Y Gaer Werdd – Rhan 5

Pan roedd hi’n dywyll, pan roedd y lleuad ar fin codi’n yr awyr, daeth yr ymosodiad.

Dyma sut olwg oedd ar ein tŷ crwn mwyaf, ac roedd e ar dân mewn eiliadau, yn byrlymu’n fflamau pan daflwyd tortsh wedi’i chynnau gan un o’r rhyfelwyr i’n pentref. Yn fuan, roedd tân ym mhobman. Roedd ei arogl cras yn llenwi fy ngwddf, gan wneud i mi beswch. Roedd yn anodd gweld unrhyw beth yn y mwg. Dyna’n union beth yr oedden nhw’i eisiau.

Roedden nhw arnom ni’n syth, a roedden ni’n ymladd am ein bywydau. Doeddwn i byth wedi ymladd fel hwn o’r blaen. Roeddwn i wedi taflu fy gwaywffon ddigon o weithiau yn y goedwig, wedi tynnu fy nghyllell i ddiberfeddu pysgodyn neu i dynnu croen cwningen, ond erioed o’r blaen i wynebu bod dynol arall. Roedd fy nghalon yn taro’n galed yn fy mrest, yr anadl yn rhwygo yn fy ngwddf wrth i mi ymladd yn ddall, jest yn ceisio amddiffyn fy hun, heb wybod beth roedd yn digwydd i weddill fy mhentref a fy nheulu. Wrth i’r tanau losgi ymlaen, a’r mwg dyfu’n fwy trwchus, gan rwystro golau’r lleuad wrth iddi godi yn yr awyr, dymunais nawr ein bod wedi rhedeg. Dymunais fy mod i wedi dweud wrth fy mhobl am ddod o hyd i ddiogelwch yn lle amddiffyn ein cartref.

Roeddwn i’n gwybod ei fod i gyd am ddim.

Oherwydd ni fyddai’r bleiddiaid yn dod. Roeddwn i wedi gofyn iddyn nhw i ddod, yn sefyll yn nyfnder y goedwig llawn cysgodion, gan wybod eu bod nhw’n fy ngwylio i. Ond doedden nhw ddim wedi ymateb. Roedden nhw wedi dychwelyd i’w hogofau, i aros am y frwydr i orffen. Nid oedd ots ganddyn nhw pwy oedd yn byw ar y gaer werdd. Roedden nhw wedi ein gwynebu ni mewn brwydr eu hunain gymaint o weithiau fel na fydden nhw’n ein hamddiffyn ni nawr.

Nid oedd dim y gallwn i ei wneud.

Llifodd ofn drwydda i wrth i mi sylweddoli bod rhagor o’n tai crwn ar dân. Taranodd y ddaear â swn traed ein gelynion, metel eu harfau’n fflachio yn y tywyllwch a’u gweiddi’n ffrwydro o’m cwmpas.

Roeddem ni wedi colli’r gaer werdd. Roeddwn i wedi colli fy nghartref. Roedd popeth wedi bod am ddim.

Caeodd y cysgodion o’n amgylch ni.

Ac yna roedd rhywbeth arall yn y cysgodion. Rhywbeth a oedd yn sleifio, rhywbeth oedd yn symud mor gyflym â’r gwynt. Rhywbeth gyda thafod pinc a dannedd miniog a smotiau ar ei thrwyn. Ac yna ymunodd y lleill â hi, ar bawennau meddal gyda chegau agored a’u tafodau’n hongian allan, a dyma nhw’n neidio heibio fi ac yn ymladd yn wyllt, gyda ni, ochr yn ochr gyda ni, ac fel y gwnaethant, cliriodd y mwg ac ymddangosodd y lleuad, yn llawn ac yn llachar, a roeddem ni wedi cael ein hachub. Cododd fy nghalon, yn llawn gobaith unwaith eto ac ymunais â’r bleiddiaid, ac hefyd gyda fy mhobl, a dyma ni’n ymladd tan roeddem ni wedi curo ein gelynion yn ôl, tan bod y gaer werdd yn eiddo i ni unwaith eto, tan bod ein cartref yn ddiogel.

A phan ddaeth y bore, cododd yr haul, a dyma’r diwrnod gorau a fu erioed.

Wrth i’r haul godi, sleifiodd y bleiddiaid i ffwrdd, yn ôl i’r goedwig, fel pe na buon nhw erioed yno. Ond roedden ni i gyd wedi eu gweld. Roedden nhw wedi ein hamddiffyn ni.

Cyn i’r dathliadau ddechrau, cyn i’r tanau gwledda gael eu cynnau, cyn i ni allu ymuno â’n gilydd a dawnsio a chanu ac adrodd hanesion ein buddugoliaeth, casglais yr holl bentref ar ochr y goedwig dderw. Pwyntiais tuag at y cysgodion, lle’r oedd y bleiddiaid yn ein gwylio.

“Ni fyddwn ni fyth eto’n hela’r bleiddiaid,” dywedais wrthyn nhw. “Ac, yn y gaeaf, pan fydd eu bwyd nhw’n brin, fe fyddwn ni’n rhoi peth o’n bwyd ni iddyn nhw. Byddwn yn byw ochr yn ochr â nhw, ac yn eu hamddiffyn, yn union fel y maen nhw wedi ein hamddiffyn ni.”

A dyna fel yr oedd pethau, o hynny ymlaen, yma, ar y gaer werdd.

Mae gen i un darn olaf o stori ar ôl i ti. Dere gyda fi, ond cyn i ti wneud, cymera rhwbiad o’r ty crwn, o’r lle roeddwn ni’n byw ynddo unwaith.