Gweithgareddau Safle’r ŵyl

Beth sy’n digwydd yng ngŵyl gwên o haf rhwng 20 Gorffennaf ac 8 Awst (ac eithrio ar ddyddiau Llun)

 

Actifyddion Artistig

Beth am fod yn actif yn ein dwy babell actifyddion artistig lle bydd ystod enfawr o weithgareddau’n cael eu cynnal yn y ddwy babell.

O bartïon babanod i weithdai portreadu ac o roi cynnig ar ddosbarthiadau gwnïo i weithdai bandiau a hip hop, mae rhywbeth at ddant pawb sydd am fod yn artistig ac yn actif yr haf hwn. Mae hyd gweithgareddau’r sesiwn gynharach yn addas i blant iau ac mae hyd gweithgareddau diwedd y prynhawn yn addas i blant hŷn.

 

Gweithdai Syrcas

Rhwng Pebyll yr Actifyddion Artistig, bydd Citrus Arts yn cynnal sesiynau creu a mynd lle byddwch yn mynd â’r hyn rydych wedi’i wneud adref gyda chi gan gynnwys Cylchoedd Hwla, Poispinners a llusernau yn ogystal â’ch addysgu sut i ddefnyddio’r rhain. Yna byddwch yn barod i gynnal eich syrcas eich hun gartref. Bydd Citrus yn cyflwyno sesiynau siglo cynwysyddion mwg ar nosweithiau Sadwrn rhwng 6:30pm a 7pm

 

Pêl-droed Bwrdd

Colli’r Ewros yn barod? Wel cymerwch ran mewn twrnamaint pêl-droed bwrdd cyffrous yn chwarae ar ran eich hoff wlad. Heriwch eich ffrindiau ac ennill lle ar fwrdd ceffylau blaen y twrnamaint. Ni fydd cost a bydd modd i chi adael ar unrhyw bryd, ond cofiwch adael y “Bale”!

 

Llwyfan Perfformio

Wythnosau 1 a 2.

Acrobatiaid, jyglwyr a chomedïwyr yn dod â hwyl i lwyfan awyr agored yng nghanol y coed! Bydd yr artistiaid yn newid bob dydd ond byddant yn cynnwys y criw acrobatig Affricanaidd anhygoel, y Black Eagles, Celf Fyw gan John Hicks, sioe Cylchoedd Hwla gan Angie Mack a hwyl dyn y tu mewn i falŵn gan Carlos Airhead.

Yn ystod yr wythnos olaf cadwch lygad yn agored am ddwy ddrama a fydd yn ymweld â’r safle sef Hoof! gan Theatr Iolo a Kitsch n sync a Crafangau/Claws gan y Sherman

 

Hoof (amseroedd perfformio 10.30, 12pm, 2pm)

Mae tri charw bach yn gwneud darganfyddiad annisgwyl wrth iddynt ddod ar draws hen theatr a adawyd yn y goedwig. Wrth ymchwilio i’w darganfyddiad newydd, mae’r triawd hwyliog hwn yn denu sylw’r goleuadau yn gyflym ac yn troedio’r byrddau am y tro cyntaf erioed! A fydd y ffrindiau sy’n dawnsio tap yn gallu dod â’r hen theatr anghofiedig yn ôl yn fyw? Neu a gaiff y goleuadau eu diffodd am byth? Canllaw Oedran: 4+ oed ac yn addas i’r teulu cyfan

 

Crafangau/Claws (amseroedd perfformio 5.30, 6.30) . Yn Gymraeg ac yn Saesneg.

Mae Mamgu Mason eisiau sythu’r duwch o’i gwallt. Mae hi am i Mason edrych fel rhywun arall. Beth ddylai Mason ei wneud? Yn y goedwig ger Sain Ffagan mae Mason yn cael cyfarfyddiad annisgwyl â phanther. Efallai y gall y creadur anhygoel hwn helpu Mason i’w ryddhau ei hun.

Dilynwch ni i goedwigoedd cyfareddol, ychydig y tu hwnt i’n bywyd bob dydd gyda stori rymus, hudolus Nia Morais. Canllaw oedran 11+

 

Perfformwyr Peripatetig

Bydd Gwên o Haf yn sicr wrth i grŵp lliwgar o gymeriadau yn eu gwisgoedd, gan gynnwys athrawon ymarfer corff, cadetiaid gofod, cymeriadau ar stilts, potiau blodau a changarŵod bownsio orymdeithio trwy’r safle!

 

Y Babell Hapus

Wythnosau 1 a 2, Platfform

Wythnos 3. Grassroots.

Wythnosau 1 a 2. Gallwch ysgrifennu ar y wal Cariad, printio ar grysau t, chwarae gemau gardd enfawr, a gemau eraill wedi’u trefnu, gwneud jariau diolchgarwch a chael eich ffilmio fel seren mewn pabell a fydd yn llawn hwyl a hapusrwydd.

