Rhan 1: Enfys Eleri

Rydych chi ar fin mynd i mewn i goedwig arbennig iawn. Mae hi’n lle arbennig nid yn unig am fod planhigion prin yma (ac mae yna), nac am ei bod hi’n bert (ac mae hynny’n sicr yn wir). Mae hi’n arbennig oherwydd aderyn bach a’i stori. Gadewch i mi rannu ei stori â chi.

Ddim yn hir yn ôl, roedd cyw glas y dorlan o’r enw Eleri’n byw yma. Cafodd ei geni ar lan y gronfa ddŵr. Dyw adar glas y dorlan ddim yn byw mewn nythod fflwfflyd fel y rhai y gwelwch chi mewn coed.  Yn hytrach, maen nhw’n adeiladu twneli bychain ar lannau pyllau ac afonydd lle maen nhw’n gallu cadw’n ddiogel a hela pysgod.

Ydych chi wedi gweld glas y dorlan erioed? Adar bach â phlu lliwgar llachar ydyn nhw: rhai glas, gwyrdd, oren a gwyn. Mae plu glas y dorlan yn disgleirio fel wyneb llyn yng ngolau’r haul.

Wel, a bod yn onest, dim ond rhai ohonyn nhw sy’n disgleirio fel hyn. Oherwydd, does dim plu o gwbl gan gywion glas y dorlan adeg eu geni. A phan mae’r plu’n tyfu, maen nhw’n dywyll ac yn ddilewyrch. Pan oedd Eleri’n ifanc, roedd hi’n rhannu twnnel â’i mam, ei thad a’i thri brawd. Un diwrnod, gofynnodd:

‘Mam, sut wyt ti a Dad mor loyw a lliwgar, a’r gweddill ohonom ni mor blaen a llwyd? Rydyn ni eisiau disgleirio hefyd!’

‘Wel, fy merch fach annwyl,’ meddai ei mam, ‘bydd rhaid i ti aros i weld. Amynedd piau hi.’

Drannoeth, roedd un o’i brodyr ar goll o’r twnnel. Gofynnodd i’w mam a’i thad ble’r oedd e wedi mynd, ond fe ddywedon nhw wrthi i beidio â phoeni. Erbyn y diwrnod nesaf, roedd brawd arall ar goll. Gofynnodd eto:

‘Mam, Dad, ble mae fy mrodyr i’n mynd? Ydyn nhw’n iawn?’

‘Paid â phoeni cariad’ meddai ei thad ‘mwynha’r pysgod a’r lle ychwanegol. R’yn ni’n addo bob popeth yn iawn.’

Erbyn diwedd yr wythnos, roedd ei brodyr i gyd wedi mynd o’r twnnel, ac Eleri oedd yr unig un oedd ar ôl. Roedd hyn yn ei dychryn hi. A dweud y gwir, roedd llawer o bethau’n dychryn Eleri. Doedd hi dal ddim wedi trochi ei thraed yn y dŵr, doedd hi ddim wedi hedfan yn bell iawn o’i chartref, doedd hi ddim wedi siarad â neb o’r cymdogion: yr hwyaden gopog, iâr y dŵr na’r alarch. Roedd hi’n gwybod nad oedd dim byd yn bod arni – mae pawb yn ofni rhywbeth ychydig bach – ond roedd hi’n dyheu i fod yn ddewrach. Ac roedd hi’n hiraethu am ei brodyr. I ble’r oedden nhw i gyd wedi mynd?

O dipyn i beth, ar ôl bore prysur o bysgota, daeth mam Eleri adre a dweud wrthi: ‘Fy merch annwyl, mae hi’n amser pwysig i ti. Mae adar glas y dorlan fel ni’n amyneddgar ac yn falch, yn ddewr ac yn brydferth. Ond nid rhywbeth r’yn ni’n cael ein geni ag e yw hyn, ond rhywbeth y mae’n rhaid ei ennill.’

