Gwybodaeth Ysgolion i Blant a Phobl Ifanc

​​​​​​​​​​​​​​​​​​​​​​​​​Iechyd a diogelwch disgyblion yw’r flaenoriaeth o hyd ac mae Cyngor Caerdydd, yn unol â chanllawiau’r Llywodraeth, yn parhau i weithio’n agos gydag ysgolion i gynnal mesurau priodol fel y gall pob plentyn a pherson ifanc, ynghyd â’u staff fynd i’r ysgol yn ddiogel.

Mae ysgolion yn gwneud trefniadau yn ôl eu hamgylchiadau eu hunain a byddant yn rhoi gwybod i rieni’n uniongyrchol am y trefniadau unigol ar gyfer eu disgyblion.
Atgoffir teuluoedd na ddylai dysgwyr fynd i’r ysgol dan unrhyw amgylchiadau os ydynt yn:
  • teimlo’n sâl, yn dangos unrhyw un o dri symptom COVID-19 a nodwyd (peswch parhaus newydd, tymheredd uchel neu golli blas a/neu arogl) neu os ydynt wedi cael canlyniad prawf COVID-19 positif yn y 14 diwrnod diwethaf
  • byw mewn cartref gyda rhywun sy’n dangos symptomau COVID-19 neu sydd wedi cael canlyniad prawf COVID-19 positif yn ystod y 14 diwrnod diwethaf.
Isod ceir atebion i gyfres o Gwestiynau Cyffredin a allai fod gan rieni, gofalwyr a disgyblion:
Child walking to school

Isod mae cyfres o Gwestiynau Cyffredin.

Dychwelodd disgyblion 3-7 oed y Cyfnod Sylfaen i ddysgu wyneb yn wyneb o Ddydd Llun 22 Chwefror.

O Ddydd Llun 15 Mawrth, bydd gweddill plant ysgolion cynradd yn dychwelyd i’r ysgol.

Gall ysgolion uwchradd, UCDau ac Ysgolion Arbennig hefyd groesawu dysgwyr yn ôl ym mlynyddoedd arholiadau 11 a 13, yn ogystal â chynnig hyblygrwydd i’r rhai ym mlynyddoedd 10 a 12.

Ddydd Mawrth 2 Mawrth, cyhoeddodd Gweinidog Addysg Cymru y bydd ysgolion yn cael mwy o hyblygrwydd, os dymunant, i groesawu dysgwyr yn ôl ym mlynyddoedd 7, 8 a 9 cyn gwyliau’r Pasg.

Ni fyddai hyn yn golygu dychwelyd i’r ysgol yn llawn ar gyfer blynyddoedd 7, 8 a 9 cyn y Pasg. Fodd bynnag byddai’n rhoi cyfle i ysgolion gynnig bod dysgwyr yn gallu cael gwiriad gyda’u hathrawon, gan ganolbwyntio ar gymorth ar gyfer lles, a pharodrwydd i ddychwelyd yn llawn i’r ysgol ar ôl y Pasg.

Mae’r Gweinidog Addysg hefyd wedi rhannu ei bwriad i gael pob dysgwr yn ôl i ysgolion, colegau a darparwyr hyfforddiant wedi gwyliau’r Pasg.

Bydd y ffocws cyn y Pasg yn parhau i fod ar ddysgwyr sy’n ymgymryd â chymwysterau, yn enwedig y rhai ym Mlynyddoedd 11 a 13, a’r rhai sy’n astudio gymwysterau galwedigaethol.

Lle mae capasiti’n caniatáu, bydd ysgolion yn parhau i ddarparu cymorth yn yr ysgol i ddysgwyr sy’n agored i niwed a phlant gweithwyr allweddol hanfodol, 7 oed a hŷn, a fydd yn digwydd yn ystod oriau ysgol arferol.

Bydd angen i ddysgwyr agored i niwed a phlant gweithwyr hanfodol barhau i ddilyn y canllawiau diogelu yn erbyn COVID a all gynnwys swigod grŵp blwyddyn neu swigod cyfnod allweddol.

Ar gyfer pob disgybl arall blynyddoedd 7,8 a 9 mewn ysgolion, colegau ac ysgolion annibynnol, bydd dysgu o bell yn parhau.

Mae canllawiau gweithredu ar gyfer ysgolion i’w gweld yma: Canllawiau gweithredol ar gyfer ysgolion a lleoliadau o 15 Mawrth | LLYW.CYMRU​

Gellir gweld datganiad y Prif Swyddog Meddygol ar ddychwelyd plant a phobl ifanc i ddysgu wyneb yn wyneb yma: Datganiad PSM ar ddychwelyd plant a phobl ifanc i ddysgu wyneb yn wyneb | LLYW.CYMRU​

A yw dychweliad mwy o ddisgyblion yn golygu y gellir llacio cyfyngiadau eraill?

Na. Mae Llywodraeth Cymru wedi datgan, er y gall ysgolion ailagor ar gyfer rhai disgyblion, fod yn rhaid i rieni a gofalwyr fod yn wyliadwrus er mwyn cadw cyfraddau trosglwyddo’n isel.

Y tu allan i dir yr ysgol a’r tu allan i oriau ysgol mae’n bwysig o hyd fod yr holl staff, plant a’u teuluoedd yn parhau i aros gartref gymaint â phosibl ac yn cyfyngu ar eu cyswllt ag eraill, gan sicrhau bod mesurau atal cenedlaethol yn cael eu dilyn.
Yn ei neges ddiweddar i rieni a gofalwyr, atgyfnerthodd y Gweinidog Addysg y neges “na chaniateir dêts chwarae, cysgu dros nos, partïon pen-blwydd na chymysgu gydag aelwydydd eraill.”

Gwybodaeth bwysig i rieni a gofalwyr wrth ollwng a chasglu plant o’r ysgol

Atgoffir rhieni a gofalwyr i gadw at reolau ymbellhau cymdeithasol wrth ollwng a chasglu eu plant a pheidio ag ymgynnull yn ystod yr adegau hyn. Er mwyn helpu disgyblion, rhieni a gofalwyr i gadw at reolau ymbellhau cymdeithasol yn ystod amseroedd gollwng a chasglu’r ysgol, gwnewch yn siŵr y cedwir at y canlynol:

  • Ceisiwch osgoi gyrru eich plentyn i’r ysgol os gallwch. Cerddwch neu teithiwch ar sgwter neu feic, lle bo modd
  • Os nad oes gennych ddewis ymarferol arall yn lle gyrru, parciwch ymhell i ffwrdd o’r ysgol a cherddwch weddill y ffordd
  • I helpu gyda diogelwch disgyblion a mesurau ymbellhau cymdeithasol, peidiwch â pharcio ar y palmant
  • Wrth ollwng eich plentyn neu ei gasglu, gwnewch bob ymdrech i gadw at fesurau ymbellhau cymdeithasol drwy aros 2 fetr i ffwrdd o bobl eraill
  • Dylech osgoi ymgasglu â rhieni eraill o amgylch mynedfeydd yr ysgol.

Gwnaeth Llywodraeth Cymru ddiweddaru ei chanllawiau i ysgolion ddydd Mawrth 5 Ionawr ac mae hyn yn cynnwys gwybodaeth am ddisgyblion y gellir eu nodi’n ddysgwyr sy’n agored i niwed.

Gallwch ddarllen y datganiad yma: Ysgolion: Canllawiau coronafeirws | LLYW.CYMRU​

Mae’r diffiniad yn cynnwys, ymhlith eraill, ddysgwyr sydd mewn un neu fwy o’r grwpiau canlynol:
  • dysgwyr ag anghenion addysgol arbennig (AAA)
  • dysgwyr o grwpiau lleiafrifoedd ethnig y mae’r Gymraeg neu’r Saesneg yn iaith ychwanegol iddynt (EAL/WAL)
  • plant sydd â phrofiad o ofal, gan gynnwys plant sy’n derbyn gofal
  • dysgwyr sy’n cael eu haddysgu heblaw yn yr ysgol (EOTAS)
  • plant ffoaduriaid a cheiswyr lloches
  • plant Sipsiwn, Roma a Theithwyr
  • dysgwyr sy’n gymwys i gael prydau ysgol am ddim (cPYADd)
  • gofalwyr ifanc
  • plant sydd mewn perygl o niwed, camdriniaeth neu esgeulustod.
Ni fydd pob dysgwr o’r grwpiau hyn yn wynebu rhwystrau i ddysgu nac mewn perygl o dangyflawni. Mae Llywodraeth Cymru wedi nodi cyfres o egwyddorion ar gyfer penderfynu pa ddysgwyr y dylid cynnig darpariaeth wyneb yn wyneb iddynt fel dysgwyr sy’n agored i niwed.
Bydd ysgolion yn gwneud penderfyniadau ynghylch pa ddisgyblion a ddylai fynychu’r ysgol, gan ddibynnu ar amgylchiadau lleol a’u gallu i ddarparu dysgu wyneb yn wyneb yn ogystal â chynnig dysgu o bell.
Bydd eich ysgol yn eich hysbysu’n uniongyrchol am drefniadau.

