Rhan 3

Oes roedd swn y gamlas wedi bod fel rhaeadr anferthol i Llygoden, beth wyt ti’n feddwl roedd swn yr afon fel? Roedd Llygoden bron wedi’i fyddaru. Nid oedd e’n gallu meddwl yn syth. Roedd swn y dwr yn plymio i lawr y gored mor uchel nes bod pawennau Llygoden yn crynu. Roedd e wedi ofni gymaint. Nid oedd e byth wedi bod mor bell oddi gartre’ ac mewn lle mor ofnadwY â hwn.

Dyma fe’n cysuro’i hun gyda’r un geiriau. “Un cam ar y tro. Rydw i’n Llygoden ddewr. Bant â fi. Bant â fi. Bant â fi.”

Ond nid oedd e’n teimlo’n ddewr iawn. Ac i fod yn onest, roedd sibrydion ac amheuaeth yr holl anifeiliaid eraill yn dechrau llenwi ei feddwl. Roedden nhw i gyd yn gwybod ei fod e’n rhy fach a rhy dwp i fedru cyflawni tasg mor arbennig â hon. Beth oedd y dyn gwyrdd wedi bod yn meddwl, yn ei drystio fe, Llygoden, gyda taith mor bwysig?

Ceisiodd Llygoden i anwybyddu ei ofidion. Roedd e’n gwrthod colli calon. Aeth ar bawennau bach crynedig i lawr tuag at lan yr afon. Yno, roedd y dwr yn creu tonnau mawr a oedd yn chwyrlio a neidio a dawnsio. Edrychodd Llygoden arno fe mewn gofid. Roedd e’n gwybod, os oedd e’n cwmpo fewn, byddai’n cael ei ’sgubo lawr yr afon, a phwy â wyr i ble aeth hi?

Wrth iddo fe ystyried hwn, gwelodd e rywbeth yn dod tuag ato fe ar draws yr afon. Rhywbeth a oedd yn cerdded ar dau goes hir trwy’r dwr gwyllt. Rhywbeth tal iawn, gyda phig hynod o hir a dau lygad bach miniog.

Llyncodd Llygoden ei boer achos Crëyr oedd hon a roedd Crëyr bob amser yn llwglyd.

Syllodd Crëyr yn graff arno.

“Rwyt ti’n edrych fel un sydd ar daith,” meddai hi o’r diwedd.

“Rydw i ar daith,” meddai Llygoden, “taith arbennig, ar gyfer holl greaduriaid eraill y goedwig. Mae’r dyn gwyrdd wedi gofyn i fi i ddod o hyd i enw coll yr hen goeden, achos rydym ni wedi’i anghofio, ac hebddo, bydd yr hen goeden yn marw. Ac heb yr hen goeden, bydd y goedwig hefyd yn marw. Achos rydym ni gyd wedi ein cysylltu.” Dywedodd e bopeth yn gyflym iawn gan obeithio na fyddai Crëyr yn ei fwyta.

Plygodd Crëyr ei phig tuag at y dwr.

“Roeddwn i’n gwybod bod y cydbwysedd yn anghywir,” meddai o’r diwedd. “Rydw i wedi bod yn rhodio’r afon hon am amser hir iawn, iawn. Weli di faint o blu llwyd sydd gennyf i. Mae gen i bluen llwyd am bob un flwyddyn rydw i wedi bod yma ger yr afon hon a mae pethau wedi newid dros amser. Mae’r dwr nawr yn lanach nag oedd hi o’r blaen ac mae yna fwy o bysgod, ond dal i fod does dim digon. Nid yw hi fel dylai hi fod, fel oedd hi amser maith, maith yn ôl. Mae pawb wedi anghofio enw’r goeden. Ac heb enw’r goeden bydd hi ar ben arnom ni. Rydw i’n ddiolchgar i ti, Llygoden Ddewr, am geisio’r dasg arbennig hon.”

“Wydda i ddim ble i fynd nesa,” dywedodd Llygoden. “Oes yna unrhywun ti’n feddwl y bydd yn gwybod enw’r goeden? Danfonodd Glas y Dorlan fi yma. Ond dwi ddim yn siwr taw dyma yw’r lle gywir, chwaith.”

“Cer yn ôl i’r goeden,” meddai Crëyr. “Teithia yn ddyfna i fewn i’w chalon a dod o hyd i’w chyfrinachau. A chadwa dy obaith di, Llygoden Fach, achos gobaith fydd yn dy gario di ’mlan.”

Dyma Llygoden yn dweud diolch i Grëyr a throi yn ôl at y goedwig. Ond roedd e galon fach yn suddo braidd achos roedd e wedi teithio mor bell yn barod a doedd dim atebion gyda fe a dim clem ble i edrych nesa. Ond roedd e dal yn benderfynol i ddod o hyd i

anrhegion am yr hen goeden. Felly, wrth i ti deithio gyda Llygoden ar ei siwrne nesaf, tuag at y gamlas, edrycha mas am y peth mwyaf prydferth y fedri di weld. Cymra lun ohoni a dangosa fe i’r hen goeden, i’w hatgoffa hi pa mor brydferth y dyle’r goedwig fod, a’i rhan pwysig hi mewn cadw’r lle’n ddiogel.