Llywio Yfory: Creu Mannau Diogel i Ferched a Menywod

Gweld yr holl newyddion...

Croesawodd Caerdydd sy’n Dda i Blant, mewn partneriaeth â’r tîm Diogelu Pobl Ifanc Rhag Camfanteisio (DPIRhC), Chwaraeon Met Caerdydd, a Bwrdd Iechyd Prifysgol Caerdydd a’r Fro (BIPCaF), dros 100 o gynrychiolwyr i Sparc|Spark yng Nghaerdydd ar 27 Chwefror 2024.

Fel rhan o ystod eang o gynlluniau i fynd i’r afael â thegwch rhwng y rhywiau yn y ddinas, gwahoddodd Caerdydd sy’n Dda i Blant a phartneriaid randdeiliaid o’r sector cyhoeddus, y trydydd sector a’r sector preifat, mewn ymgais i gyfuno meddyliau arbenigol, wrth lunio ein dinas i ddod yn fwy diogel ac iachach i ferched a menywod.

Roedd siaradwyr gwadd, uchel eu parch, yn cynnwys:

Dr Jenny Wood, A Place in Childhood;

Karen Whybro, Siarter Diogelwch Menywod;

Dr Anna Barker, Prifysgol Leeds;

Susannah Walker, Make Space for Girls;

Fiona Stocker, Abianda

Georgia Theodoulou, Our Streets Now

Dr Matluba Khan a Dr Neil Smith, Prifysgol Caerdydd

Roedd y digwyddiad yn cynnwys gweithdai yn ymdrin â phynciau fel economi’r nos, mapio cymunedol, diogelu cyd-destunol, aflonyddu rhywiol cyhoeddus, a dod â merched i mewn i ddyluniad parciau. Daeth cynrychiolwyr o faes cynllunio, yr heddlu, gwasanaethau ieuenctid ac unigolion o feysydd llawer ehangach â chyfoeth o brofiad a gwybodaeth i’r digwyddiad, gan ein galluogi i fapio ein cryfderau a’n cyfleoedd ym maes gwaith cyfoes.

Cynhaliwyd y diwrnod yn arbennig gan Nikki Giant (Girl Lab) ac Arthur Templeman-Lilley (Cyngor Ieuenctid Caerdydd). Roedd adborth o’r digwyddiad yn hynod gadarnhaol, gyda’r dyhead o ddod y ddinas orau yn y DU i ferched a menywod deimlo’n ddiogel ac yn iach i’w weld yn ystod ymarfer gweledigaethau terfynol y dydd.

Gallwch ddod o hyd i’r holl adnoddau, y cyflwyniadau, bywgraffiadau siaradwyr a llawer mwy ar Padlet y digwyddiad yma!