Rhan 2: Llyn Hendre

Dwi’n gwybod holl gyfrinachau’r lle ’ma. Dwi’n cofio pan roedd hi’n gaeau, mor bell ago oeddech chi’n gallu gweld tua’r gorwel, ac yn llawn adar yn cerdded ar goesau hir drwy’r dwr, a barcutiaid coch yn ymdroelli yn yr awyr. Dwi’n cofio’r amser pan roedd yna gasgliad pitw bach o dai fan hyn, a nawr edrycha ar y lle ’ma! A dwi’n cofio hefyd pan nad oedd yna lyn yma o gwbl.

Dyna pryd mae’r stori hon yn cychwyn.

Y flwyddyn oedd 1607. Dros pedwar cant mlynedd yn ôl nawr.

Dwi eisiau i ti ddychmygu sut le oedd hi. Saf fan hyn. Yn union yn y lle ’ma. Edrycha o amgylch. Ond yn lle’r llyn, a’r tai, a’r llwybr, rwyt ti’n gallu gweld caeau. Caeau a choed a llwyni. Ac yn croesi ar draws y caeau mae’r ffosydd, sydd yn draenio’r tir, yn torri trwy’r caeau i gadw’r pridd yn sych. A dyna lle mae e. Bwthyn bach gyda to gwellt a buarth tu fas gyda chwt ieir ynddo ar goesau pren, a pherllan afalau. Ac heibio’r bwthyn mae’r pentref bach, dim ond casgliad bach o dai a bythynnod, a chapel, sgwar y pentre, a thafarn.

Dyma lle roedd Mam a fi’n byw, gyda’r ieir, yn y bwthyn bach gyda’r cwt ieir ar ochr y pentref. Fy myd i gyd oedd y lle bach hwn.

Fel wyt ti’n gallu dychmygu, pedwar cant mlynedd yn ôl, roedd pethau’n wahanol iawn. Ond roedd pethau eraill yn union fel ydyn nhw nawr. Mis Ionawr oedd hi. Roedden ni wedi dathlu Nadolig. Ac amser hwn, roedd hi bob amser yn bwrw eira dros y Nadolig. Nid oedd gennym ni lawer o arian, ond roedd Mam a fi’n gwneud y gorau o ddydd Nadolig. Bydden ni bob amser yn cadw un o wyau gorau Betsi am frecwast, ac yn yfed ein seidr ar Ddydd Nadolig gyda sbeisys ynddo fe. Ac wedyn daeth mis Ionawr a roedd popeth yn oer ac yn wyntog a byddai Mam yn edrych ar yr awyr ac yn dweud, “Mae storm yn dod.”

Roeddwn i’n gwybod, pan roedd stormydd yn dod, bod angen i ni fod yn ofalus. Achos dyna pan roedd y môr yn codi – yn amser ein cyndeidiau ni, y bobl a oedd yn cerdded, bydden nhw wedi mynd erbyn hwn.  Ond ers iddyn nhw palu’r holl ffosydd a sianeli a oedd yn draenio’r tir, ac wedi adeiladu’r forglawdd, roeddem ni’n gallu aros yma drwy’r flywddyn gyfan, ond roedd dal i fod gwaith i’w wneud pan ddaeth y stormydd. Roedd angen sicrhau bod ein ffos ni ar waelod y cae yn glir o frwyn a phridd, fel bod lefel y dwr yn gallu codi’n ddiogel heb droi y berllan i fewn i gawl o fwd. Roeddwn i’n mynd ati i gadw llygaid ar y ffos bob dydd, a sicrhau nad oedd unrhywbeth yn ei rhwystro, a byddai’r ieir yn dod gyda fi, yn martsio tu ôl i mi a Betsi’n arwain y ffordd drwy’r coed afal.

Wrth i mi fynd â’r ieir am dro bob dydd i’r ffos, roedd Mam yn casglu eu hwyau yn ei basged wiail. Weithiau roedd yr ieir yn gallu bod yn grac pan roedd hi’n ceisio mynd a’u hwyau, a roedd hi’n dweud bod hi’n dda eu casglu pan roedden nhw rywle arall.

Ar ôl roedd Mam wedi casglu’r wyau, fel arfer, roedd hi’n amser cinio.

A dweud y gwir, roedd Mam yn fy ngalw i adre, pan ddigwyddodd y peth ofnadwy.

Clywais i ei llais hi’n galw, “Cyw!” Ac wrth iddi hi ddweud fy enw, gwnaeth fy mola i swn twrw ofnadwy, achos roedd oriau wedi pasio ers i mi fwyta fy uwd i frecwast. Ond wrth iddo wneud, clywais i Mam yn gweiddi fy enw eto, a tro ’ma, nid bloedd “amser-cinio” oedd hi. Bloedd llawn ofn.

Edrychais i drwy ganghennau’r berllan. A gwelais i beth oedd yn dod.