Blaenoriaethau CIC 2023

Gweld yr holl newyddion...

Dros y misoedd diwethaf rydym wedi bod yn edrych ar ddata a gawsom gan y Rhwydwaith Ymchwil Iechyd mewn Ysgolion (RhYIY) ac Arolwg Disgyblion Caerdydd sy’n Dda i Blant.

Mae’r RhYIY yn bartneriaeth rhwng Llywodraeth Cymru, Iechyd Cyhoeddus Cymru, Cancer Research UK, Sefydliad Ymchwil, Data a Methodoleg Gymdeithasol ac Economaidd Cymru (WISERD) a Phrifysgol Caerdydd. Bob dwy flynedd maent yn cynnal arolwg Iechyd a Lles Myfyrwyr sy’n gofyn i fyfyrwyr am ystod o ymddygiadau a chanlyniadau iechyd yn ogystal â’u hoedran, eu rhywedd a sut maen nhw’n teimlo am yr ysgol. Cafwyd dros 11,000 o ymatebion i’r arolwg hwn.

Nod arolwg disgyblion Caerdydd sy’n Dda i Blant oedd casglu barn plant ar ystod eang o bynciau, gan gynnwys deall eu hymwybyddiaeth o Hawliau Plant, boddhad â’r cyngor a gwasanaethau cyhoeddus eraill, a pha faterion sy’n bwysig iddynt. Cafwyd dros 7,000 o ymatebion i’r arolwg hwn.

Ar ôl mynd drwy’r data hwn a siarad â phobl ifanc eraill, gwnaethom gyflwyno 5 cynnig i’w trafod a phleidleisio arnynt fel y gallwn bennu ein blaenoriaethau hyd at fis Gorffennaf 2024.

Y cynigion a gyflwynwyd oedd:

Iechyd a Lles

Bwlio

Amgylchedd

Cyfryngau Cymdeithasol (Newyddion ffug / realiti)

Costau byw

Ddydd Mercher, 15 Chwefror, cawsom drafodaeth dda iawn ar y cynigion a gyflwynwyd ac yna cafwyd pleidlais arnynt.

Defnyddiom y system bleidleisio sengl drosglwyddadwy i sicrhau bod pa flaenoriaethau bynnag a osodwyd yn cael digon o gefnogaeth gan ein haelodau a’r canlyniad yw y byddwn yn canolbwyntio ar

Iechyd a Lles

Costau Byw

Byddwn nawr yn dechrau edrych ar ddatblygu ein blaenoriaethau yn ganlyniadau ymarferol a chyraeddadwy…. felly cadwch lygad am ragor o wybodaeth.

Nid dyma’r unig bethau y byddwn yn gweithio arnynt eleni gan fod gennym grŵp newydd ei sefydlu sy’n edrych ar Gydraddoldeb Rhywiol yn ogystal â’r gwaith y mae ein Bwrdd Cynghori Plant a Phobl Ifanc yn ei wneud gyda Thîm Caerdydd sy’n Dda i Blant.

Ar ben hyn mae ein grŵp Diwygio yn gweithio’n galed i helpu i ddatblygu a gwella’r hyn a wnawn fel cyngor ieuenctid.