Rhan 5: Enfys Eleri

Doedd Eleri ddim wedi mynd yn bell o’r nant pan welodd ymyl y goedwig. Yma roedd llannerch, ac roedd hi’n gallu gweld y bancyn oedd yn codi i fyny wrth y gronfa hefyd.  Roedd hi’n gallu gweld coed pinwydd tal iawn iawn. Pe bai’r holl goed yma’n gorwedd ar eu hochr, bydden nhw siŵr o fod yn ymestyn yr holl ffordd i’w chartref ar ochr draw’r llyn.

Sefodd yn dawel bach. Roedd hi wedi gwneud lot o siarad heddiw, fel oedd ei mam wedi gofyn iddi – roedd hi wedi siarad â phob creadur ar hyd y ffordd. Roedd hi wedi cerdded yr holl ffordd trwy’r goedwig. Roedd hi hyd yn oed wedi hedfan yr holl ffordd dros y gronfa i gyrraedd yma. Y cyfan oedd ar ôl iddi wneud nawr oedd cael y nodwydd pinwydd a nofio adref gyda hi. Wedyn byddai’n cael ei phlu lliwgar o’r diwedd.

Daliodd Eleri ati i wrando, ond doedd y coed ddim yn gwneud dim. Doedden nhw ddim yn dweud dim, ond yn sydyn dyma hi’n clywed sŵn prydferth dros ben yn dod o un o’r coed pinwydd oedd o’i blaen. Roedd hi’n sŵn mor brydferth nad oes modd ei disgrifio: llais y goeden oedd hi. Sut sŵn ydych chi’n meddwl oedd hi?

Dywedodd y goeden dal iawn yma wrth Eleri ei bod hi wedi ei gwylio hi’n hedfan dros y llyn,  yn cerdded yr holl ffordd yma ac yn siarad â’r holl greaduriaid y daeth ar eu traws. Roedd y goeden yn gwybod bod angen un o’i nodwyddau arni i fynd adref â hi, ac felly, siglodd a siglodd a siglodd nes i nodwydd o ben y goeden ddod yn rhydd, a disgyn yn ysgafn i’r ddaear.

Doedd Eleri ddim yn gallu credu ei chlustiau na’i llygaid! Cododd y nodwydd a rhoddodd ei diolch i’r goeden a blygodd ei phen mewn cydnabyddiaeth. Trodd Eleri nôl i edrych ar y goedwig, a meddyliodd pa mor bell roedd hi wedi dod heddiw. Roedd hi’n teimlo cysylltiad mawr â’r lle yma, y creaduriaid a’r coed. A doedd hi ddim yn ofnus mwyach.

Rhedodd Eleri i fyny bancyn y gronfa ddŵr sydd o’ch blaen chi nawr, a neidiodd i’r dŵr. Nofiodd yr holl ffordd nôl i’r twnnel a rhoddodd y nodwydd pinwydd i’w mam. Eisteddodd y ddwy i siarad am ei hantur a’r ffrindiau newydd. Wedyn PWFF!

Doedd plu Eleri ddim yn dywyll a dilewyrch mwyach. Yn sydyn, roedd hi’n las a gwyrdd ac oren a gwyn; fel enfys. Hedfanodd brodyr Eleri i ymyl y twnnel yn eu lliwiau godidog i ddathlu gyda hi hefyd.

Os brysiwch chi, gallwch chi gerdded i fyny’r llwybr i’r bancyn ac edrych allan dros y gronfa. Efallai bod glas y dorlan, yn union fel Eleri, yn cael ei blu lliwgar heddiw. Welwch chi un ar y llyn? Chwiliwch am yr adar bach amryliw hyn ar y glannau ac yn yr awyr. Gwyliwch nhw’n llewyrchu a disgleirio.