Urddas Mislif

Gweld yr holl newyddion...
Illustration of pad

Yng Nghaerdydd sy’n Dda i Blant, credwn fod gan bobl ifanc sy’n profi mislif yr hawl i brofiad diogel ac urddasol. Gall y mislif gael effaith fawr ar addysg ac iechyd corfforol a meddyliol, a dylai pawb allu cael gafael ar nwyddau mislif, gwybodaeth a chymorth heb rwystrau. At hynny, mae dileu tlodi mislif yn golygu sicrhau nad yw cael mislif yn arwain at golli addysg na thynnu’n ôl o chwaraeon a gweithgareddau cymdeithasol.

Yn unol â’r adroddiad Rhywedd a gyhoeddwyd yn ddiweddar, mae Caerdydd ar hyn o bryd yn gweithio ochr yn ochr â’r ymgyrch ‘Love your Period’ a’r timau Ysgolion Iach i sicrhau:

Mynediad cyson ac urddasol i nwyddau am ddim a gwybodaeth mewn hybiau a gwasanaethau ieuenctid ledled y ddinas, trwy ganllawiau staff/defnyddwyr wedi’u cyd-gynhyrchu ac offeryn mapio lleoliad canolog.

Cefnogir ysgolion i sicrhau newid diwylliannol mewn perthynas ag urddas mislif trwy ddatblygu cynllun cydnabyddiaeth ysgolion dwy haen o’r enw “The Period Standard”.