Canllawiau a Hyfforddiant Cymryd Rhan

Canllawiau a Hyfforddiant Cymryd Rhan

O dan Fesur Hawliau Plant a Phobl Ifanc (Cymru) (2011), mae dyletswydd ar Weinidogion Cymru i hyrwyddo gwybodaeth a dealltwriaeth o Gonfensiwn y Cenhedloedd Unedig ar Hawliau’r Plentyn (CCUHP) a’i brotocolau i’r cyhoedd, gan gynnwys plant. Cyhoeddir datganiad ysgrifenedig a ffeithlun sy’n nodi’r ystod o weithgareddau y maent yn eu gwneud i gyflawni’r ddyletswydd. Datganiad Ysgrifenedig: Codi Ymwybyddiaeth o Hawliau Plant (3 Mawrth 2025) | LLYW. CYMRU

Mae gan Fyrddau Gwasanaethau Cyhoeddus eu dyletswyddau eu hunain i asesu lles economaidd, cymdeithasol, amgylcheddol a diwylliannol eu priod ardaloedd ac ymgynghori â grwpiau perthnasol. Bydd hyn yn cynnwys ystyried anghenion plant a cheisio eu barn. Bydd gan aelodau hefyd ddyletswyddau cyfranogi sy’n benodol i’w sefydliadau eu hunain,  SPSF 3: Rôl ar y cyd (byrddau gwasanaethau cyhoeddus).

Mae gan bob plentyn yr hawl i gael ei lais wedi’i glywed mewn penderfyniadau sy’n effeithio arno, ac i’w farn gael ei gymryd o ddifrif. Mae Llywodraeth Cymru wedi nodi ei Chynllun Codi Ymwybyddiaeth o Hawliau Plant, Codi ymwybyddiaeth o hawliau plant.

Drwy gyllid Llywodraeth Cymru i Blant yng Nghymru a Chomisiynydd Plant Cymru, maent wedi cefnogi’r gwaith o ddatblygu adnoddau ar gyfer ymgysylltu â babanod a phlant bach, Plant yng Nghymru | Adnoddau’r Blynyddoedd Cynnar. Hefyd offer i drafod dileu’r amddiffyniad o gosb resymol. Mae’r cyllid hwn hefyd wedi ategu’r gwaith o ddatblygu adnoddau i alluogi llunwyr polisi i ymgorffori dull sy’n seiliedig ar hawliau drwy ddefnyddio‘r Ffordd Gywir yn eu harfer yn gyffredinol ac mewn sectorau penodol a chynnig cyfleoedd datblygu’r gweithlu wyneb yn wyneb i ddeall cyfranogiad yn well drwy Hyfforddiant a ariennir gan Lywodraeth Cymru.