Rhan 5: Llyn Hendre

Roeddwn i wedi blino’n lân. Roedd pob rhan ohona i wedi blino. Efallai eich bod chi wedi blino nawr, ar ôl y daith gerdded rydych chi wedi bod arni gyda mi, ond roedd hwn yn flinder yn wahanol i unrhyw un roeddwn i erioed wedi’i deimlo o’r blaen. Roedd y blinder wedi treiddio i fewn i’m hesgyrn. Cerddais, gan lusgo un troed ar ôl y llall, a llusgo’r darnau eraill ohonof i hefyd. Llusgais fy hun adref.

Os gallwch chi ei alw e’n mynd adref. Roedd y tŷ yn llawn dŵr. Roedd popeth a oedd yn eiddo i ni – os nad oedd e wedi’i gymryd gan y môr – yn diferu’n wlyb, ac yn drewi o heli’r môr. **Ceisiais dacluso, fe wnes i wir, ond doedd dim llawer o bwynt heb Mam yno. Yn y diwedd, eisteddais i a Betsi ar y llawr carreg llaith ac aros.     Ein cymydog a ddaeth o hyd i ni. **Roedd hi wedi bod yn sgwâr y pentref pan ddaeth y môr, ac roedd hi wedi llwyddo i ddringo i do’r dafarn gyda hanner dwsin o rai eraill oedd wedi cyrraedd yno mewn pryd. Roedd hi wedi gwylio wrth i hanner y pentref gael ei ysgubo i ffwrdd, wrth i anifeiliaid a chnydau a choed a phobl hwylio heibio yn y llifddwr.

“Tyrd i’r eglwys, Cyw,” meddai hi wrtha i. “Mae yna dân wedi cynnau, a diodydd poeth, a dillad cynnes. Byddwn yn gofalu amdanoch chi nawr.”

“Wnai ddod yn fuan,” dywedais wrthi. “Dim ond angen i mi aros am ychydig.”

Ceisiodd a cheisiodd, ond yn y diwedd aeth hi i ffwrdd, gan glicio’i thafod yn siomedig.

Doeddwn i ddim eisiau dweud wrthi mai’r rheswm roeddwn i’n aros oedd i Mam ddod yn ôl. Roeddwn i’n gwybod y byddai hi’n meddwl fy mod wedi colli fy meddwl. Ni ddaeth y bobl oedd wedi eu cymryd gan y môr yn ôl. Roedd y môr yn eu perthyn nhw nawr.

Ond allwn i ddim dweud wrthi fod Mam yn wahanol. Roedd Mam yn gwybod pethau nad oedd pobl eraill yn eu gwneud. Roedd hi’n glyfar. Byddai’n dod o hyd i ffordd i ddod yn ôl ataf.

Wn i ddim pa mor hir yr arhosais i. Syrthiais i gysgu eto, am amser hir, hir. Efallai wnes i gysgu am ddyddiau. Wythnosau, efallai.

Dim ond un darn o stori sydd ar ôl. Sai’n gwybod os ydw i’n barod i ffarwelio â ti eto. Beth am i ti gymryd dy amser wrth i ti gerdded i’r man olaf? A meddylia amdanaf i, yn eistedd yno ar y llawr carreg oer, yn aros ac yn gobeithio. Hwn oedd arosiad hiraf fy mywyd i gyd.