar blant a phobl ifanc sy’n arbennig o agored i niwed, gan ddatblygu atebion sy’n ceisio gwella canlyniadau addysg ac iechyd a rhoi’r gefnogaeth iawn i deuluoedd ar yr adeg iawn.

“Rydym wedi gwella ein dealltwriaeth o brofiadau byw ystod ehangach o blant a phobl ifanc i hyrwyddo eu hurddas ac rydym wedi ymdrechu i hyrwyddo’r pwysigrwydd o fabwysiadu ymagwedd hawliau plentyn ar draws gwasanaethau, polisi a rhaglenni.

“Mae cael cydnabyddiaeth Dinas sy’n Dda i Blant UNICEF ffurfiol yn goron ar bron i bum mlynedd o waith caled, ymrwymiad ac ymroddiad gan dimau ledled y ddinas sydd wedi gweithio’n ddiflino i gyflawni’r statws hwn.

“Dylai Caerdydd deimlo’n falch a chyffrous iawn wrth i ni edrych ymlaen at ddyfodol sy’n dda i blant, lle byddwn yn parhau â’n huchelgais o wneud Caerdydd yn ddinas y mae plant a phobl ifanc wrth ei chalon a lle mae lleisiau, anghenion a hawliau pob plentyn a pherson ifanc yn cael eu parchu.”

Jon Sparkes, Prif Weithredwr Pwyllgor y DU dros UNICEF (UNICEF UK)

“Mae dod yn Ddinas sy’n Dda i Blant UNICEF gyntaf y DU yn dyst i’r ymrwymiad a’r gwaith caled sylweddol a wnaed gan Gyngor Caerdydd a’i bartneriaid dros y pum mlynedd diwethaf. Mae hefyd yn addewid i blant a phobl ifanc y ddinas – y bydd y cyngor yn parhau i sicrhau bod lleisiau plant wrth wraidd penderfyniadau lleol, ac i sicrhau bod pob plentyn a pherson ifanc – yn enwedig y rhai mwyaf agored i niwed a’r rhai sydd ar yr ymylon – yn gweld bod eu hawliau’n cael eu cynnal, nawr ac yn y dyfodol.”

Adnoddau

Nid yw’r ddogfen hon ar gael yn Gymraeg ar hyn o bryd. Rydym wrthi’n sicrhau ei bod yn cael ei chyfieithu cyn gynted â phosibl. Ymddiheurwn am unrhyw anghyfleustra y gallai hyn ei achosi.