Grantiau Gweithredu Cymdeithasol Plan UK – Ysgogwyr Newid Ifanc Caerdydd

Gweld yr holl newyddion...

Grantiau Gweithredu Cymdeithasol Plan UK – Ysgogwyr Newid Ifanc Caerdydd

Mae Caerdydd sy’n Dda i Blant wedi ffurfio partneriaeth â Plan UK (Cymru) i lansio cynllun grant gweithredu cymdeithasol ar gyfer pobl ifanc 13-25 oed. Mae hyd at £1,000 mewn grantiau ar gael ar gyfer prosiectau sy’n ceisio creu Caerdydd lle mae cydraddoldeb rhywiol.

Daeth panel asesu pobl ifanc wedi’i ffurfio o aelodau o Gyngor Ieuenctid Caerdydd ynghyd i asesu’r ceisiadau am grant a thrafod pa syniadau am brosiectau a ddylai dderbyn yr arian yn eu tyb nhw. Roedd hi’n noson ysbrydoledig yn gwrando ar syniadau am brosiectau dan arweiniad pobl ifanc sy’n frwdfrydig dros wella amgylchiadau yng Nghaerdydd.