Prosiect Chwarae Cynhwysol y Gwasanaethau Chwarae Plant

Gweld yr holl newyddion...

Mae’r Gwasanaethau Chwarae Plant yn darparu sesiynau chwarae ledled y ddinas, ynghyd ag amrywiaeth o brosiectau sy’n hyrwyddo hawl pob plentyn rhwng 5 a 14 oed i chwarae. Mae’r rhain yn cynnwys Siediau Chwarae, Strydoedd Chwarae a digwyddiadau cymunedol ar raddfa fawr fel y Diwrnod Chwarae Cenedlaethol.

Yn ystod gwyliau’r ysgol, mae unig ganolfan chwarae bwrpasol Caerdydd yn gartref i sesiynau a ddarperir gan y Tîm Chwarae Cynhwysol. Mae’r rhain yn amrywio o sesiynau chwarae â chymorth i gyfleoedd chwarae hamddenol i deuluoedd, gan sicrhau bod plant a’u teuluoedd yn gallu chwarae mewn ffordd sy’n diwallu eu hanghenion orau. Mae’r sesiynau hyn yn darparu lle diogel, croesawgar a chynhwysol lle gall plant fwynhau chwarae a ddewisir yn rhydd ac a arweinir gan blant.

Mae gan y ganolfan chwarae ardd gaeedig gydag amrywiaeth o offer chwarae, sy’n galluogi plant i symud yn ddiogel ac yn annibynnol rhwng y mannau dan do ac yn yr awyr agored. I lawer o blant, mae mynediad i’r awyr agored yn cynnig cyfleoedd gwerthfawr i symud, archwilio a hunanreoleiddio.

Mae’r tîm wedi datblygu perthnasoedd cryf sy’n seiliedig ar ymddiriedaeth gyda’r plant sy’n mynychu, gan gymryd amser i ddeall eu diddordebau, eu cryfderau a’u hanghenion cymorth chwarae unigol. Mae gan bob plentyn sy’n mynychu’r sesiwn chwarae â chymorth lyfryn ‘Popeth Amdanaf Fi’. Mae hyn yn galluogi’r tîm i addasu’r gweithgareddau a’r amgylchedd i weddu i bob plentyn, gan eu helpu i deimlo’n ddiogel, eu bod yn cael eu gwerthfawrogi ac yn gallu cymryd rhan yn llawn.

Mae pob plentyn yn chwarae rhan weithredol wrth lunio’r sesiynau, gan weithio ochr yn ochr â’r tîm i ddylanwadu ar y gweithgareddau, yr adnoddau a’r amgylchedd chwarae cyffredinol. Mae’r tîm bob amser yn myfyrio ar yr hyn rydym yn ei ddarparu ac yn ei adolygu, ac mae’r hyn a welir yn helpu i lunio’r sesiwn chwarae nesaf.

Gall y plant a’u teuluoedd sy’n mynychu’r sesiynau Aros a Chwarae Hamddenol fwynhau sesiwn dawelach a mwy hamddenol. Bydd staff yn symud teganau swnllyd pan fo angen ac yn darparu amrywiaeth eang o weithgareddau synhwyraidd i ddiwallu anghenion cymorth chwarae’r plentyn.

Mae’r gwasanaeth yn cefnogi plant ag amrywiaeth eang o anghenion cymorth chwarae ac mae wedi ymrwymo i sicrhau bod pob plentyn yn gallu chwarae heb wynebu gwahaniaethu, mewn lle lle maent yn cael eu parchu a’u cynnwys, ac yn gallu datblygu hyder, cyfeillgarwch ac ymdeimlad o berthyn.

Mae’r holl staff sy’n gweithio yn ein sesiynau mynediad agored wedi gweithio ar y cynlluniau chwarae â chymorth a hamddenol. Maent yn defnyddio’r sgiliau, y profiadau a’r adnoddau hyn i gefnogi plant sy’n mynychu’r sesiynau mynediad agored.

Mae ein darpariaeth Chwarae Cynhwysol yn parhau i dyfu ac ehangu, gyda nifer cynyddol o blant yn defnyddio ein gwasanaeth.

Dyma rai sylwadau gan rieni plant sy’n chwarae yn ein cynllun Cynhwysol:

“Diolch yn fawr iawn. Mae I bob amser wrth ei fodd yn dod i’r cynllun chwarae. Rwy’n gwerthfawrogi’n fawr eich bod chi’n anfon y lluniau ataf, fel bod I yn gwybod ble mae’n mynd. Mae bob amser yn eich dewis chi yn gyntaf ac mae wrth ei fodd â phob un ohonoch chi.”

Mam I, Hydref 2026

“Ro’n i’n cerdded yn y parc ger y Sblot gyda fy merch a gallwn weld fy machgen yn chwarae’n hapus y tu allan. Roedd hynny’n rhoi tawelwch meddwl mawr i mi, gan nad ydw i’n hoffi ei adael yn unrhyw le, felly diolch yn fawr i’r tîm.”

Mam S, Mai 2026

“Diolch yn fawr iawn am wahodd J heddiw. Cafodd amser mor hyfryd, a gallwn ei glywed yn chwerthin o’r tu blaen. Os bydd unrhyw un yn canslo, byddai wrth ei fodd yn dod!!”

Mam J, Awst 2026