Rhan 3

Roeddwn i wedi bod i’r rhan yma o’r bae o’r blaen, ond dim ond yn y dydd, a nawr roedd hi’n dywyll iawn. Felly roeddwn i’n hapus iawn pan gyrhaeddais i lwybr y môr. Wyt ti wedi bod fan hyn o’r blaen? Os edrycha di lawr ar dy draed, fe weli di’r patrymau mwyaf arbennig yn y carreg. Gwymon, crychau yn y tywod, cregyn. Cerddais ar hyd llwybr y môr gan deimlo’r holl patrymau o dan fy nhraed. Roedd y ddraig fach yn drwm ar fy nghefn, ond teimlais yn hapus iawn nawr. Tynnais anadl ddwfn o holl oglau’r bae.

Beth wyt ti’n gallu arogli heddi? Sut mae’r tywydd? Ydy hi’n wyntog? Ydy hi’n heulog? Ydy hi’n bwrw glaw?

Beth am gael tro ar deimlo’r llwybr o dan dy draed gyda dy lygaid di ar gau? Ydy hi’n bosib gwybod beth sydd o dan dy draed jyst trwy gyffwrdd?

Rhoddodd y ddraig fach ei ben allan o’r bag ac edrychodd ar lwybr y môr hefyd. Roedd e’n canu i’w hun mewn llais bach gwichiog. “Fe fyddem ni yno’n fuan,” dywedais i wrtho, gan ddilyn llwybr y môr.

Roeddwn i’n syllu ar fy nhraed mor galed ac yna BAM! Taranais i’n syth i fewn i rywbeth. Neu rywun. Neidiais yn ôl gyda sgrech a gwichiodd y ddraig fach hefyd. Ond…roedd dim byd yno.

Yn gyflym iawn, caeaodd niwl trwchus droston ni. Nawr doeddwn i ddim yn gallu gweld fy nhwylo na chwaith fy nhraed. Ac yn fwy pwysig roedd rhywbeth arall yno.

Neu rywun arall.

Nes i barhau i gerdded gan deimlo llwybr y mor o dan fy nhraed ond wrth i fi wneud, sylweddolais i nad oeddwn i nawr yn gwybod y gwahaniaeth rhwng lan, lawr, de neu chwith, dyna pa mor drwchus oedd y niwl. Sut ar y ddaear oedden ni’n mynd i fedru cyrraedd y morglawdd nawr?

Ac yna – BAM! Cerddais yn syth i fewn i rywun eto.

“Sori!” dywedais i. “Dwi methu gweld dim. Wyt ti’n gallu fy helpu i os gwelwch yn dda?”

Ymestynais law allan tuag at y peth ond eto doedd dim byd yno heblaw am y niwl.

Dechreuais i deimlo’n ofnus iawn. Roedd y ddraig fach yn fy mag yn amlwg yn ofnus iawn hefyd achos roedd e wedi cuddio’i ben eto ac yn crynu.

“Paid a bod ooooofn,” sibrydodd lais bach yn fy nglust. “Wnai dy arwain di i ddiogeeeeelwcccchh. Cymra fy laaaaaw.”

“Pwy wyt ti?”

“Dim otsssssss,” dywedodd y llais. “Jysssssst cymera fy laaaaaw.”

Ac o’n blaen ni yn y niwl, weles i law bach, liw gwyrdd, yn disgleirio. Roedd ganddo fe fysedd hir esgyrnog.

Er chwaith y ffaith bod y llais mor ddeniadol roedd rywbeth yn dweud wrtha i i fod yn ofalus.

“Dwi’n mynd tuag at y morglawdd,” dywedais i. “Mae angen i fi ryddhau’r ddraig fach hon i fewn i’r mor fel bod e’n gallu mynd adre. Wyt ti’n gallu dweud wrtha i pa ffordd i fynd?”

“Fedrai ddim dweud wrthat tiiii,” sibrydodd y llais. “Ond allai dangos i tiiiiii.”

