Rhan 4

Erbyn y pwynt hwn, roedd Llygoden wedi teithio’n bell iawn a roedd ei bawennau bach wedi blino’n lân. Nid oedd e erioed wedi rhedeg mor bell yn ei fywyd byr. Roedd e’n ddiolchgar iawn ei fod e wedi gadael rhuo’r afon fawr ymhell i ffwrdd. Roedd rhan yma’r gamlas yn teimlo lot yn fwy heddychlon.

Dyna pan glywodd e sblash-sblash, sblash-sblash, ac yn sgio tuag ato fe ar draws arwyneb y dwr ddaeth aderyn bach du a gwyn. Dyma oedd Iâr Fach y Dwr. Roedd hi’n brysur iawn. Nid oedd hi’n edrych fel roedd amser ganddi hi i stopio a siarad, ond galwodd Llygoden ati er chwaith hynny.

“Esgusoda fi!”

“Nad wyt ti’n gallu gweld fy mod i ar ganol rhywbeth?”

“Rwy’n ymddiheuriadau am dy drafferthu di,” meddai Llygoden, “ond rydw i ar daith. Taith arbennig, ar gyfer holl greaduriaid eraill y goedwig. Mae’r dyn gwyrdd wedi gofyn i fi i ddod o hyd i enw coll yr hen goeden, achos rydym ni wedi’i anghofio, ac hebddo, bydd yr hen goeden yn marw. Ac heb yr hen goeden, bydd y goedwig hefyd yn marw. Achos rydym ni gyd wedi ein cysylltu.”

Nofiodd Iâr Fach y Dwr rownd a rownd mewn cylch bach. “Prysur. Prysur. Prysur. Trio cofio rhywbeth. O ie. Enw. Enw’r goeden.”

“Ti’n gwybod enw’r goeden?” gofynnodd Llygoden, ei galon fach yn codi.

“Yr enw,” meddai Iâr Fach y Dwr. “Yr enw. Yr enw. Yr enw…”

Stopiodd hi nofio un ffordd ac aeth hi nôl y ffordd arall.

“Beth yw’r enw?” gofynnodd Llygoden.

“Enw…enw…enw…na. Sori. Mae e wedi diflannu’n llwyr. Roeddwn i’n gwybod e, ond mae e wedi diflannu achos mae gen i gymaint o bethau eraill i’w wneud. Rydw i lot yn rhy brysur i gofio pethau fel enw’r hen goeden.”

Suddodd galon Llygoden.

“Wyt ti’n gwybod rhywun fydd yn cofio’r enw?” gofynnodd e. “Neu ble ddylai fynd i edrych? Dwi wedi bod yn teithio am amser hir. Dwi wedi blino’n lân.”

Stopiodd Iâr Fach y Dwr ei chylch hi a dychwelyd y ffordd arall. Nid oedd Llygoden yn deall sut nad oedd hi wedi mynd yn benysgafn.

“Pwy sy’n gwbod?” adroddodd hi. “Gwbod gwbod gwbod…enw enw enw…brysur brysur brysur….”

Rhoddodd Llygoden y ffidil yn y to. Roedd e’n gwybod bod Iâr Fach y Dwr yn rhy brysur i fod o les iddo a roedd e’n amlwg nad oedd hi’n poeni digon i’w helpu.

“Iawn,” meddai. “Fe af i ar fy ffordd. Ymddiheuriadau am dy drafferthu di.”

“Aros!” meddai Iâr Fach y Dwr. Stopiodd ei chylchdroi. “Sori bo’ fi ddim wedi bod yn fwy o help. Mae gyda fi restr mawr o bethau i’w wneud. Ond a wnei di fynd ag anrheg oddi wrtha i i’r hen goeden. I’w hatgoffa hi ein bod ni’n meddwl amdani hi.”

“Wrth gwrs fe wnaf,” meddai Llygoden. Diolch byth rwyt ti yma i’w helpu fe i gario’r holl anrhegion ma. “Beth wyt ti’n feddwl byddai hi’n hoffi?”

“Wel, pan mae pobl yn dod i ymweld a fy nghamlas i, ac yn dod ag hadau i fi a’r hwyaid eraill i fyta, maen nhw weithiau yn cymryd rhwbiad oddi ar un o’r coed acw. Copi o ansawdd rhisgl y goeden yw hi. Dwi’n meddwl byddai’r hen goeden yn hoffi hwnna, achos byse fe’n ei hatgoffa hi o’r holl goed eraill sydd yn tyfu yn y goedwig, a sut mae hi yw calon pob un ohonyn nhw.”

Felly os oes gyda ti darn o bapur a phensil, gellid di gymryd rhwbiad rhisgl nawr, ac adio fe at dy gasgliad o anrhegion ar gyfer yr hen goeden. Os nad oes darn o bapur gyda ti, beth am ffeindio’r goeden mwyaf diddorol a chymryd llun o’i rhisgl am yr hen goeden?

Ac wedyn mae angen i ti a Llygoden barhau ar eich taith chi, i ddod o hyd i enw’r hen goeden.

“Bant â fi, bant a fi, bant a fi…”