Yn ystod wythnos 3, bydd Grassroots yn cynnal amrywiaeth o weithgareddau a gweithdai yn amrywio o addurniadau wal Larkdesign, y wal sylfaen Ddiogel ac amrywiaeth o weithgareddau cerddoriaeth llawn egni ar y Dydd Sul olaf.

 

Alpacaod Anhygoel

Ychydig y tu allan i’r Babell Hapus bydd Platfform yn cyflwyno dau alpaca hardd a fydd yn sicr o godi eich calon! Mae’r ffrindiau blewog hyn wedi dod yr holl ffordd o’r Andes (drwy Drefynwy) i gynhesu’r calonnau oeraf a byddant yn falch o’ch gweld yn yr ŵyl.

 

Emporiwm Pedlo

Cymrwch ran mewn gweithgareddau a bwerir gan feiciau yn ffatri hwyl benigamp Caerdydd, gallwch fynd ar gefn beic i greu swigod, troi paent a hyd yn oed bweru disgo heb blygio i mewn i’r prif gyflenwad trydan!

 

Promo Cymru / The Sprout

Yn rhan o’r ŵyl, mae The Sprout yn comisiynu 10 o bobl ifanc greadigol 14-18 oed a fydd yn creu ac yn arddangos eu gwaith celf ar y safle mewn dathliad o dalent ryfeddol pobl ifanc yn ein dinas.

 

Sioeau BMX Inspire

Bachwch sedd flaen i wylio sioeau BMX byw gan feicwyr mentrus o’r radd flaenaf yn perfformio symudiadau anhygoel, gan gadw pellter cymdeithasol wrth gwrs. Dilynir y sioeau gan weithdai rhoi cynnig arni lle gallwch ddysgu sut i reidio BMX fel beicwyr proffesiynol.

 

Green Squirrel

Bydd Green Squirrel yn creu nifer o ddarnau cydweithredol o gelf stryd sy’n arddangos problemau ac yn tynnu sylw at y negeseuon sy’n bwysig i bobl ifanc am yr argyfwng hinsawdd ac ecolegol. Gan ddewis creu delweddau o donnau, delweddau sy’n dangos lefelau’r môr yn codi, neu ddelweddau o

fywyd gwyllt sy’n dirywio. Caiff staff eu hyfforddi’n llawn i siarad am y materion hyn mewn ffordd gyfeillgar ac addysgiadol, gan rymuso’r bobl ifanc i siarad am y materion sy’n bwysig iddynt a chreu darn o gelf i gyfleu’r negeseuon hyn i’r cyhoedd. Caiff y darnau celf stryd hyn eu creu gan ddefnyddio rhwyll wifren a thechnegau pwythau croes a gwehyddu gyda stribedi o ddeunydd wedi’u hailgylchu. Gellir eu harddangos ar ffensys Heras yn rhan o’r ŵyl ac yna eu hailgartrefu ar draws cymunedau Caerdydd.

 

Pabell Amgueddfa Genedlaethol Cymru Caerdydd

Ymchwiliwch i gelf a hanes ym mhabell yr Amgueddfa sy’n cynnwys Adrodd Straeon, hwyl gyda symud a rhigymau, gweithdai creu a gwneud a sesiynau chwrdd â’r Rhufeiniaid a’r Celtiaid.

Mae sesiynau diweddarach i bobl ifanc yn eu harddegau yn cynnwys edrych ar hanes protest. Lles ac ymwybyddiaeth ofalgar gan ddefnyddio gwrthrychau a gwneud mapiau ystyriol. Ffotograffiaeth. sut i gymryd hunlun ac ati

 

Chwaraeon Caerdydd

Mae sboncen, athletau, tennis, pêl-droed, pêl-fasged cadair olwyn, rygbi, rhedeg rhydd a thenis bwrdd yn rhai o’r chwaraeon y gallwch roi cynnig arnynt dros y tair wythnos yn ein hardal chwaraeon wych yng Nghaerdydd.

Bydd y gweithgareddau yn amrywio o ddydd i ddydd.

 

Coleg Caerdydd a’r Fro

Mae ystod wych o gyrsiau a gweithgareddau cyffrous ar gael gan Dîm y Coleg gan gynnwys Gwallt a Cholur, Minecraft, gweithdai Drama, Cod a Drôn, DJ am ddiwrnod, Sesiynau Gwneud a Rasio a llawer mwy, gweler blaen y babell i weld y gweithgareddau unigol dyddiol.

 

Pabell gymorth y blynyddoedd cynnar

Gallwch gael yr help sydd ei angen arnoch o’r babell ddefnyddiol hon gyda gweithgareddau fel gwasanaethau deiet, therapi lleferydd a llu o gysylltiadau i helpu gydag ystod o faterion blynyddoedd cynnar.