Chwifiodd y llaw bach gwyrdd arna i eto. Meddyliais i, gall e ddim fod mor beryglus gyda llaw mor fach? Efallai mae e wir yn gwybod y ffordd drwy’r niwl. Efallai bydd e’n dangos i ffordd diogel i’r morglawdd i mi.

Ymestynais tuag at y llaw gwyrdd.

“Dyna tiiiii,” sibrydodd y llais. “Un cam yn agosssssach. Nawr, cama i ffwrdd o lwybr y moooor.”

Ac yn sydyn roedd y llaw bach gwyrdd wedi fy nghipio i a doedd fy nhraed ddim ar y llwybr rhagor. Nid oeddwn i ragor yn gallu teimlo crychau’r tywod na’r gwymon na’r cregyn o dan fy nhraed, dim ond carreg. A roedd y llaw gwyrdd yn tynnu fy llaw i gyda chryfder enfawr, roedd e’n tynnu mor gryf nes bod fy llaw i’n colli teimlad yn llwyr, a roedd y llaw bach gwyrdd fel petai bod e’n mynd yn gryfach ac yn gryfach ac yn gryfach…

I ble roedden ni’n mynd? Roedd hi mor niwlog roedd hi’n amhosib gweld unrhywbeth…

A dyna pan glywais i swn sblashio tonnau’r bae a sylweddolais i mewn braw taw nid tynnu ni tuag at y morglawdd oedd y llaw gwyrdd ond tuag at y dwr. Ac yn sydyn roeddwn i’n gwybod yn syth pwy oedd y creadur hwn. Coblyn y môr oedd e. Roedd mam wedi gweud storis i mi am goblyn y môr. Sut roedd e’n amgylchynu teithwyr gyda niwl trwchus ac yn eu hannog nhw i gymryd ei law, ac wedi yn eu tynnu tuag at y môr a gwthio nhw i fewn a’u boddi nhw: roedd e’n caru twyllo pobl fel hwn. Roeddwn i bob amser wedi addo na fyswn i byth yn cael fy nhwyllo gan goblyn y môr, a nawr, dyma lle oeddwn i.

Nes i drio stopio symud drwy balu fy nhraed i fewn i’r carreg ond wrth gwrs nes i barhau i lithro ymlaen ac ymlaen, coblyn y môr yn fy nhynnu’n gryf a’r ddraig fach ar fy nghefn yn crynu gydag ofn. A nawr roedd y coblyn yn chwerthin yn ei lais ofnadwy, “Jyssssstt un cammmm arallll.”

“Naaaaa!” sgrechiais. A dyna pan ymddangosodd ben y ddraig fach o’r bag. Dangosodd ei ddannedd bach miniog a saethu rywbeth o’i geg tuag at y coblyn. Dwi ddim yn gwbod os oedd e’n dân neu’n stêm ond ’nath e weithio. Roedd yna sgrech uchel ac ofnadwy a theimlais y creadur yn ryddhau fy llaw. Heglais yn ôl mewn cyfeiriad y llwybr môr ond nawr roedd y niwl yn fwy drwchus byth a roedd hi’n amhosib gweld unrhywbeth, nid y môr, nid y morglawdd na chwaith y bae. Roedden ni ar goll yn llwyr.“Amssssser rhoi’r ffidil yn y toooo,” sibrydodd y coblyn yn fy nghlust. Poerodd y ddraig fach tuag ato.

Yna, ’nes i deimlo fe. O dan fy nhroed. Siâp tywod. Roeddwn ni nôl ar lwybr y môr. Roeddwn i’n gwybod, os roeddwn i’n ei ddilyn, bydd e’n arwain ni tuag at y morglawdd. Un cam ar ôl y llall.

Beth wyt ti’n gallu teimlo o dan dy draed? Dyna oedd yn pethau oedd yn cadw fi i fynd, cam wrth gam, wrth i’r ddraig fach syllu allan o’r bag ar fy nghefn a chwyrnu ar y niwl.

Ac o’r diwedd, dyma’r niwl yn diflannu a roedd sgrechian coblyn y môr ymhell tu ôl i ni.