Bag Llaw Mamgu – Rhan 3

Pa amser o’r flwyddyn ydy hi? Os yw’n amser gwanwyn, efallai rwyt ti’n gallu gweld, yn tyfu o dan y coed o dy gwmpas di, garped o ddail gwyrdd. Mae’n arogli’n eithaf cryf. Garlleg gwyllt yw hi. Dyna sut rwyt ti’n gwybod bod y lle hwn yn le hen. Oherwydd y coed hynafol a’r garlleg yn tyfu oddi tanyn nhw. Dyna sut rwyt ti’n gwybod bod y straeon yn wir, bod y tir a’r llyn yn hŷn na phob un ohonom ni, ac yn dod o amser cyn bod tai a chyn bod parc yma.

Roedd Mo yn hoffi reidio ei feic o amgylch y llyn bob nos ar ôl ysgol. Daeth i’r rhan yma o’r parc drwy’r amser. Weithiau byddai’n dod gyda Mamgu, a byddai hi’n dod â’i bag llaw gyda hi a chasglu planhigion i’w rhoi ynddo. Nid oedd Mo yn siŵr ar gyfer beth roedd hi’n eu defnyddio nhw. Efallai i goginio swper, ond roedd yn amau ​​​​ei fod ar gyfer pethau eraill, hefyd. Roedd gan Mamgu lawer o gyfrinachau ac yn gwybod llawer am y pethau arbennig oedd yn tyfu yn y parc. Weithiau, roedd Mo yn meddwl ei bod hi’n gwneud swynion gyda’r pethau roedd hi’n dod o hyd iddyn nhw yma.

Ac weithiau daeth Mo yma ar ei ben ei hun. Ar un o’r dyddiau hynny sylweddolodd e bod popeth yn teimlo’n wahanol.

Nid oedd yn gwybod yn iawn beth yr oedd i ddechrau. Dim ond teimlad od oedd wedi dod drosto. Roedd yr adar yn y coed yn annaturiol o dawel. Doedd dim siffrwd o gwbl: dim anifeiliaid bach yn sgytlo o gwmpas. Pan edrychodd Mo drwy’r coed tua’r llyn, gwelodd nad oedd yna adar yn nofio, chwaith. Dim elyrch, dim ieir dŵr, cwtieir, hwyaid, dim byd – a oedd hwn yn rhyfedd iawn.

Roedd e fel bod popeth yn y byd wedi dod i stop, ac yn aros i rywbeth ddigwydd, yn llawn ofn.

Ac yn sydyn sylweddolodd Mo rywbeth arall. Yno, o dan y coed, yn union fan yna – roedd y garlleg gwyllt yr oedd Mamgu yn hoffi ei gasglu i’w roi yn ei stiwiau yn edrych yn rhyfedd. Fel pe bai bod e wedi cael ei sathru arno gan rywbeth enfawr.

Dechreuodd calon Mo guro’n galed yn ei frest. Roedd e’n gwybod bod rhywbeth ar fin digwydd.

Gwnaeth ei ffordd yn araf i lawr at ymyl y llyn. Ond jyst cyn iddo fe gyrraedd fe wthiodd rhywbeth – neu rywun – yn syth i mewn iddo, gan ei sathru drosodd. Sgrialodd Mo drwy fwd a chors nes iddo lanio mewn rhywbeth drewllyd a gwlyb. Pan edrychodd i fyny, roedd ffigwr yn sefyll drosto.

Ffigwr mor enfawr nes i Mo ddychryn mewn arswyd.

Dyn oedd e. Dyn yn gwisgo trowsus mawr gwrth-ddwr fel pysgotwr, ac yn dal gwialen bysgota, ond roedd gan Mo y teimlad rhyfeddaf mai dim ond gwisg oedd hyn i gyd, a dim pysgotwr oedd hwn o gwbl ond rhywun yn esgus ei fod yn un, fel y gallai wneud rhywbeth ofnadwy.

“Gwylia ble rwyt ti’n mynd,” hisiodd y dyn enfawr wrth Mo, mewn llais a anfonodd gryndod i lawr ei asgwrn cefn.

Ac yna trodd y dyn a tharanu ar draed enfawr i lan y llyn, a chliriodd y cysgod, a sgrialodd Mo yn ôl i fewn i ddiogelwch y goedwig a’r garlleg gwyllt. Edrychodd trwy’r coed i’r ble roedd y pysgotwr wedi stopio ar lan y llyn. Gwyliodd wrth i’r pysgotwr ddechrau procio yn y dŵr gyda’i wialen bysgota. Wrth iddo wneud, roedd e hefyd yn edrych dros ei ysgwydd, fel pe bai i sicrhau nad oedd yn cael ei wylio gan unrhywun.

“Mae ganddo ryw ddrygioni mewn golwg,” sibrydodd Mo wrth ei hun. Daeth syniad yn sydyn iddo, yn llachar ac yn glir ac yn amlwg i’w feddwl. “Rwy’n siŵr ei fod yn ymwneud â’r trysor yn yr ogof. Ond be’ ddylwn i ei wneud? Dyw e ddim yn fy musnes i.”

Ond ni feddyliodd Mo hwn am amser hir. Oherwydd ei fusnes oedd y llyn bob amser. Roedd wrth ei fodd yn y lle hwn. A dyma lle roedd rywun ofnadwy a oedd wedi dychryn yr holl adar, ac yn stompio o gwmpas fel petai’r llyn yn eiddo iddo, ac yn cynllunio gwneud rhywbeth ofnadwy. Roedd yn rhaid i Mo ddarganfod beth.