Hoffech chi fod yn rhan o Gymuned Chwarae Stryd Caerdydd?
Allwch chi gofio’r rhyddid yr oedd chwarae tu fas yn ei roi i chi – dysgu i reidio beic, chwarae gyda sialc, sgipio a chwarae yn yr awyr iach gyda’ch ffrindiau?
Gwnewch gais am Orchymyn Chwarae Stryd Dros Dro i gau eich stryd i draffig trwodd am 2 awr, unwaith y mis. Cefnogwch blant i chwarae gyda’i gilydd ar stepen eu drws a rhoi cyfle i gymdogion ddod at ei gilydd.
Er mwyn ei gwneud yn hawdd i chi a’ch cymdogion drefnu Chwarae Stryd, byddwn yn darparu’r cymorth canlynol:
- Cymorth gyda’r cais
- Darparu Pecyn Chwarae Stryd, gyda’r holl offer fydd ei angen arnoch i weithredu Stryd Chwarae yn ddiogel.
- Ewch i’ch sesiwn gyntaf i ddarparu arweiniad a chefnogaeth
- Canllaw i asesu risg, recriwtio stiwardiaid, cysylltu â gyrwyr, ateb cwestiynau am y cynllun.
Am fwy o wybodaeth am strydoedd chwarae ac i gyflwyno datganiad o ddiddordeb, ewch i: Strydoedd chwarae – Gwasanaethau Chwarae Plant
Bydd gofyn i drefnwyr preswyl fynychu dau gyfarfod Stryd Chwarae i gefnogi ceisiadau a gweithredu sesiynau Strydoedd Chwarae.