‘Dwi ddim yn deall.’ meddai Eleri.

‘Mae amser yn dod ym mywyd pob glas y dorlan pan mae angen iddyn basio prawf pwysig i ennill eu plu lliwgar a gadael eu cartref. Mae dy frodyr wedi pasio’u profion nhw, dy dro di yw hi nawr.’

Roedd hyn yn sioc i Eleri. Doedd hi ddim wedi clywed dim am y fath brawf o’r blaen. Dychmygodd ei brodyr yn hedfan o gwmpas y gronfa gyda’u plu oren a glas a gwyrdd a gwyn newydd. Roedd hi’n dyheu am eu gweld nhw ac am glywed eu straeon.

‘Mae pob prawf yn wahanol’ meddai ei mam. ‘Mae rhaid i’r prawf herio pob glas y dorlan mewn ffordd unigryw. Er enghraifft, roedd rhaid i Lewis, dy frawd – â’i adenydd bychain bach – hedfan i fynydd Caerffili a nôl. Roedd rhaid i Hari – sy’n casáu trochi ei draed – gerdded yr holl ffordd i lawr ar hyd llwybr mwdlyd y gronfa heb hedfan o gwbl. A Rhys – sydd ofn y tywyllwch – roedd rhaid iddo fe gysgu allan ar ei ben ei hunan bach, ymhell o’r twnnel ar noson dywyll. Roedd ofn arnyn nhw i gyd, ond fe lwyddodd pob un ac fe gawson nhw eu plu lliwgar. Dy dro di yw hi nawr.’

Roedd Eleri’n dechrau pryderu. Roedd y profion hyn yn swnio’n ddychrynllyd o anodd.

‘Felly beth fydd fy mhrawf i?’ gofynnodd.

‘Bydd dy sialens di, fy merch fach swil a thawel, yn anodd iawn, am fod llawer o bethau’n dy ddychryn di. Yn gyntaf, bydd angen i ti hedfan dros y gronfa ddŵr i’r goedwig. Ar ôl cyrraedd, rhaid i ti gerdded trwy’r goedwig gan siarad â phob creadur y gweli di yno. Wedyn, rhaid i ti gasglu nodwydd o gangen uchaf un o’r coed pinwydd tal ar ddiwedd y llwybr. Cofia na chei di hedfan i fyny i wneud hyn, felly rhaid i ti ffeindio ffordd arall o fynd ati. Ar ôl casglu’r nodwydd, nofia nôl dros y gronfa a’i rhoi hi i fi. Os llwyddi di i wneud hyn i gyd, fe gei di dy blu lliwgar.’

Trodd gwaed Eleri’n oer. Roedd hyn yn mynd i fod eithriadol o anodd.

‘Cer nawr, fy merch i, tra bod hi’n olau dydd. Bydd ffrind yn y goedwig yn cadw llygad i wneud yn siŵr dy fod ti’n dilyn yr holl reolau’ meddai ei mam yn garedig wrth fynd ag Eleri at agoriad y twnnel. Pwyntiodd at y coed yr ochr draw i’r gronfa. ‘Nawr, hedfana draw i gopa’r bryn bach yna.  Fe weli di lwybr trwy’r goedwig a dyna’r man cychwyn.’

Allwch chi ddychmygu? Yn yr union fan yma lle rydych chi’n sefyll nawr y dechreuodd Eleri ei hantur. Hedfanodd yr holl ffordd yma o dwnnel ei theulu’r ochr draw i’r gronfa. Mae’n rhaid bod hi’n ofnus dros ben wrth fentro i’r lle newydd yma. Nawr, dilynwch yn olion ei thraed i mewn i’r goedwig. Dychmygwch sut brofiad fyddai hyn i Eleri – roedd hi’n ddigon bach i ffitio yng nghledr eich llaw – a dyma hi’n cerdded i mewn i’r goedwig am y tro cyntaf.

(stori gan Christina Thatcher)