A fydd pob disgybl sydd â datganiad AAA yn cael ei ystyried yn ddysgwr sy’n agored i niwed?

Na fydd, ond dylai ysgolion roi ystyriaeth arbennig i ddysgwyr a allai ei chael hi’n anodd cael mynediad i ddysgu ar-lein, er enghraifft y rhai sydd â nam ar y synhwyrau.  Dylai ysgolion hefyd ystyried anghenion penodol dysgwyr sy’n mynychu Dosbarthiadau Lles neu Ganolfannau Adnoddau Arbenigol.  Bydd ysgolion yn gwneud cynnig dysgu cyson i bob disgybl, p’un a yw yn yr ysgol neu’n dysgu o gartref, gan gynnwys y rhai ag ADY.

Beth yw’r trefniadau ailagor ar gyfer Ysgolion Arbennig ac UCDau?

Bydd ysgolion arbennig a CAA yn cynnig darpariaeth yn yr ysgol i blant oed cynradd a rhai disgyblion oed uwchradd yn unol â disgwyliadau Llywodraeth Cymru. Lle mae dosbarthiadau’n gymysg, bydd Penaethiaid cyfnod allweddol yn penderfynu ar y cynnig gorau gan ystyried disgwyliadau Llywodraeth Cymru.​
Bydd ysgolion arbennig a’r UCD yn parhau i fod ar agor i gefnogi disgyblion eraill y nodwyd eu bod yn ddysgwyr agored i niwed.

Wrth benderfynu pa ddysgwyr y dylid eu hystyried yn agored i niwed, bydd ysgolion arbennig a’r UCD yn defnyddio’r un egwyddorion ag ysgolion prif ffrwd, gan ystyried anghenion penodol eu poblogaethau dysgwyr.

Bydd yr ysgolion yn parhau i weithio gyda gweithwyr iechyd proffesiynol a gweithwyr cymdeithasol i gynllunio mewn partneriaeth â dysgwyr sydd â’r anghenion mwyaf cymhleth, p’un a ydynt yn dysgu o gartref neu’n mynychu’r ysgol.

Mae Caerdydd yn cymhwyso diffiniad Gweithiwr Allweddol Llywodraeth Cymru, fodd bynnag, mae’r ddarpariaeth ym mhob ysgol yn dibynnu ar lefelau staffio a gallu ysgolion. Mae angen i blant rhieni mewn gwasanaethau golau glas rheng flaen, y GIG, gweithwyr ysgol a gofal cymdeithasol gael eu blaenoriaethu i helpu’r frwydr yn erbyn Covid-19.

Rydym yn gweithio gyda’n hysgolion a byddant yn gwneud penderfyniadau lleol yn seiliedig ar angen ac ar eu gallu eu hunain i ddarparu’r gwasanaeth. Yn unol â chanllawiau statudol, dim ond un rhiant/gofalwr y mae angen ei nodi fel gweithiwr allweddol, ond mae angen cofio mai dim ond pan fydd pob math arall o ofal diogel wedi’i ystyried yn llawn y bydd yn briodol cael y cymorth a gynigir mewn ysgolion.

Ffocws ysgolion yw darparu addysg a chynnig dysgu cyson i bob disgybl. Efallai y gofynnir i staff ysgolion hunanynysu neu efallai y byddant yn dal y feirws. Bydd hyn yn chwarae rhan o safbwynt faint o blant y gall ysgol eu cael ynddi.

Gwyddom fod y sefyllfa hon yn anodd i bobl, ond mae ysgolion ar gau oherwydd difrifoldeb y sefyllfa yng Nghymru. Mae pob ymdrech yn cael ei gwneud i atal y feirws rhag lledaenu tra’n gwneud yr hyn a allwn i helpu preswylwyr a dyna pam mae angen i ni geisio cadw’r niferoedd sy’n dysgu wyneb yn wyneb mewn ysgolion cyn lleied â phosibl wrth i ni ymateb i’r feirws yn ystod y cyfnod hwn o’r frwydr yn erbyn y pandemig.

Sut bydd dysgwyr agored i niwed/plant gweithwyr hanfodol yn cael Prydau Ysgol Am Ddim tra bo’r ysgolion ar gau, os ydynt yn eu derbyn fel arfer?

Bydd pob  plentyn sy’n gymwys i gael Prydau Ysgol am Ddim yn derbyn taleb archfarchnad wythnosol.  I’r disgyblion hynny sy’n mynychu, bydd disgwyl iddynt ddod â phecyn cinio.

Bydd eich ysgol yn eich hysbysu o’r cynlluniau’n uniongyrchol.

Beth sy’n digwydd os yw fy mhlentyn yn ddysgwr agored i niwed sydd fel arfer yn defnyddio Cludiant o’r Cartref i’r Ysgol?

Bydd unrhyw ddisgyblion sy’n gymwys i gael cludiant yn parhau i dderbyn cludiant os byddant yn mynychu’r ysgol yn ystod y cyfnod clo.

Bydd angen i’ch ysgol gysylltu â’r Tîm Cludiant o’r Cartref i’r Ysgol gyda manylion disgyblion a fydd yn mynychu fel y gallant wneud y trefniadau angenrheidiol gyda’r contractwyr cludiant.​

Sut y bydd fy mhlentyn yn parhau i ddysgu os bydd ysgolion ar gau neu os bydd gofyn iddo hunanynysu?

Darparwyd canllawiau gan Lywodraeth Cymru i helpu ysgolion i ddatblygu dull hybrid i sicrhau parhad dysgu i bob disgybl yn ystod amgylchiadau sy’n newid a sefyllfaoedd sy’n wahanol.​

Gweld canllawiau ar ddysgu mewn ysgolion a lleoliadau ar gyfer tymor yr hydref.​​​​​​​​​

Gweld canllawiau i ysgolion ar gefnogi dysgwyr sy’n agored i niwed.​​​​​​​​​

Pam mae darpariaeth dysgu o bell yn amrywio o ysgol i ysgol?

Mae ysgolion yn gweithio mewn cyfnod heriol a newidiol ac ni all fod un dull sy’n addas i bawb. Mae pob ysgol yn wahanol a mater i bob ysgol yw diwallu anghenion ei disgyblion a’i chymunedau ysgol ei hunan.

Yn unol â chanllawiau Llywodraeth Cymru, mae Cyngor Caerdydd wedi darparu cyfres o ddisgwyliadau a chanllawiau i ysgolion ar gyfer y dull effeithiol o ddysgu o bell.

Bydd disgwyl i ysgolion Caerdydd gynnig pecyn dysgu o bell cynhwysfawr a chytbwys i bob disgybl ym mhob lleoliad a dylai fod Strategaeth Dysgu Cyfunol ar waith ganddynt sy’n cwmpasu dysgu o bell fydd yn:
  • Galluogi dysgwyr i fanteisio ar ddysgu drwy ddulliau digidol neu ddulliau hygyrch eraill mewn ffordd ymarferol a syml.
  • Cefnogi cyd-ddealltwriaeth pob partner o sut gall dysgu o bell effeithiol a threfnus gynnig amrywiaeth o brofiadau dysgu.
  • Helpu rhieni/gofalwyr i gael gafael ar ganllawiau i ddeall eu rôl o ran helpu eu plant gyda dysgu o bell.

A ddylai pob ysgol fod yn darparu gwersi byw?

Mae gwersi byw yn un o ystod o ddulliau a ddefnyddir i gynnig dysgu o bell a gan fod pob ysgol yn wahanol, hwy sydd yn y sefyllfa orau i deilwra pecyn addysg sy’n diwallu anghenion eu disgyblion a’u cymunedau ysgol eu hunain.

