Mae plant, pobl ifanc a theuluoedd wedi bod yn helpu i lunio dyfodol canol dinas Caerdydd drwy ymarfer ymgysylltu diweddar a gynhaliwyd ar ran Pwyllgor Craffu yr Economi a Diwylliant. Casglodd yr ymgynghoriad dros dro, a gyflwynwyd gan Caerdydd sy’n Dda i Blant ac aelodau o Gyngor Ieuenctid Caerdydd, farn tua 150 o bobl yn ystod gwyliau’r Pasg yn yr Ais.
Tynnodd y cyfranogwyr sylw at yr hyn y maen nhw’n ei werthfawrogi fwyaf am ganol y ddinas, gan gynnwys ei siopau, bwyd, atyniadau diwylliannol, llyfrgell, amgueddfeydd, digwyddiadau a mannau gwyrdd. Fe wnaethant ddisgrifio canol dinas Caerdydd fel lle pwysig i gwrdd â ffrindiau, treulio amser gyda’r teulu a mwynhau gweithgareddau hamdden.
Nododd pobl ifanc feysydd i’w gwella hefyd. Ymhlith y themâu cyffredin roedd creu canol dinas mwy diogel, glanach a gwyrddach, darparu mwy o weithgareddau am ddim ac sy’n addas i deuluoedd, gwella mannau cyhoeddus a seddi, gwell opsiynau trafnidiaeth, a datblygu mannau mwy cynhwysol a chroesawgar i blant a phobl ifanc yn eu harddegau.
Bydd y canfyddiadau yn cael eu hystyried gan Bwyllgor Craffu yr Economi a Diwylliant fel rhan o’i ymchwiliad i ganol dinas Caerdydd a bydd yn helpu i lywio argymhellion i’r Cabinet yn y dyfodol. Drwy wrando’n uniongyrchol ar blant a phobl ifanc, mae Caerdydd yn parhau i sicrhau bod buddsoddiad yng nghanol y ddinas yn y dyfodol yn adlewyrchu anghenion a phrofiadau pob oedran.