Rhan 2

Saf yma ar bwys y bont. Gwranda ar y dwr. Gwranda…beth arall wyt ti’n gallu clywed? Wyt ti’n gallu clywed swn adar yn y coed? Wyt ti’n gwybod pa adar sy’n canu? Wyt ti’n gallu clywed pethau’n symud yn y llwyni?

Does dim ots pa amser o’r flwyddyn rwyt ti’n dod yma, mae’r lle ma’n llawn bywyd. Neu, o leia, mae hi’n llawn bywyd ar hyn o bryd, ond mae Llygoden yn gwybod os nad yw e’n llwyddo dod o hyd i enw coll y goeden, yn ara’ deg bydd bywyd yn gadael y lle ’ma. Dim rhagor o ganu adar. Dim rhagor o swn symud yn y llwyni. Dychmyga hwnna. Distawrwydd llwyr.

Roedd y syniad hwn yn dychryn Llygoden yn llwyr a rhedodd iâs i lawr ei gefn. Ond roedd e hefyd wedi ofni o achos rheswm arall. Ti’n gweld, nid oedd Llygoden erioed wedi bod mor bell o’i gartref o’r blaen. Yn wahanol i rai o’r anifeiliaid mwy, roedd Llygoden fel arfer yn rhedeg pitran-pitran ar ei draed bach o amgylch yr un darn bach o dir. Roedd e’n gwybod ei ddarn o dir fel cefn ei law – wel, cefn ei bawen.

Roedd ei galon bach yn curo’n galed iawn yn ei fron, a roedd e’n adrodd i’w hun yr un peth. “Bant â fi. Bant â fi. Bant â fi.”

Nawr cofia roedd Llygoden lot yn llai na ti. Felly, roedd unrhywbeth rwyt ti’n gallu gweld a chlywed ac arogli lot yn FWY iddo fe. Dyna pam, pan gyrhaeddodd e’r bont hon, roedd e’n swnio iddo fe fel bod rhaeadr anferth yn crashio o’i flaen e, a phan gyrhaeddodd e’r lan, gwelodd e, am y tro gynta erioed, dwr y gamlas.

Roedd y dwr yn disgleirio gymaint nes bod e’n brifo llygaid bach Llygoden. A roedd rhywbeth arall yn disgleirio hefyd. Rhywbeth bach a glas, dim llawer yn fwy na Llygoden ei hun, a oedd yn fflachio fan hyn a fan draw ar draws arwyneb y dwr.

“Glas y Dorlan!” galwodd Llygoden, gan ei adnabod yn sydyn. Roedd e’n gwbod bod Glas y Dorlan yn gyfrinachol iawn, fel fe, a bod e ddim yn ymddangos llawer.

Daeth Glas y Dorlan yn fflachio fel seren bach ar draws y dwr a glanio ar y lan. Aderyn smart iawn yn ei siaced glas ac oren.

“Wel, sut wyt ti, Llygoden Fach,” meddai Glas y Dorlan. “Doeddwn i ddim yn disgwyl dy weld di mor bell oddi adre.”

“Rydw i ar daith,” meddai Llygoden Fach yn falch. “Taith arbennig, ar gyfer holl greaduriaid eraill y goedwig. Mae’r dyn gwyrdd wedi gofyn i fi i ddod o hyd i enw coll yr hen goeden, achos rydym ni wedi’i anghofio, ac hebddo, bydd yr hen goeden yn marw. Ac heb yr hen goeden, bydd y goedwig hefyd yn marw. Achos rydym ni gyd wedi ein cysylltu.”

Plygodd Glas y Dorlan ei ben. “Roeddwn i’n gwbod bod rhywbeth yn bod. Roeddwn i’n gallu teimlo fe yn y dafnau dwr oedd yn sblashio wrth i mi ddawnsio dros arwyneb y dwr. Pan rydw i’n plymio i’r dyfnder, mae llai a llai o bysgod ar gael i mi’i fwyta. Mae

cydbwysedd y byd yn anghywir. Heb yr hen goeden, bydd pethau’n mynd yn waeth ac yn waeth.”

Dywedodd Llygoden, “Wyt ti’n gwybod ble ddylai fynd, pwy ddylai ofyn, i ddod o hyd i enw’r hen goeden?”

Meddyliodd Glas y Dorlan. “Nac ydw,” dywedodd o’r diwedd. “Ond dwi’n meddwl os ei di tuag at yr afon fawr, efallai gei di atebion yno. Ond mae hi’n le anhysbys, lle gwyllt, lot yn fwy beryglus nag yma. Bydd yn ofalus, Llygoden Fach.”

A chododd Glas y Dorlan i’r awyr ac hedfan i ffwrdd i lawr y gamlas.

Meddyliodd Llygoden, “O na. Perygl? Mae hwn i gyd yn teimlo’n ormod i lygoden fach fel i. Wel bydd rhai i mi wneud y gorau o bethau.” Edrychodd o’i amgylch. Roedd hi mor brydferth yma wrth ymyl y gamlas. Meddyliodd am yr hen goeden, yn plygu ei phen mor drist, y dyn gwyrdd yn gwneud ei orau glas i edrych ar ei hôl hi.

“Fe gasgla i anrhegion amdani hi ar fy ffordd,” penderfynodd Llygoden. A gan mai ti sydd yn teithio gyda Llygoden, beth am i ti ei helpu i gasglu’r anrhegion? Wedi’r cyfan mae yna siawns bod gyda ti bocedi i gario pethau!

Felly dyma yw’r anrheg gyntaf. Beth am weld os wyt ti’n gallu eistedd yn dawel iawn a recordio synau’r lle hyfryd ma, i fynd â nhw nôl i’r hen goeden a’i hatgoffa hi be ddylai’r goedwig swnio fel pan mae hi’n llawn bywyd. Gellid di recordio’r swn ar dy ffôn neu dynnu llun yr holl synau gwahanol ti’n gallu clywed.

A phan rwyt ti wedi gorffen, rwyt ti’n gallu dilyn Llygoden ar ei antur tuag at yr afon fawr. Wyt ti’n gallu ei chlywed yn y pellter?

A phaid anghofio, wrth i ti fynd, i gysuro Llygoden. “Bant â fi. Bant â fi. Bant â fi.”