Pan fo modd, mae Cyngor Caerdydd yn argymell y dylai pob dysgwr gael mynediad at gyfleoedd cydamserol ac anghydamserol. Dylid darparu dysgu cydamserol yn unol â chanllawiau Llywodraeth Cymru a nodir yn y Canllawiau Ffrydio Byw.​

Dylai hwn gynnwys;

  • Esboniadau clir o unrhyw dasgau y mae’n ofynnol i’r disgyblion ymgymryd â nhw.
  • Darparu adborth o ansawdd uchel i alluogi disgyblion i nodi pa ddysgu sydd wedi digwydd.
  • Cyfleoedd ar gyfer rhyngweithio a rhyngweithio ‘amser real’ gyda chyfoedion a gyda staff.
  • Asesu cynnydd disgyblion.

Mae’r Cyngor yn darparu canllawiau wedi’u diweddaru i ysgolion ar gyfer darparu cyfleoedd dysgu cydamserol ac anghydamserol, yn unol â chanllawiau Llywodraeth Cymru.

Er mwyn cefnogi ein hysgolion i ddarparu ystod gynhwysfawr o ddulliau dysgu o bell yn ddiogel ac yn effeithlon, mae’r Cyngor wedi darparu adnoddau a hyfforddiant sylweddol gan gynnwys hyfforddiant rhithwir i athrawon mewn partneriaeth â’r Brifysgol Agored a chyflenwi gliniaduron i athrawon ar gyfer cyflwyno dysgu ar-lein.

Beth os nad oes gan fy mhlentyn fynediad i ddyfais ddigidol neu’r rhyngrwyd?

Os nad oes gan eich plentyn fynediad at ddyfais TGCh briodol neu fynediad i’r rhyngrwyd gartref eto, rhowch wybod i’ch ysgol a all wneud y trefniadau priodol i chi gael benthyg dyfais neu ddarparu mynediad i’r rhyngrwyd i chi.

Mae sicrhau bod yr holl blant a phobl ifanc yn cael yr un cyfleoedd i ymgysylltu â dysgu o bell tra bod ysgolion ar gau wedi bod yn flaenoriaeth ac mae Cyngor Caerdydd yn parhau gyda’i waith o fynd i’r afael ag amddifadedd digidol.

Hyd yma mae 16,975 o ddyfeisiau digidol newydd a 2,491 o ddyfeisiau band eang 4G newydd wedi’u rhoi i ysgolion ers dechrau’r pandemig a disgwylir i 855 o ddyfeisiau eraill gael eu dosbarthu yr wythnos nesaf. Mae ein tîm prosiect ymroddedig yn parhau i weithio gydag ysgolion i nodi’r disgyblion hynny sydd o dan anfantais ddigidol.

Mae’r broses o gyflwyno dyfeisiau yn parhau ac mae hyn yn cynnwys cymorth i gael gafael ar wi-fi ac yn hyrwyddo strategaeth hirdymor Caerdydd i sicrhau bod gan bob plentyn gysylltedd priodol, yn ystod ac ar ôl y cyfnod cloi.

Beth a ddisgwylir gan rieni/gofalwyr pan fydd plant yn dysgu gartref?

Cydnabyddir na ellir ail-greu profiad dysgu wyneb yn wyneb yr ysgol gartref. Fodd bynnag, mae angen i ysgolion gynllunio ar gyfer parhad dysgu fel bod pob dysgwr yn cael tegwch wrth ddysgu beth bynnag fo’i amgylchiadau. Nid oes un strategaeth sy’n addas i bawb ar gyfer y gwahanol sefyllfaoedd hyn. Rhaid i’r cynlluniau fod yn addas i gyd-destun yr ysgol ac yn rhoi sylw dyledus i ddisgwyliadau a blaenoriaethau Llywodraeth Cymru. Er y gobeithir y gall rhieni/gofalwyr helpu i hwyluso dysgu eu plentyn, cânt eu sicrhau nad oes disgwyl iddynt fod yn athro/athrawes iddynt.

Dywed Llywodraeth Cymru; “Mae cyfranogiad rhieni a gofalwyr mewn dysgu yn hanfodol ar gyfer datblygu profiadau dysgu sy’n cynnwys dysgu y tu mewn a’r tu allan i’r ysgol. Dylai rhieni a gofalwyr sy’n ymgysylltu â dysgwyr o bob oed helpu i atgyfnerthu dysgu yn yr ysgol.”

Dylai ysgol eich plentyn gyfathrebu’n glir sut y gallwch gefnogi, deall a chymryd rhan yn nysgu eich plentyn gartref. Os nad ydych yn siŵr sut y gallwch gefnogi eich plentyn, cysylltwch â’ch ysgol.​

Rhagor o wybodaeth i rieni a gofalwyr i Gadw Cymru yn Dysgu.​​​​​​​​​

Rwyf wedi clywed sawl term megis dysgu cyfunol, dysgu o bell a dysgu cydamserol. Beth yw’r gwahaniaeth, beth maen nhw’n ei olygu?

Mae Consortiwm De Caerdydd wedi darparu’r wybodaeth ganlynol fel bod disgyblion a rhieni â’r un ddealltwriaeth o iaith sy’n gysylltiedig â dysgu cyfunol:
Dysgu cyfunol: dull o ddysgu sy’n cyfuno profiadau dysgu yn y dosbarth ac ar-lein. Dylai’r dysgu wyneb yn wyneb sy’n digwydd ategu’r agweddau eraill drwy ddefnyddio cryfderau pob dull darparu. Bydd y dull hwn yn galluogi plant i barhau i fanteisio ar ddysgu dan arweiniad yr ysgol tra byddant gartref.
Mae Consortiwm De Caerdydd wedi cyhoeddi map ffordd i gefnogi ysgolion i ddatblygu dull ysgol gyfan o ymdrin â dysgu cyfunol.​ Gweld y map Ffordd ar gyfer dysgu cyfunol​.​
Dysgu o bell: yn caniatáu i brofiadau dysgu ddigwydd o unrhyw le ac efallai y byddant yn cynnwys dyfais ddigidol a chysylltiad â’r rhyngrwyd. Mae hyn yn cefnogi lles pob dysgwr, gan gynnwys dewis o gyfleoedd dysgu ar gyfer datblygiad cymdeithasol, corfforol, emosiynol a thasgau i hybu eu gwydnwch. Mae’n caniatáu i unigolion ddysgu pryd a ble mae’n fwy cyfleus iddynt. Nid oes rhaid i ddysgu o bell cyfatebol adlewyrchu dysgu fel y mae fel arfer yn yr ysgol.
Dysgu digidol: unrhyw arferion cyfarwyddiadol sy’n defnyddio technoleg yn effeithiol i gryfhau profiad dysgu dysgwr. Yn ogystal, gellir defnyddio dysgu digidol ar gyfer cyfleoedd dysgu proffesiynol i athrawon ac i ddarparu profiadau dysgu personol i ddysgwyr.
Dysgu ar-lein: addysg sy’n digwydd dros y rhyngrwyd. Cyfeirir ato’n aml fel e-ddysgu ymhlith termau eraill. Fodd bynnag, dim ond un math o “ddysgu o bell” yw dysgu ar-lein.
Dysgu cydamserol: addysgu lle mae’r athro/athrawes yn bresennol ar yr un pryd â’r dysgwr/dysgwyr. Gall hyn ddigwydd wyneb yn wyneb neu ar-lein.

Gallwch weld canllawiau Llywodraeth Cymru ar ffrydio’n fyw.​​​​​​​​

Dysgu nad yw’n gydamserol: pan ddarperir deunyddiau addysgu a bod dysgwyr yn gweithio drwyddynt yn eu hamser eu hunain. Gallai hyn gynnwys amrywiaeth o gyfryngau, gan gynnwys clipiau sain a fideo.

