Bwrdd Cynghori Plant a Phobl Ifanc (BCPPI)

Gweld yr holl newyddion...

Mae Caerdydd sy’n Dda i Blant wedi gweithredu gyda bwrdd cynghori ers 2018, gan helpu i lunio a chraffu ar ein gwaith gyda Chyngor Caerdydd a Menter ‘Dinasoedd sy’n Dda i Blant’ UNICEF UK.

Y llynedd, helpodd y grŵp i guradu’r ŵyl ‘Haf o Hwyl’ a gweithiodd yn agos gydag academyddion yn Arsyllfa Hawliau Dynol Prifysgol Abertawe i lunio adroddiad ar gyflwr Hawliau Plant yng Nghaerdydd.

Ar hyn o bryd mae’r grŵp cynghori yn helpu i lunio ‘Gŵyl Hawliau’ ym mis Gorffennaf, ynghyd â pharatoi ar gyfer ymweliad achredu UNICEF UK ym mis Mai. Bydd BCPPI hefyd yn cynnal ymweliad gan Grŵp Ieuenctid Derry a Strabane ym mis Ebrill, gan eu croesawu i’r ddinas a rhannu straeon am weithredu a chyfranogi ieuenctid.