Rhan 3: Llyn Hendre

Wal o ddwr. Dyna’r unig ffordd fedra’i ddisgrifio beth roedd hi. Dwi ’di gweld y môr o’r blaen. Dwi ’di gweld y môr nifer o weithiau. Ond nid fel hwn. A nid yn y lle ’ma o’r blaen. Fel arfer, roedd y môr yn aros ble roedd e fod i aros, heibio’r forglawdd. Ond dyma lle oedd e. Tonnau trwm, trwchus, llwyd, yn sgubo tuag ata’ i ar draws y caeau heibio’r bwthyn. Roedden nhw’n dod mor gyflym nes bod y coed a’r llwyni yn plygu o dan eu pwysau.

Dwi’n meddwl wnes i glywed fy hun yn chwerthin. Mae’n swnio’n od nawr, yndyw hi, i chwerthin o achos rywbeth fel hwn, ond roeddwn i’n meddwl bod rhywun yn chwarae dwli. Bod hwn yn jôc mawr. Falle roeddwn i’n gweld pethau, neu wedi syrthio i gysgu ac yn cael breuddwyd od. Pan roedd Mam yn adrodd storis i mi, weithiau roeddwn i’n syrthio i gysgu’n ara’ deg, ac yn dechrau gweld y pethau roedd hi’n sôn amdanynt. Gwrach yn troi i fewn i filgi. Draig goch yn ymladd gyda draig wen, gyda thân yn saethu o’i thrwyn hi.

“CYW!”

Sgrech Mam dorrodd drwy fy mreuddwyd. Ei llais hi wnaeth fy ngorfodi i sylweddoli taw nid breuddwyd oedd hwn o gwbl, roedd hwn wir yn digwydd. Roedd y môr yn dod tuag ata i, yn llyncu’r tir, a gyd roeddwn i’n gallu’i gwneud oedd rhedeg.

Felly dyna wnes i. Ond i ble rwyt ti’n rhedeg pan mae’r môr yn symud mor gyflym â cheffyl yn carlamu? Roedd fy mhen yn sgrechian, rheda i’r mynyddoedd, yn union fel roedd fy nghyndeidiau’n gwneud, ond nid oedd fy nghoesau yn symud yn ddigon gyflym. Roeddwn i’n gallu clywed swn fy anadl yn rhwygo drwy fy ngwddf, ac wedyn swn arall, swn rywbeth anferth, rywbeth nid oedd hi’n bosib ei dianc, wrth i’r môr ruthro’n agosach ac yn agosach a’r tir grynu o dan fy nhraed – yn union fel straeon Mam, wedi’r cwbl, ond tro yma, nid rhuo draig neu swn traed anferth cawr oedd hwn ond rywbeth go-iawn, rywbeth yn y byd hwn, rywbeth oedd yn mynd i fy llyncu’n gyfan gwbl, rywbeth ofnadwy –

“BOC! BOC! BOC!”

Roedd y swn yn dod o uwchben. A dyna lle, uwch fy men, roedd yr olygfa mwyaf od.

Edrycha o dy amgylch di. Wyt ti’n gallu gweld coeden? Coeden y fedri di’i dringo, os oedd angen, gyda boncyff mawr cryf a changhennau i dy ddal di?

Achos wyt ti’n cofio fi’n dweud – nid yw ieir yn gallu hedfan. Ond dyna lle roedd Betsi yn sefyll, ar ben canghen uchaf y goeden afalau fwyaf yn y berllan. Roedd hi’n fflapio’i hadenydd ac yn gwichio ar dop ei llais, a roeddwn i’n gwybod yn union beth roedd ei hystyr hi. Wnes i ddim gwastraffu eiliad. Taflais fy hun i fewn i ganghennau’r goeden a dechrau dringo, yn tynnu fy hun lan, lan, lan, lan, fy mreichiau yn sgrechian, fy nhraed yn llithro – nid oeddwn i erioed wedi bod yn ddringwr da achos roeddwn i bob amser yn rhy ofnus ac yn stopio i edrych i lawr, ac yn rhewi, ond y tro ’ma, wnes i ddim meiddio edrych i lawr. Doeddwn i ddim yn gallu. Roedd edrych i lawr yn rhy ofnadwy.

Dim ond pan gyrhaeddais i dop y goeden y wnes i edrych i lawr.

Des i o hyd i gangen ddigon cryf i mi setlo arni, ac ymestynais am Betsi, a ddaeth yn syth i gwtsio i fewn i fy nghesail, yn crynu braidd, ond yn edrych yn hapus iawn gyda’i hun. A dyna pan edrychais i. A beth welais i oedd –

Dwr. Ymhobman. Dwr y mor, yn llwyd ac yn frown ac yn corddi’n ofnadwy. Roedd y dwr hanner ffordd i lan boncyff fy nghoeden afalau a roedd e dal i fod yn codi. Roedd y môr yn ymestyn i bobman. Nid oeddwn i’n gallu gweld ein cae ni, na’r llwyni, na’r ffos, na’r giat ar bwys ein bwthyn ni. Roeddwn i’n gallu gweld to’r bwthyn, ond roedd y dwr yn lapio’r walydd, a roedd y drws wedi diflannu’n llwyr.

A roeddwn i’n gallu clywed…pethau ofnadwy. Swn clychau’r capel yn canu, yn ceisio rhybyddio pawb, ond roedd hi lot rhy hwyr. Swn pobl yn gweiddi a sgrechian yn y pellter. A phobman, drwy’r amser, swn rhuo’r gwynt a’r dwr.

Agorais fy ngheg a rhuo gyda’r gwynt, “MAM!!!”

Nid oedd dim siw na miw ohoni. “MAM!!!”

A oedd hi wedi llwyddo dringo i do’r bwthyn? Ble’r oedd hi? Roedd hi wedi gwastraffu amser yn gweiddi amdana i pan ddylai fod wedi dringo i ddiogelwch.

Ac yna gwelais i fe. Yn arnofio heibio yn y llifddwr mwdlyd. Basged wiail gyda lliain coch y tu mewn. Basged casglu wyau Mam oedd hi.

Roeddwn i’n gwybod bryd hynny ei bod hi wedi cael ei chymryd gan y môr. Daliais yn dynn i ben y goeden afalau gyda Betsi yn fy mreichiau wrth i’r môr godi o’n cwmpas a chrio ac chrio.