Addysgu uniongyrchol: rhoi esboniad, cwestiynu, enghreifftiau wedi’u gweithio, modelu, sgaffaldwaith, trafodaeth strwythuredig ac adborth a ystyrir yn ofalus.​

Ddydd Gwener 5 Chwefror cyhoeddodd Gweinidog Addysg Cymru ybydd Profion Llif Ochrol rheolaidd, ddwywaith yr wythnos, yn cael eu cynnig i’r holl staff ym mhob lleoliad gofal plant cofrestredig gan gynnwys lleoliadau Dechrau’n Deg, ysgolion a lleoliadau addysg bellach pan fyddant yn dychwelyd ar ôl hanner tymor mis Chwefror. Nod cyflwyno’r profion cyflym hwn yw sicrhau bod ysgolion yn nodi achosion asymptomatig posibl o COVID-19 cyn gynted â phosibl, lleihau’r cyfle i drosglwyddo ymlaen a chadw ysgolion mor ddiogel ag y gallwn.​

I ddarllen y datganiad ysgrifenedig yn llawn ewch i Datganiad Ysgrifenedig: Cynnig profion ar gyfer ysgolion, colegau a lleoliadau gofal plant (5 Chwefror 2021) | LLYW.CYMRU​

Beth os caiff aelod o staff ganlyniad Prawf Llif Ochrol (LFT) positif?

Os oes prawf llif ochrol positif wedi’i nodi yn swigen eich plentyn, bydd yn rhaid i’r swigen ynysu fel mesur rhagofalus, hyd nes y gellir cael canlyniad prawf gwrth-gen cadarnhau (PCR).

Unwaith y bydd canlyniad y prawf antigen yn hysbys, byddwn yn cysylltu â rhieni i ddweud a all eu plentyn ddychwelyd i’r ysgol neu a fydd yn ofynnol iddynt hunanynysu am 10 diwrnod fel cyswllt i achos a gadarnhawyd.

Cyhoeddodd y Gweinidog Addysg a’r Gweinidog dros Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol ar 22 Chwefror fod y cynnig o Brofion Llif Ochrol rheolaidd, ddwywaith yr wythnos bellach wedi’i ymestyn i gynnwys pob dysgwr ym mlynyddoedd 10-13 ac mewn addysg bellach.

Bydd y profion hyn i’w defnyddio gartref, ddwywaith yr wythnos ac maenti’w defnyddio’n unig ar gyfer dysgwyr sydd heb unrhyw symptomau.

Bydd dysgwyr yn casglu eu pecynnau prawf o’u hysgol / lleoliad a byddant yn profi eu hunain gartref.  Yna byddant yn cofnodi canlyniadau ar gyfer pob prawf ac yn dilyn yr un canllawiau a gweithdrefnau â staff.

Mae rhagor o wybodaeth am fanylion penodol y prosesau yn cael eu trafod a’u cwblhau ar hyn o bryd a bydd eich ysgol yn eu rhannu maes o law.

Rhaid i unrhyw un sy’n profi’n bositif gan ddefnyddio Prawf Llif Ochrol (LFT) beidio â mynychu ysgol neu leoliad. Rhaid iddyn nhw a phawb maen nhw’n byw gyda nhw hunanynysu yn syth yn ôl y canllawiau hunanynysu​ wrth iddynt ymgymryd â’r camau canlynol:

Bydd y tîm olrhain cysylltiadau lleol yn cysylltu â nhw i nodi cysylltiadau y bydd gofyn iddynt hunanynysu – rhaid iddynt ddilyn unrhyw gyngor a roddir gan y tîm olrhain cysylltiadau lleol.

Nid yw canlyniad prawf negyddol yn dileu’r risg o drosglwyddo.

Pa mor hir yw’r cyfnod hunanynysu?

Ar 9 Rhagfyr, gwnaeth Gweinidog Iechyd Cymru newidiadau i’r rheoliadau ynghylch hunanynysu. Dywed:
Yn dilyn cyngor y Prif Swyddog Meddygol a Grŵp Cynghori Gwyddonol Llywodraeth y DU ar gyfer Argyfyngau, mae’r rheoliadau hyn:
  • yn nodi bod person y mae’n ofynnol iddo ynysu o ganlyniad i fod wedi cael cyswllt agos â pherson sydd wedi profi’n bositif am y coronafeirws ynysu am 10 diwrnod yn lle 14, ac mae’n gwneud darpariaeth dros dro i’r rhai sydd eisoes yn ynysu;
  • yn caniatáu i blentyn y mae’n ofynnol iddo ynysu symud i aelwyd arall yn ystod y cyfnod ynysu os yw hyn yn unol â’r trefniadau presennol sy’n ymwneud â chystodaeth a chyswllt â rhieni’r plentyn;
Diwygir y Rheoliadau Teithio Rhyngwladol hefyd i leihau’r cyfnod y mae’n ofynnol i berson ynysu o 14 diwrnod i 10 diwrnod a chaniatáu i blentyn y mae’n ofynnol iddo ynysu symud i aelwyd arall yn ystod y cyfnod ynysu os yw hyn yn unol â threfniadau presennol sy’n ymwneud â chystodaeth a chyswllt â rhieni’r plentyn.​

I ddarllen y rhain yn llawn ewch i: Datganiad ysgrifenedig: Newidiadau i’r Cyfnod Hunanynysu (9 Rhagfyr 2020) | Llyw.Cymru​

O 14 Rhagfyr 2020 bydd Taliadau Cymorth Hunanynysu yng Nghymru yn cael eu hymestyn i rieni neu ofalwyr plant y dywedwyd wrthynt am hunanynysu.

Mae’r meini prawf cymhwysedd sylfaenol yn aros yr un fath â’r cynllun presennol:

  • Cyflogedig neu hunangyflogedig ac ar incwm isel
  • Colli arian o ganlyniad i orfod aros gartref
  • Methu gweithio gartref

Yn ogystal,

  • Rhaid bod y plentyn wedi cael gwybod bod rhaid iddo hunanynysu gan POD neu o ganlyniad i achos yn yr ysgol h.y. nid drwy ddewis rhieni, neu ysgolion sy’n dewis cau’n gynnar ar gyfer y Nadolig
  • Mae’r plentyn yn mynychu ysgol neu leoliad gofal plant hyd at a chan gynnwys Blwyddyn 8 (neu hyd at 25 oed os oes gan y dysgwr anghenion lluosog a chymhleth)

Ceisiadau:

  • Derbynnir ceisiadau am y newid hwn o ddydd Llun 14 Rhagfyr
  • Gellir ôl-ddyddio ceisiadau pan ofynnwyd i blentyn ddechrau hunanynysu o’r 23ain Hydref 2020 ymlaen

Dylid cyfeirio cwsmeriaid at y cais ar-lein​ neu’r Llinell Gyngor ar 029 2087 1071 o ddydd Llun 14 Rhagfyr.​

A ddylai fy mhlentyn fynd i’r ysgol os oes ganddo unrhyw symptomau COVID-19, neu’n byw gyda rhywun sydd â symptomau COVID-19?

Ni ddylai disgyblion, dan unrhyw amgylchiadau, fynd i’r ysgol/lleoliad os ydynt yn:

  • ​teimlo’n sâl, ag unrhyw un o’r tri symptom COVID-19 a nodwyd (peswch parhaus newydd, tymheredd uchel neu golli blas neu arogl) neu eu bod wedi profi’n bositif i COVID-19 yn y 14 diwrnod diwethaf
  • byw mewn cartref gyda rhywun sy’n dangos symptomau COVID-19 neu sydd wedi cael canlyniad prawf COVID-19 positif yn ystod y 14 diwrnod diwethaf.

Ffoniwch yr ysgol i ddweud os yw eich plentyn neu aelod o’r teulu yn sâl.

Beth ddylwn ei wneud os bydd fy mhlentyn yn datblygu unrhyw un o’r symptomau hyn?

