Paneli Cyfweld i Bobl Ifanc

Gweld yr holl newyddion...

Paneli Cyfweld i Bobl Ifanc

Yn ddiweddar, cynullodd aelodau Cyngor Ieuenctid Caerdydd Banel Cyfweld i Bobl Ifanc fel rhan o’r broses gyfweld ar gyfer dwy rôl allweddol.

1) Rheolwr Llwybr Ifanc Actif ar gyfer Chwaraeon Met Caerdydd. Mae’r rôl newydd hon yn canolbwyntio ar weithgarwch corfforol a chwaraeon sydd ar gael i blant a phobl ifanc, rhwng 3 a 18 oed.

2) Prif Swyddog Ieuenctid Gwasanaeth Ieuenctid Caerdydd sy’n gyfrifol am reoli’r Gwasanaeth Ieuenctid, gan helpu i wella canlyniadau i blant a phobl ifanc yng Nghaerdydd.

Roedd yn brofiad hynod werthfawr i’r bobl ifanc ac yn benderfyniad pwysig iawn i gael eu barn arno!