Rhaglen bartner Caerdydd sy’n Dda i Blant

Gweld yr holl newyddion...

Mae Caerdydd sy’n Dda i Blant wedi datblygu rhwydwaith o sefydliadau sydd wedi addo gwreiddio gwerthoedd ac egwyddorion dull gweithredu hawliau plant yn eu gwaith, gan gyfrannu at y nod o ddod yn ddinas sy’n wirioneddol dda i blant.

Mae partneriaid a nodwyd yn y camau cynnar wedi dangos ymrwymiad i gynnal hawliau plant drwy weithio’n agos gyda Caerdydd sy’n Dda i Blant ar ddigwyddiadau fel ‘Haf o Hwyl’ a ‘Gaeaf Llawn Lles’.

O ganlyniad, mae partneriaid sydd wedi ymrwymo i’r addewid bellach yn cael mynediad at gyfres o offer a hyfforddiant i gefnogi eu sefydliad i gynnal digwyddiadau cymunedol a mabwysiadu dull hawliau plant.