Os bydd eich plentyn yn datblygu unrhyw un o’r symptomau hyn, hyd yn oed os yw’n ysgafn, mae angen i chi:

  • Archebwch brawf ar-lein​​​​​​​​​​​​External link opens in a new window iddynt neu drwy ffonio 119
  • Rhowch wybod i’ch ysgol ei fod yn teimlo’n anhwylus gyda symptomau COVID-19 a’ch bod wedi gofyn am brawf
  • Dylai eich plentyn barhau i hunanynysu
  • Dylai pawb arall sydd ar yr aelwyd ynysu am 10 diwrnod o’r adeg y datblygodd eich plentyn symptomau
  • Peidiwch ag ymweld â meddygfa, fferyllfa nac ysbyty ond os bydd angen cyngor meddygol arnoch ffoniwch y GIG ar 111 neu ffoniwch eich meddyg teulu; os bydd argyfwng meddygol ffoniwch 999
  • ​Os bydd angen cyngor meddygol arnoch ar gyfer symptomau COVID-19 neu am reswm arall, dywedwch wrth y gweithiwr gofal iechyd bod eich plentyn yn gyswllt achos o COVID-19 a’i fod yn hunanynysu
  • Dilynwch y cyngor a roddir pan fydd eich plentyn yn cael canlyniadau ei brawf

I gael gwybodaeth gyffredinol am COVID-19​​​​​​​

Gall gwiriwr symptomau ar-lein COVID-19​​​​​​​​ ddweud wrthych a oes angen help meddygol arnoch a’ch cynghori beth i’w wneud.

Pryd na ddylai fy mhlentyn fynd i’r ysgol a phryd mae’n iawn iddo fynychu?

Os nad ydych yn siŵr a ddylech gadw eich plentyn adref o’r ysgol, edrychwch ar y canllaw i rieni sy’n ymwneud ag absenoldeb disgyblion COVID-19.​

A all fy mhlentyn fynychu’r ysgol os oes annwyd ganddo?

Dywed Iechyd Cyhoeddus Cymru, os nad oes gan blentyn symptomau COVID-19, ond bod ganddo symptomau eraill sy’n debyg i annwyd, megis trwyn sy’n rhedeg, nid oes angen ei brofi ac nid oes angen i’r plentyn na chithau hunanynysu. Gall eich plentyn fynd i’r ysgol os yw’n iach i wneud hynny.

A all plant fynd i’r ysgol os oes gan riant neu frawd neu chwaer, neu unrhyw un arall yn eu tŷ symptomau COVID-19?

Na. Os bydd plentyn/rhiant/aelod o’r cartref yn datblygu symptomau COVID-19, dylai’r aelwyd gyfan hunanynysu ar unwaith, a threfnu prawf i’r unigolyn sydd â’r symptomau.
Nid oes angen i’r aelwyd gyfan gael prawf os nad ydynt â symptomau.

A all plant fynd i’r ysgol os ydynt wedi bod mewn cysylltiad â rhywun nad ydynt yn byw gyda nhw ond sydd â symptomau COVID-19?

Os yw plentyn wedi bod mewn “cysylltiad” â rhywun sy’n profi symptomau, dylai barhau fel arfer nes bod yr unigolyn hwnnw’n cael canlyniad ei brawf. Os bydd y prawf yn bositif, bydd y Tîm POD yn cysylltu â phobl y nodwyd eu bod yn gysylltiadau.

Beth yw ystyr ‘cysylltiad’?

  • ​cysylltiad wyneb yn wyneb â rhywun llai nag 1 metr i ffwrdd (gan gynnwys pan fyddwch wedi gwisgo gorchudd wyneb neu fasg wyneb)
  • treulio mwy na 15 munud o fewn 2 fetr i rywun
  • teithio mewn car gyda rhywun (hyd yn oed ar daith fer)

Sut bydd Profi, Olrhain, Diogelu (POD) yn helpu ysgolion i weithredu’n ddiogel?

Mae Profi, Olrhain, Diogelu (POD) yn nodi’r dull o fynd i’r afael â’r coronafeirws: profi pobl sydd â symptomau yn y gymuned, olrhain y rhai sydd wedi dod i gysylltiad agos â phobl sydd wedi profi’n bositif am y coronafeirws a diogelu teuluoedd, ffrindiau a’r gymuned trwy hunanynysu.

Bydd ysgolion yn atgyfnerthu’r negeseuon hyn ac, yn benodol, yn atgoffa’r holl rai sy’n dangos symptomau i hunan-ynysu a threfnu prawf.  Dylai’r rhai sy’n byw gyda rhywun sy’n dangos symptomau hunan-ynysu hefyd.

Gellir dod o hyd i ragor o wybodaeth a chwestiynau ac atebion am Brofi, Olrhain, Diogelu (POD) ar wefan Llywodraeth Cymru ac yn y Canllaw ar Brofi, Olrhain, Diogelu

Beth os yw disgybl neu athro yn dangos symptomau?

Os bydd disgybl neu athro o ysgol yng Nghaerdydd yn dangos symptomau pan fydd yn yr ysgol, bydd modd iddo fynd i ganolfan brofi leol. Bydd angen i’w ysgol/pennaeth ei atgyfeirio a bydd Iechyd Cyhoeddus Cymru yn cysylltu â’r unigolyn i gynnig apwyntiad ar gyfer prawf mewn canolfan brofi naill ai yn yr Eglwys Newydd, Sblot neu Grangetown.
Dylai’r gwasanaeth hwn ond gael ei ddefnyddio ar gyfer staff neu ddisgyblion symptomatig, os ydynt yn dangos un neu fwy o’r symptomau canlynol:​
  • ​tymheredd uchel: mae hyn yn golygu eich bod yn teimlo’n boeth wrth gyffwrdd ar eich brest neu’ch cefn (nid oes angen i chi fesur eich tymheredd)
  • peswch newydd, parhaus: mae hyn yn golygu pesychu llawer am fwy nag awr, neu dri neu fwy o byliau pesychu mewn 24 awr (os oes gennych beswch fel arfer, gall fod yn waeth nag yr arfer)
  • colled neu newid i’ch ymdeimlad o arogl neu flas: mae hyn yn golygu eich bod wedi sylwi na allwch arogli na blasu unrhyw beth, neu mae pethau’n arogli neu’n blasu’n wahanol i normal
  • ​Sylwer: gan ein bod yn dysgu mwy am symptomau yn enwedig mewn plant, byddwn yn diweddaru ysgolion os bydd hyn yn newid
Os yw mwy nag un person ar yr aelwyd yn symptomatig yna byddwn yn profi pob plentyn/athro ysgol symptomatig ar yr aelwyd. Dylai unrhyw un arall sy’n symptomatig hunanynysu a cheisio profion drwy’r porth cenedlaethol oni bai bod Gwasanaeth Tracio, Olrhain, Diogelu Caerdydd a’r Fro yn cynghori fel arall.
Yr ysgol/pennaeth a ddylai atgyfeirio i’r awdurdod lleol perthnasol ac nid y disgybl neu’r rhieni’n uniongyrchol.​

Archebu prawf COVID-19 os nad ydych yn ddisgybl neu’n athro:

Mae Iechyd Cyhoeddus Cymru yn cynghori’r canlynol:

  • ​Dim ond pobl sydd â symptomau (peswch parhaus newydd, tymheredd uchel, neu golli/newid blas neu arogl) dylai gael prawf.
  • Gellir trefnu prawf COVID-19 drwy’r Porthol, neu drwy ffonio 119.
  • Mae profion wyneb yn wyneb ar gael neu ar ffurf pecyn profi cartref sy’n cael ei anfon i’ch cartref a’i gasglu oddi yno.  Swab gwddf neu swab gwddf a thrwyn ar y cyd yw’r prawf.
  • Mae rhai pobl yn cael anawsterau cael profion. Efallai y bydd eich tîm POD yn gallu helpu os ydych yn cael problemau.

Beth sy’n digwydd os oes achos positif o COVID-19 yn yr ysgol?

  • ​Pan nodir bod rhywun sy’n mynychu lleoliad addysgol neu ofal plant (staff neu ddisgybl) wedi cael prawf COVID-19 positif, cysylltir â’r unigolyn hwnnw (neu’r rhiant) i asesu a oedd yn mynychu’r ysgol pan oedd yn heintus ac a oes angen olrhain mwy o gysylltiadau yn yr ysgol.
  • Os yw unrhyw aelod o staff neu blentyn yn yr ysgol wedi bod mewn cysylltiad â’r unigolyn hwnnw, bydd angen iddo hunanynysu am 10 diwrnod a bydd y tîm Profi, Olrhain, Diogelu (POD) neu’r Adran Addysg leol yn cysylltu ag e.
  • Os nad yw aelod o staff neu blentyn o’r ysgol wedi bod mewn cysylltiad â’r unigolyn hwnnw, ni fydd angen iddo hunanynysu.

Beth mae’n ei olygu os gofynnir i’m plentyn hunanynysu?

