Grŵp Llywio Cydraddoldeb Rhywiol CIC

Gweld yr holl newyddion...

Mae’r Datganiad Cyffredinol o Hawliau Dynol (1948) yn datgan bod “gan bawb hawl i’r holl hawliau a rhyddid a nodir yn y Datganiad hwn, heb unrhyw wahaniaeth o gwbl, yn arbennig unrhyw wahaniaeth hil, lliw, rhyw, iaith, crefydd, … geni neu safle arall.”

Felly, mae cyfraith ryngwladol yn datgan bod cydraddoldeb rhywiol yn hawl ddynol.

Mae Cyngor Ieuenctid Caerdydd wedi sefydlu Grŵp Llywio Tegwch rhwng y Rhywiau i archwilio profiadau o anghydraddoldeb rhwng y rhywiau a’r hyn y gellir ei wneud yn y ddinas i wella hyn.

Cawsom ein cyfarfod cyntaf lle’r oedd yn wych cael pobl ifanc o’r un anian at ei gilydd i drafod rhywedd a’u profiadau.

Roedd y prif themâu a ddaeth o’n trafodaeth gychwynnol yn canolbwyntio ar gasineb at fenywod, stereoteipio rhywedd a phobl ifanc yn gallu archwilio eu rhywedd eu hunain yn gadarnhaol ac yn ddiogel. Gwnaethom nodi bod y rhyngrwyd hefyd wedi cael effaith enfawr ar bob un o’r themâu hyn, boed hynny trwy brofiadau negyddol ar gyfryngau cymdeithasol neu boblogrwydd cynyddol dylanwadwyr gwreig-gasaol.