Caerdydd yn sicrhau ailachrediad Dinas sy’n Dda i Blant UNICEF am y tair blynedd nesaf

Gweld yr holl newyddion...

Mae Caerdydd wedi sicrhau ailachrediad fel Dinas sy’n Dda i Blant UNICEF am dair blynedd arall, gan gydnabod cynnydd parhaus y ddinas o ran ymgorffori hawliau plant ar draws gwasanaethau a phrosesau gwneud penderfyniadau, a’i hymrwymiad i sicrhau bod pob plentyn yn gallu ffynnu.

Mae’r ailachrediad, sydd ar gyfer y cyfnod 2026-2029, yn adlewyrchu ymdrechion parhaus Cyngor Caerdydd a’i bartneriaid i roi hawliau plant wrth wraidd polisi, gwasanaethau a chyflawni ledled y ddinas.

Dyfarnwyd statws Dinas sy’n Dda i Blant i Gaerdydd am y tro cyntaf yn 2023, y ddinas gyntaf yn y DU i ennill y gydnabyddiaeth ryngwladol nodedig, yn dilyn sawl blwyddyn o waith trwy raglen Dinasoedd a Chymunedau sy’n Dda i Blant y DU UNICEF.

Ers hynny, mae’r Cyngor a’i bartneriaid wedi parhau i adeiladu ar y sylfaen honno, gan ymgorffori dull sy’n seiliedig ar hawliau plant ar draws holl ddulliau gweithredu’r Cyngor yn gweithredu, gan sicrhau bod lleisiau plant yn llywio penderfyniadau’n fwyfwy, a chyflawni gwelliannau diriaethol mewn cymunedau.

children are standing on and around a climbing frame holding signs with messages relating to rights

Y cynnydd hyd yn hyn

Dros y tair blynedd diwethaf, mae cyflawniadau sylweddol wedi’u gwneud, gan gynnwys:

  • Ymgorffori hawliau plant mewn polisi, gwasanaethau a phrosesau gwneud penderfyniadau – gan ddod yn “ddull gweithredu arferol y Cyngor/”
  • Cryfhau llais a dylanwad plant a phobl ifanc, gyda chyfranogiad gweithredol mewn llywodraethu, cynllunio a strategaethau allweddol.
  • Ehangu addysg hawliau plant ledled y ddinas, gan gynnwys ymgysylltu’n gryf â’r Wobr Ysgolion sy’n Parchu Hawliau a hyfforddiant gweithlu.
  • Creu rhagor o gymdogaethau sy’n dda i blant, gyda safbwyntiau plant yn llywio gwelliannau megis llwybrau, parciau a chroesfannau mwy diogel.
  • Cynyddu’r defnydd o dystiolaeth ac Asesiadau o’r Effaith ar Hawliau Plant i lywio prosesau gwneud penderfyniadau.
  • Cyflawni gwaith arloesol i fynd i’r afael ag anghydraddoldeb, gan gynnwys rhaglenni sy’n canolbwyntio ar gynhwysiant rhywedd.

Ystadegau llinell uchaf:

  • Mae dros 80% o ysgolion bellach yn darparu addysg sy’n seiliedig ar hawliau
  • Mae 82.5% o staff y Cyngor wedi’u hyfforddi mewn hawliau plant
  • Mae 2,000+ o blant yn cymryd rhan mewn llywio polisïau a gwasanaethau
  • Mae pobl ifanc wedi treulio miloedd o oriau’n cyfranogi, gan fanteisio ar 286 o gyfleoedd cyfranogi o ansawdd uchel a gwirfoddoli mwy na 6000 o oriau
  • Plant yn dylanwadu ar newid gwirioneddol mewn cynllunio, polisi a gwasanaethau gyda dros 1,000 o blant yn ymgysylltu trwy offer mapio cymunedol

Dywedodd Arweinydd Cyngor Caerdydd, y Cynghorydd Chris Weaver:

“Rydym yn hynod falch bod Caerdydd wedi’i hailachredu fel Dinas sy’n Dda i Blant UNICEF. Mae’r cyflawniad hwn yn adlewyrchu blynyddoedd o ymrwymiad gan y Cyngor, ein partneriaid ac, yn bwysicaf oll, y plant a’r bobl ifanc sydd wedi helpu i lywio ein gwaith.