Os cadarnheir bod gan rywun yn yr ysgol Covid-19 a bod eich plentyn wedi bod mewn cysylltiad â’r unigolyn hwnnw, efallai y bydd y tîm Profi, Olrhain, Diogelu (POD) neu’r Adran Addysg yn gofyn iddo hunanynysu.
Bydd hyn yn lleihau lledaeniad posibl COVID-19 o’r cysylltiadau hynny i’w teuluoedd, eu ffrindiau a’r gymuned ehangach.
Yn unol â’r cyngor ar hunanynysu, rhaid i’ch plentyn aros gartref, ni all fynd allan i wneud ymarfer corff, ymweld â siopau, teulu neu ffrindiau, nac i fannau cyhoeddus eraill. Peidiwch â gwahodd pobl i’ch tŷ. ​Ceir rhagor o wybodaeth am hunanynysu.​

Os bydd eich plentyn yn aros yn iach, yna nid oes angen i aelodau eraill yr aelwyd ynysu a gallant barhau â’u gweithgareddau arferol. Os yw eich plentyn yn dal yn iach ar ôl hunanynysu am 10 diwrnod, gall ddychwelyd i’r ysgol a’i weithgareddau arferol eraill.

Dan ba amgylchiadau mae angen hunanynysu?

Rhaid i unrhyw un sydd â symptomau COVID-19, ac unrhyw un sy’n byw gydag ef, hunanynysu, hyd yn oed os yw’r symptomau’n ysgafn. Rhaid i chi hefyd hunanynysu os ydych wedi cael eich nodi’n gysylltiad agos â rhywun sydd wedi cael prawf Covid-19 positif.
Ni ddylech fynd i’r ysgol, y feithrinfa, lleoliadau gofal plant eraill, y gwaith, neu leoedd fel meddygfa, fferyllfa neu ysbyty.
Rhaid i unrhyw un sydd â symptomau hunanynysu am 10 diwrnod o’r adeg y mae ei symptomau wedi dechrau. Gall ddychwelyd i’r ysgol neu’r gwaith ar ôl 10 diwrnod os yw’n ddigon iach i wneud hynny.
Rhaid i unrhyw un yn yr aelwyd nad oes ganddo symptomau hunanynysu am 10 diwrnod o’r adeg y dechreuodd y person cyntaf yn y cartref gael
symptomau.
Nid yw derbyn canlyniad prawf negyddol pan ydych wedi bod mewn cysylltiad ag unigolyn â Covid-19 yn byrhau’r cyfnod ynysu, bydd angen i chi ynysu am 10 diwrnod o hyd os ydych wedi bod mewn cysylltiad ag unigolyn y cadarnhawyd bod Covid-19 ganddo.
Os yw rhiant yn credu bod gan ei blentyn symptomau OND mae’n dewis peidio â’i brofi rhaid i bob aelod o’r cartref hunanynysu am 10
diwrnod o ddyddiad dechrau’r symptomau.
Os cewch ganlyniad prawf positif, bydd y Tîm POD yn cysylltu â chi
Os yw’r unigolyn sydd â symptomau yn cael canlyniad prawf negyddol, ni fydd angen i unrhyw un hunanynysu mwyach, gall plant ddychwelyd i’r ysgol a gall rhieni ddychwelyd i’r gwaith os ydynt yn ddigon iach a chyn belled â nad oes neb arall yn yr aelwyd wedi datblygu symptomau.​

Er mwyn lleihau’r risg o COVID-19 yn lledaenu, mae pethau y gall pawb yn eich teulu eu gwneud i helpu.

Mae’r rhain yn cynnwys:

  • golchi eich dwylo gyda sebon a dŵr yn aml – gan wneud hyn am o leiaf 20 eiliad
  • defnyddio gel diheintio’r dwylo os nad oes sebon a dŵr ar gael
  • golchi dwylo cyn gynted ag y byddwch yn cyrraedd adref
  • gorchuddio eich ceg a’ch trwyn â hances neu eich llawes (nid eu dwylo) pan fyddant yn peswch neu’n tisian
  • Rhoi hancesi papur yn y bin ar unwaith a golchi eich dwylo wedyn

Cadwch lygad am symptomau COVID-19 yn eich plentyn, sef:

  • ​Peswch newydd neu barhaus
  • Os oes gennych dymheredd uchel
  • Unrhyw golled neu newid i’ch synnwyr o arogl neu flas

Os bydd eich plentyn yn datblygu unrhyw un o’r symptomau hyn, hyd yn oed os yw’n ysgafn, mae angen i chi:

  • Archebwch brawf ar-lein​​​​​​​D​olen allanol yn agor mewn ffenest newydd iddynt neu drwy ffonio 119.
  • Rhowch wybod i’ch ysgol ei fod yn teimlo’n anhwylus gyda symptomau COVID-19 a’ch bod wedi gofyn am brawf
  • Dylai eich plentyn barhau i hunanynysu
  • Dylai pawb arall sydd ar yr aelwyd ynysu am 10 diwrnod o’r adeg y datblygodd eich plentyn symptomau
  • Peidiwch ag ymweld â meddygfa, fferyllfa nac ysbyty ond os bydd angen cyngor meddygol arnoch ffoniwch y GIG ar 111 neu ffoniwch eich meddyg teulu; os bydd argyfwng meddygol ffoniwch 999
  • Os bydd angen cyngor meddygol arnoch ar gyfer symptomau COVID-19 neu am reswm arall, dywedwch wrth y gweithiwr gofal iechyd bod eich plentyn yn gyswllt achos o COVID-19 a’i fod yn hunanynysu
  • Dilynwch y cyngor a roddir pan fydd eich plentyn yn cael canlyniadau ei brawf

Beth sy’n digwydd os bydd rhywun yn dangos symptomau COVID-19 yn yr ysgol?

Os bydd dysgwr yn dangos symptomau yn yr ysgol, bydd yn cael ei gadw ar wahân mewn ystafell ynysu a bydd rhieni’n cael eu galw ar unwaith i ddod i’w gasglu.

Bydd Cyfarpar Diogelu Personol ar gael i staff sy’n goruchwylio dysgwyr sy’n sâl.

Bydd unrhyw aelod o staff sy’n arddangos symptomau yn gadael safle’r ysgol ar unwaith ac yn trefnu prawf.

Dylai unrhyw un sy’n arddangos symptomau aros gartref am 10 diwrnod gwaith (*gallai hyn newid yn dibynnu ar y cyngor diweddaraf gan Iechyd Cyhoeddus Cymru a Llywodraeth Cymru) o ddechrau’r symptomau.

Dylai drefnu i gael prawf ar unwaith i ganfod a yw’n achos positif a dylai aros gartref hyd nes y caiff y canlyniadau eu cadarnhau. Os bydd plentyn neu aelod o staff yn datblygu symptomau tra bydd yn yr ysgol, bydd ei ysgol yn ei atgyfeirio i gael ei brofi â blaenoriaeth.

Bydd Profi, Olrhain, Diogelu (POD) yn ymyrryd os caiff dysgwr brawf COVID-19 positif.

Dylai unrhyw un sy’n byw gyda rhywun sy’n dangos symptomau ond sy’n dal i fod yn iach, neu sydd wedi cael prawf positif, aros gartref am 10 diwrnod o’r diwrnod y daeth y person cyntaf yn sâl.

Beth sy’n digwydd os oes achosion mewn ysgol?

Os ceir sawl achos o COVID-19 mewn ysgol, bydd arbenigwyr o bob rhan o’r GIG a llywodraeth leol yn gweithio gyda’i gilydd i atal trosglwyddo parhaus o fewn yr ysgol.

Bydd hyn yn cynnwys nodi’r rhai sydd wedi dod i gysylltiad â rhywun heintus, unrhyw blentyn neu aelod o staff sydd mewn perygl uwch, a rhoi cyngor wedi’i deilwra ar reoli heintiau.

Rhoddir cyngor sy’n seiliedig ar asesu pob sefyllfa unigol i gefnogi’r ysgol wrth atal rhagor o ledaenu.

Bydd yr ysgol yn rhoi gwybod am y sefyllfa i rieni a gofalwyr.

Mae Llywodraeth Cymru wedi diweddaru ei chanllawiau gweithredol i ysgolion i gefnogi presenoldeb cyfyngedig o 22 Chwefror. Mae’r rhain yn nodi sut y gall ysgolion a darparwyr eraill wneud eu safleoedd yn ddiogel i staff a dysgwyr yn ystod presenoldeb cyfyngedig.

