Mae dros 400 o ymatebion gan blant a phobl ifanc ledled Caerdydd wedi helpu i nodi’r materion maen nhw’n credu sydd pwysicaf i ddyfodol y ddinas. Trwy’r arolwg “Dweud eich dweud!” rhannodd pobl ifanc eu barn ar gymunedau lleol, gwasanaethau’r cyngor, ysgolion a’r newidiadau yr hoffent eu gweld yng Nghaerdydd.
Roedd y neges gryfaf yn glir: mae plant a phobl ifanc eisiau dinas lanach, gwyrddach, fwy diogel gyda pharciau gwell, mwy o bethau i’w gwneud, trafnidiaeth well a mwy o gyfleoedd i bobl ifanc. Ymhlith y themâu a godwyd amlaf oedd yr amgylchedd a glendid, cyfleoedd chwarae a hamdden, addysg, perthyn i’r gymuned, trafnidiaeth, tai a diogelwch.
Bydd y blaenoriaethau hyn nawr yn cael eu hystyried gan y Pwyllgor Craffu Plant a Phobl Ifanc yn ystod cyfarfodydd craffu’r hydref a bydd yn helpu i lywio’r gwaith o bennu rhaglenni gwaith ar gyfer 2026/27. Bydd y canfyddiadau yn cefnogi’r Aelodau i nodi meysydd i’w craffu ymhellach arnynt ac yn sicrhau bod lleisiau plant yn parhau i ddylanwadu ar y broses o wneud penderfyniadau yng Nghaerdydd.