Dathlu Cynnydd: Mae hanner ysgolion Caerdydd bellach yn arian neu’n aur

Gweld yr holl newyddion...

Wrth i’r flwyddyn academaidd ddod i ben, mae Caerdydd wedi cyrraedd carreg filltir arwyddocaol yn ei thaith i ymgorffori hawliau plant ar draws addysg. Heddiw, mae hanner yr holl ysgolion yn y ddinas wedi ennill Arian neu Aur yn y Wobr Ysgolion sy’n Parchu Hawliau.

Mae hyn yn golygu bod plant mewn mwy na 50 y cant o ysgolion Caerdydd yn dysgu bob dydd mewn amgylcheddau lle mae eu hawliau nid yn unig yn cael eu haddysgu ond yn cael eu cynnal yn ymarferol. Mae’r rhain yn ysgolion lle mae plant yn cael eu diogelu, eu parchu a’u trin fel partneriaid cyfartal wrth lunio eu haddysg a’u cymunedau. Maen nhw’n gwybod bod eu lleisiau yn bwysig a bod eu barn yn arwain at newid ystyrlon.

Mae’r effaith yn glir. Mae’r disgyblion mewn ysgolion sy’n parchu hawliau yn dangos mwy o hyder, hunan-barch cryfach, a mwy o ymwybyddiaeth o’r byd o’u cwmpas. Mae perthnasau ar draws cymuned yr ysgol wedi’u seilio ar gyd-barch, ac mae’r plant yn teimlo eu bod wedi’u grymuso i eirioli drostyn nhw eu hunain ac eraill.

Mae’r cynnydd hwn yn ganlyniad i ymdrechion parhaus staff ysgol, disgyblion a chydlynwyr sydd wedi gweithio gyda gofal ac ymrwymiad i greu diwylliant lle mae hawliau’n cael eu byw ac nid eu dysgu yn unig. Mae eu hamser, eu hegni a’u hangerdd wedi gwneud gwahaniaeth parhaol i fywydau plant a phobl ifanc ledled y ddinas.

Cymorth Parhaus i Ysgolion

Caerdydd yw’r awdurdod lleol cyntaf yn y DU i hyfforddi swyddogion lleol yn llawn fel aseswyr Arian wedi’u hachredu gan UNICEF. Mae hyn yn golygu bod y tîm Caerdydd sy’n Dda i Blant bellach yn gallu rhoi cymorth wyneb yn wyneb wedi’i deilwra i ysgolion nad ydyn nhw wedi ymgysylltu eto neu sydd yn y cyfnod Efydd ar hyn o bryd.

Gall ysgolion hefyd barhau i gael mynediad at gymorth yn uniongyrchol gan UNICEF UK. Mae’r tîm Caerdydd sy’n Dda i Blant bob amser ar gael i drafod opsiynau, cynnig arweiniad, a helpu unrhyw ysgol i gymryd ei cham nesaf. I drefnu sgwrs neu i ofyn am gymorth, cysylltwch â:

Robin Bonar-Law, Swyddog Cyswllt Dinas sy’n Dda i Blant
E-bost: robin.bonarlaw@caerdydd.gov.uk

Cynhadledd Gwobr Ysgolion sy’n Parchu Hawliau (GYPH) sydd ar ddod: Dull Hawliau Plant o Ymdrin â Chynhwysiant

Yr hydref hwn, bydd UNICEF UK yn cynnal Cynhadledd GYPH 2025, gyda ffocws ar sut y gall ysgolion gynnal hawliau pob plentyn wrth gefnogi’r gymuned ysgol ehangach.

Y prif siaradwr fydd yr Athro Laura Lundy o Brifysgol y Frenhines Belfast, a fydd yn cyflwyno syniadau o’i phapur Children, classrooms and challenging behaviour: do the rights of the many outweigh the rights of the few? Bydd y gynhadledd hefyd yn cynnwys yr Athro Carol Robinson o Brifysgol Strathclyde, sy’n arwain ymchwil newydd i effaith y GYPH ar gynhwysiant mewn ysgolion. Bydd y digwyddiad yn dod i ben gyda thrafodaeth banel gydag arweinwyr GYPH ysgolion a’r Cyfarwyddwr Rhaglen Martin Russell.

Mae Cynhadledd y GYPH yn agored i’r holl staff ysgol ac mae’n arbennig o berthnasol i’r rhai mewn rolau arwain neu sy’n arwain gwaith y GYPH yn eu lleoliad. Mae hefyd yn addas ar gyfer staff sy’n archwilio’r GYPH am y tro cyntaf, neu unrhyw un sydd â diddordeb mewn hawliau plant ac ymarfer cynhwysol.

Manylion y Gynhadledd
Dyddiad: Dechrau mis Hydref 2025
Amser: 9.30am i 12.15pm
Lleoliad: Microsoft Teams
Cost: Am ddim i ysgolion sy’n aelodau o’r GYPH (pob ysgol a gynhelir yng Nghaerdydd)
Dolen cadw lle: https://www.eventbrite.co.uk/e/rrsa-conference-2025-a-child-rights-approach-to-inclusion-tickets-1333899682859

Mae cynnydd Caerdydd eleni yn dangos nad gweledigaeth yn unig yw addysg sy’n seiliedig ar hawliau, ond realiti bywyd mewn ystafelloedd dosbarth ledled y ddinas. Gyda chydweithrediad a chymorth parhaus, gall pob ysgol yng Nghaerdydd ddod yn fan lle mae hawliau plant yn cael eu hymgorffori, eu cynnal a’u dathlu.