A oes mesurau newydd mewn ymateb i straeniau newydd o’r feirws?

Bydd y mesurau rheoli presennol y mae ysgolion a lleoliadau wedi dod yn gyfarwydd â hwy yn parhau i fod ar waith, a pharhau i fod yn bwysig o ran lleihau trosglwyddo.
Mae hyn yn cynnwys:
  • Dwylo, wyneb, cadw gofod yw’r mesurau pwysicaf o hyd i atal heintiau.
  • Amseroedd dechrau a gorffen fesul cam
  • Mae profion ddwywaith yr wythnos bellach ar gael i’r holl staff addysgu a staff nad ydynt yn addysgu ym mhob ysgol a choleg. Mae’r Cyngor hefyd yn gweithio gyda Llywodraeth Cymru i sefydlu ffyrdd o gyflenwi profion i yrwyr cludiant ysgol a choleg, athrawon cyflenwi a staff peripatetig sy’n gweithio ar draws gwahanol ysgolion
  • Bydd profion ddwywaith yr wythnos hefyd ar gael i ddysgwyr blwyddyn 10 ac uwch mewn ysgolion a cholegau.
  • Mewn ysgolion uwchradd a cholegau dylid gwisgo gorchuddion wyneb ym mhob ardal gymunedol ac yn yr ystafell ddosbarth lle nad yw’n bosibl cadw pellter cymdeithasol.
  • Erbyn hyn mae staff sydd â’r rôl o ddarparu gofal personol iawn i rai o’n plant mwyaf agored i niwed ag anghenion meddygol cymhleth wedi cael cynnig eu brechiad cyntaf.
  • Cynhaliwyd asesiadau risg wedi’u diweddaru ym mhob ysgol  gyda Thîm Iechyd a Diogelwch pwrpasol i benderfynu sut y gall weithredu’n ddiogel. Mae hyn yn cynnwys prosesau adeilad a hylendid diwygiedig a mesurau cadw pellter cymdeithasol/corfforol lle bo’n berthnasol.
Bydd ysgolion yn parhau i ymgysylltu â’r Strategaeth POD​ a rheoli achosion a gadarnhawyd o COVID-19 ymhlith cymuned yr ysgol, sy’n cynnwys unrhyw achosion drwy ddilyn cyngor y tîm diogelu iechyd lleol.
Mae gwybodaeth Llywodraeth Cymru yn nodi bod y mesurau hyn yn parhau i fod yn briodol, er gwaethaf amrywiolion newydd o’r feirws.
Bydd yr Awdurdod Lleol yn parhau i adolygu mesurau rheoli yn rheolaidd, yn unol â chanllawiau Llywodraeth Cymru.
Dywed y Prif Swyddog Meddygol fod “mesurau lliniaru effeithiol yn bwysicach nag erioed gydag amrywiolyn mwy trosglwyddadwy ac y dylid parhau a chryfhau’r rhain lle y bo’n bosibl.”
Mae’r mesurau lliniaru hyn yn cynnwys lleihau’r niferoedd sy’n cymysgu ar unrhyw un adeg ac mewn unrhyw le; cynnal grwpiau cyswllt diogel; ymbellhau cymdeithasol gofalus; hylendid dwylo a’r defnydd o orchuddion wyneb fel y nodir yn y canllawiau.”

A fydd angen i ddisgyblion ffurfio ‘swigod’ o hyd pan ddychwelant?​

Bydd, pan fydd disgyblion yn dychwelyd dylid eu cadw mewn swigod mor fach ag sy’n ymarferol bosibl.

Mae hyn yn galluogi olrhain cysylltiadau’n briodol yn ogystal â lleihau grwpiau cyswllt os bydd achos positif.

Lle y bo’n bosibl, ni ddylai disgyblion gymysgu ar draws swigod a dylent fynychu un lleoliad yn unig.

A fydd yr ysgol yn cael ei glanhau’n rheolaidd?

Bydd. Bydd ysgolion yn cael eu glanhau’n drylwyr a bydd trefniadau glanhau manylach yn digwydd yn ystod y dydd. Mae hyn yn cynnwys arwynebau cyswllt llaw, gan gynnwys rheiliau llaw, dolenni drysau, padiau gwthio, tapiau, dolenni fflysio toiledau ac ati.

Mae asesiadau risg unigol wedi nodi ardaloedd a ddefnyddir yn aml drwy gydol y dydd y dylid eu glanhau’n amlach ac mae pob ysgol wedi cael cyngor penodol ar lanhau a diheintio.

Pan fydd ystafelloedd yn cael eu defnyddio gan fwy nag un grŵp, bydd byrddau a chadeiriau yn cael eu glanhau rhwng sesiynau.

A fydd adnoddau dysgwyr, cyfarpar dosbarth a theganau sy’n cael eu rhannu’n cael eu glanhau’n rheolaidd?

Bydd ysgolion yn adolygu’r adnoddau maent yn eu darparu i staff a dysgwyr er mwyn lleihau’r angen am lanhau ac i leihau’r risg o groeshalogi.

Bydd ysgolion yn gyfrifol am sicrhau bod yr eitemau a ddefnyddir yn cael eu glanhau yn ôl yr angen yn unol â’r canllawiau iechyd a diogelwch.

Lle y bo’n bosibl, darperir eu hadnoddau eu hunain i’r dysgwyr, e.e. pennau, pensiliau ac ati er mwyn lleihau’r risg o groeshalogi.

Lle rhennir adnoddau, byddant yn cael eu glanhau bob tro ar ôl eu defnyddio lle bo hynny’n ymarferol.

A fydd golchi dwylo a diheintydd dwylo yn cael eu cynnig at ddefnydd y plant?

Bydd. Bydd golchi dwylo’n rheolaidd yn dod yn rhan o drefn yr ysgol ac yn gam cyntaf i bob disgybl ar ddechrau pob diwrnod, a thrwy gydol y diwrnod ar ôl hynny.

Ystyrir mai golchi dwylo yw’r modd mwyaf effeithiol o amddiffyn, ond lle nad yw hyn yn ymarferol, darperir diheintydd dwylo.

Mae gorsafoedd diheintio dwylo wedi cael eu gosod mewn mannau allweddol yn yr ysgol, gan gynnwys mynedfeydd i’r ysgol ac yn agos at doiledau.

Bydd disgyblion yn cael eu hannog i ‘Ei Ddal, Ei Daflu, Ei Ddifa’ ac i lanhau dwylo wedyn.

Bydd ysgolion yn sicrhau bod cymorth ar gael i ddysgwyr sy’n ei chael yn anodd glanhau eu dwylo ar eu pennau eu hunain.

Beth yw’r gwahaniaeth rhwng Ymbellhau Cymdeithasol a Chadw Pellter Corfforol?

Ymbellhau cymdeithasol yw’r term a ddefnyddir mewn perthynas â dysgwyr yn cadw pellter cymdeithasol diogel. Mae Cadw Pellter Corfforol yn ofyniad yn unol â Rheoliadau Diogelu Iechyd (Cyfyngiadau Coronafeirws) (Cymru) 2020 sy’n gofyn i weithleoedd (gan gynnwys ysgolion a lleoliadau blynyddoedd cynnar), gymryd “pob cam rhesymol” i sicrhau y cedwir pellter o 2 fetr rhwng unrhyw bersonau mewn man gwaith.

A fydd mesurau Ymbellhau Cymdeithasol yn parhau mewn Ysgolion Cynradd?

I blant, bydd y ffocws ar gadw dysgwyr mewn grwpiau/swigod cyson lle bynnag y bo’n ymarferol bosibl.

Mae’n bosibl y byddant yn cael amserau egwyl fesul grŵp a’u hardal eu hunain ar gyfer dysgu a chyfnodau chwarae. Bydd hyn yn ei gwneud yn haws ac yn gyflymach, os digwydd achos positif, i nodi’r rhai y mae angen iddynt hunanynysu o bosibl ac i gadw’r nifer honno mor isel â phosibl.

Mae’n bosibl y cedwir marciau llawr mewn mannau cymunedol o amgylch yr ysgol i ddangos i ddisgyblion pa mor bell mae angen iddynt sefyll oddi wrth ei gilydd. Bydd ysgolion yn parhau i ddefnyddio ardaloedd awyr agored lle y bo’n bosibl, annog systemau awyru a gall rhai roi system unffordd ar waith.