“Mae bod yn Ddinas sy’n Dda i Blant yn golygu rhoi hawliau plant wrth wraidd popeth rydym yn ei wneud – o sut rydym yn dylunio ein gwasanaethau i sut rydym yn cynllunio ein cymunedau. Dros y tair blynedd diwethaf rydym wedi gwneud cynnydd sylweddol, ond mae’r ailachrediad hwn hefyd yn alwad i fynd ymhellach.

“Ein ffocws nawr yw sicrhau bod pob plentyn yng Nghaerdydd yn gallu gweld a theimlo’r gwahaniaeth y mae’r gwaith hwn yn ei wneud yn eu bywydau pob dydd, a bod eu lleisiau yn parhau i arwain y newid rydym yn ei gyflawni fel dinas.”

Edrych tua’r dyfodol

Dros y tair blynedd nesaf, bydd Caerdydd yn canolbwyntio ar gryfhau effaith ei gwaith a sicrhau bod cynnydd yn cael ei deimlo’n glir ym mhrofiadau bywyd plant gyda blaenoriaethau allweddol i gynnwys:

  • Symud o weithgaredd i ganlyniadau mesuradwy, gyda gwerthusiad cryfach o effaith.
  • Cryfhau dylanwad pobl ifanc trwy wella strwythurau llywodraethu a dangos sut mae mewnbwn pobl ifanc yn arwain at newid sylweddol.
  • Mynd i’r afael ag anghydraddoldebau ac anghymesuredd, yn enwedig mewn meysydd megis cyfiawnder ieuenctid a thegwch hiliol.
  • Ymgorffori hawliau plant ar draws arweinyddiaeth, gan gynnwys aelodau etholedig ac uwch benderfynwyr.
  • Darparu gwelliannau gweladwy mewn cymdogaethau mae plant yn gallu eu profi’n uniongyrchol.
  • Gwella data, mewnwelediad a thryloywder i ddeall a mynd i’r afael â phrofiadau anghyfartal yn well.

Yn ddiweddar, ymwelodd Dirprwy Arweinydd ac Aelod Cabinet dros Addysg Cyngor Caerdydd, y Cynghorydd Sarah Merry, ag Ysgol Gynradd Windsor Clive i’w llongyfarch ar ennill Gwobr Aur Ysgolion sy’n Parchu Hawliau.

“Mae sicrhau ailachrediad fel Dinas sy’n Dda i Blant yn garreg filltir arwyddocaol i Gaerdydd, ond yn bwysicach fyth mae’n adlewyrchu’r cynnydd mawr sy’n cael ei wneud i wella profiadau pob dydd plant, dywedodd hi.

“Mae’r gwaith hwn yn ymwneud â gwrando ar blant, deall beth sy’n bwysig iddyn nhw a gwneud yn siŵr bod eu hawliau’n llywio’r penderfyniadau rydym yn eu gwneud ar draws y Cyngor a gyda’n partneriaid.

Wrth i ni symud i’r cam nesaf, rydym wedi ymrwymo i gryfhau’r effaith honno, gan sicrhau bod pob plentyn, ym mhob cymuned, yn elwa o ddinas sy’n rhoi eu hanghenion, eu lleisiau a’u hawliau yn gyntaf.”

Dywedodd Frances Bestley, Cyfarwyddwr Rhaglenni, UNICEF UK:

“Mae adnewyddu’r gydnabyddiaeth bod Caerdydd yn Ddinas sy’n Dda i Blant UNICEF yn gyflawniad rhagorol ac yn adlewyrchu blynyddoedd o waith caled ledled y ddinas. Mae’n wych gweld plant a phobl ifanc yn helpu i lunio penderfyniadau lleol a chael llais cryfach yn y penderfyniadau sy’n effeithio ar eu bywydau. Mae’r gydnabyddiaeth hon hefyd yn addewid i barhau i wrando ar blant a gwneud yn siŵr bod pob plentyn – yn enwedig y rhai sy’n wynebu’r heriau mwyaf – yn cael eu cefnogi, eu gwerthfawrogi ac yn gallu mwynhau eu hawliau.”