Adnoddau Hawliau Plant i rieni ac ymarferwyr

Gweld yr holl newyddion...

Neges gan lywodraeth cymru:

Prynhawn da,

Rydym yn falch o roi cyngor fel rhan o’n dull Chwarae, Dysgu a Gofal Plentyndod Cynnar ar gyfer plant 0–5 oed yng Nghymru; Mae nifer o daflenni wedi’u datblygu sy’n cynnwys:

  1. Beth yw hawliau plant,
  2. Confensiwn y Cenhedloedd Unedig ar Hawliau’r Plentyn
  3.  Sut i gefnogi hawliau babanod a phlant ifanc o 0-5 oed

Mae’r daflen A3 wedi cael ei datblygu ar gyfer ymarferwyr ac mae’r pedair taflen A4 wedi cael eu datblygu ar gyfer rhieni. Mae’r ddwy set yn cwmpasu Dyma fi! (0-12 mis) Rwy’n archwilio! (1-2 oed) Edrychwch arna i nawr! (2-3 oed) a Gwyliwch fi’n mynd, dyma fi’n dod! (3-5 mlwydd oed).

Hoffem fanteisio ar y cyfle hwn i ddiolch i’r rhai sydd wedi bod yn rhan o’u cyd-ddatblygiad.

Mae croeso i chi ledaenu’r taflenni hyn i’ch cydweithwyr, rhwydweithiau ehangach a’u lanlwytho i wefannau presennol ar gyfer y rhai a fyddai â diddordeb/yn eu gweld yn ddefnyddiol.

Cofion cynnes,

Llywodraeth Cymru.