Rhaglen Grantiau a Phreswyl ar gyfer Gweithredu Cymdeithasol ar Gydraddoldeb Rhywiol

Gweld yr holl newyddion...

Rhaglen Grant

Mae tîm Caerdydd sy’n Dda i Blant wedi sicrhau cyllid i ddyrannu grantiau bach i grwpiau o bobl ifanc sy’n awyddus i ddylunio prosiectau gweithredu cymdeithasol sy’n ymwneud â thema rhywedd a chydraddoldeb.

Ar hyn o bryd rydym yn datblygu partneriaethau gyda sawl sefydliad, gan gynnwys Plan UK, ar sut i gyflwyno’r rhaglen grant yn ystyrlon.

Rhaglen Breswyl

Bydd Caerdydd sy’n Dda i Blant, mewn cydweithrediad â phartneriaid, yn dechrau curadu cyfres o raglenni preswyl i bobl ifanc, sydd wedi’u cynnwys yn y cynllun gweithredu cyllido, i archwilio thema rhywedd a chydraddoldeb ymhellach gyda’r posibilrwydd o ddefnyddio’r gronfa grantiau bach i ddod â syniadau’n fyw. Mae rhaglenni preswyl yn ffordd wych i bobl ifanc ddysgu mwy amdanynt eu hunain, ei gilydd a meithrin perthnasoedd cryf.