Mae plant yn dweud eu dweud ar Drem y Môr

Gweld yr holl newyddion...

Yr wythnos diwethaf, cynhaliodd Trem y Môr ddigwyddiad ymgynghori diddorol yn canolbwyntio ar wella profiadau plant mewn amgylcheddau trefol. Wedi’i drefnu mewn partneriaeth â Thîm Ymchwil ac Arloesi AtkinsRéalis, a’i gefnogi gan Dîm Tai ac Adfywio Cyngor Caerdydd, daeth y digwyddiad â phlant, teuluoedd a gweithwyr proffesiynol ynghyd i archwilio sut mae pobl ifanc yn llywio eu cymunedau.

Roedd yr ymgynghoriad yn canolbwyntio ar ddynodi llwybrau i blant, gan gynnwys eu llwybrau i’r ysgol ac ardaloedd chwarae, ac yn annog cyfranogwyr i feddwl yn greadigol am ddiogelwch, tymhorau, hwyl a hygyrchedd. Trwy weithdai rhyngweithiol a gweithgareddau mapio, rhannodd y plant eu safbwyntiau ar yr hyn sy’n gwneud i gymdogaeth deimlo’n groesawgar, yn ddiogel ac yn hawdd ei harchwilio.

Gan ychwanegu creadigrwydd, ymunodd Printhaus â’r digwyddiad gyda gweithgaredd argraffu crysau-t ymarferol, gan alluogi’r plant i fynegi eu syniadau yn weledol a mynd â chofrodd wedi’i phersonoli adref gyda nhw. Bydd mewnwelediadau wedi’u casglu o’r digwyddiad yn llywio’n uniongyrchol fframwaith newydd sydd â’r nod o wella lles plant mewn amgylcheddau trefol, gan alinio ag addewid Caerdydd i Ddull Seiliedig ar Hawliau Plant a Menter Dinasoedd sy’n Dda i Blant UNICEF UK. Mae’r gwaith hwn hefyd yn cefnogi nodau ehangach y Cyngor o adeiladu Caerdydd Gryfach, Decach a Gwyrddach.