A fydd mesurau Ymbellhau Cymdeithasol yn parhau mewn Ysgolion Uwchradd?

Bydd ysgolion yn gwneud popeth posibl i leihau cysylltiadau o fewn eu lleoliadau eu hunain drwy roi mesurau synhwyrol a chymesur ar waith.

Bydd disgyblion mewn ‘Grwpiau cyson’ y gallai fod angen iddynt fod yn grŵp blwyddyn cyfan, er mwyn cyfyngu ar ryngweithiadau cymdeithasol corfforol.

Bydd hyn yn ei gwneud yn haws ac yn gyflymach i nodi’r rhai y mae angen iddynt hunanynysu o bosibl ac i gadw’r nifer honno mor isel â phosibl os bydd achos positif.

Mae’n bosibl y cedwir marciau llawr mewn mannau cymunedol o amgylch yr ysgol i ddangos i ddisgyblion pa mor bell mae angen iddynt sefyll oddi wrth ei gilydd. Bydd ysgolion yn parhau i ddefnyddio ardaloedd awyr agored lle y bo’n bosibl, annog systemau awyru a gall rhai roi system unffordd ar waith.

Bydd sgriniau Perspex yn cael eu lleoli yn y mannau cyswllt wyneb yn wyneb er mwyn amddiffyn plant a staff.

Sut caiff mesurau ymbellhau cymdeithasol eu rheoli wrth ollwng a chasglu disgyblion?

Bydd eich ysgol yn rhoi cyngor ar y trefniadau ar gyfer gollwng a chasglu plant o’r ysgol.

Bydd ysgolion yn parhau i drefnu bod disgyblion yn cyrraedd a gadael ar adegau gwahanol lle bo modd.

Bydd cyfres o gynlluniau traffig ar waith mewn rhai ysgolion er mwyn sicrhau diogelwch plant a theuluoedd wrth ollwng a chasglu. Mae hyn yn cynnwys cau ffyrdd, systemau unffordd a lledu palmentydd.

Gwiriwch a oes cynlluniau traffig wedi’u cynllunio ar gyfer eich ysgol.​

Ar 23 Tachwedd 2020 fe wnaeth Llywodraeth Cymru ddiweddaru ei ganllawiau gweithredol ar ddefnyddio gorchuddion wyneb mewn ysgolion a cholegau

Mae’r canllawiau nawr yn nodi y dylid gwisgo gorchuddion wyneb:

  • ​ym mhob ardal y tu allan i’r ystafell ddosbarth gan staff a dysgwyr mewn ysgolion uwchradd a cholegau
  • ar drafnidiaeth benodedig i’r ysgol a’r coleg i ddysgwyr ym mlwyddyn 7 ac i fyny
  • gan ymwelwyr â phob ysgol a choleg, gan gynnwys rhieni a gofalwyr sy’n danfon ac yn casglu plant

Bydd Cyngor Caerdydd yn rhoi dau orchudd wyneb amldro i bob disgybl ysgol uwchradd.

Ni argymhellir ar hyn o bryd bod plant oedran ysgol gynradd yn gwisgo gorchuddion wyneb. Bydd hyn yn cael ei adolygu’n barhaus yn unol â chanllawiau’r Llywodraeth, gan ystyried unrhyw gynnydd yn y gyfradd heintio neu nifer yr achosion yn y ddinas.

Gallwch ddarllen mwy am ddiweddariad Llywodraeth Cymru​

Gwybodaeth am wisgo gorchuddion wyneb i ddisgyblion ysgol uwchradd prif ffrwd

Isod ceir cyfres o bethau y dylech eu gwneud a phethau na ddylech eu gwneud wrth wisgo gorchuddion wyneb;

Dylech wneud hyn

  • Golchwch eich dwylo cyn cyffwrdd â’r gorchudd wyneb
  • Archwiliwch y gorchudd wyneb am ddifrod neu fudreddi
  • Addaswch y gorchudd i’r wyneb heb adael bylchau ar yr ochrau
  • Gorchuddiwch eich ceg, eich trwyn a’ch gên
  • Peidiwch â chyffwrdd â’r gorchudd wyneb
  • Golchwch eich dwylo cyn tynnu’r gorchudd wyneb
  • Tynnwch y gorchudd wyneb gan ddefnyddio’r strapiau y tu ôl i’r clustiau neu’r pen
  • Tynnwch y gorchudd wyneb oddi ar eich wyneb
  • Storiwch y gorchudd wyneb mewn bag plastig glân, wedi’i ail-selio, os nad yw’n fudr neu’n wlyb a’ch bod yn bwriadu ei ail-ddefnyddio
  • Tynnwch y gorchudd wyneb o’r bag gan afael yn y strapiau.
  • Golchwch y gorchudd wyneb mewn sebon neu lanedydd, yn ddelfrydol gyda dŵr poeth, o leiaf unwaith y dydd
  • Glanhewch eich dwylo ar ôl tynnu’r gorchudd wyneb

Ni ddylech wneud hyn

  • Peidiwch â defnyddio gorchudd wyneb sy’n edrych fel ei fod wedi’i ddifrodi
  • Peidiwch â gwisgo gorchudd wyneb llac (bydd clymu cwlwm ar ddiwedd y dolennau clust yn tynhau’r ffit)
  • Peidiwch â gwisgo’r masg wyneb o dan y trwyn
  • Peidiwch â thynnu’r gorchudd wyneb os oes pobl o fewn 2 fetr
  • Peidiwch â defnyddio gorchudd wyneb sy’n anodd anadlu drwyddo
  • Peidiwch â gwisgo gorchudd wyneb brwnt na gwlyb
  • Peidiwch â rhannu eich masg gydag eraill

A fydd staff yn gwisgo gorchuddion wyneb?

Bydd disgwyl i staff mewn ysgolion uwchradd a cholegau wisgo gorchuddion wyneb ym mhob ardal y tu allan i’r ystafell ddosbarth ac ar drafnidiaeth ysgol.

Beth os yw fy mhlentyn i neu rywun yn ein teulu yn hunan-warchod?

Ar 23 Rhagfyr, cyhoeddodd Llywodraeth Cymru gyngor wedi’i ddiweddaru i’r bobl hynny y gofynnwyd iddynt hunan-warchod yn wreiddiol.

Y canllawiau diweddaraf hyn yw cefnogi’r rhai sy’n eithriadol o agored i niwed yn glinigol i amddiffyn eu hunain rhag dod i gysylltiad â’r coronafeirws gan fod Cymru bellach ar rybudd lefel 4.​

Ar gyfer plant a phobl ifanc y gofynnwyd iddynt hunan-warchod yn wreiddiol, dywed Llywodraeth Cymru:

“Wrth i’n gwybodaeth am COVID-19 dyfu, rydym bellach yn gwybod mai ychydig iawn o blant a phobl ifanc sy’n wynebu’r risg uchaf o salwch difrifol oherwydd y feirws. Felly, mae meddygon wedi bod yn adolygu’r holl blant a phobl ifanc y nodwyd eu bod yn agored iawn i niwed yn glinigol i ddechrau, i gadarnhau a ydynt yn dal i gael eu hystyried yn rhai sy’n wynebu’r risg uchaf.

“Os ydych eisoes wedi trafod hyn gyda meddyg eich plentyn a’i fod wedi cadarnhau bod eich plentyn yn dal i gael ei ystyried yn glinigol eithriadol o agored i niwed, ni ddylai eich plentyn fynychu’r ysgol.

“Dylai plant a phobl ifanc ar yr aelwyd nad ydynt yn eithriadol o agored i niwed yn glinigol barhau i fynychu’r ysgol. Dylai plant a phobl ifanc y mae eu rhieni neu ofalwyr yn eithriadol o agored i niwed yn glinigol hefyd barhau i fynd i’r ysgol.”

Gallwch ddarllen y datganiad yma: Canllawiau ar amddiffyn pobl a ddiffinnir ar sail feddygol fel rhai sy’n eithriadol o agored i niwed yn glinigol gan y cor

Beth sy’n digwydd os byddaf yn dewis peidio ag anfon fy mhlentyn i’r ysgol? A fyddaf yn cael dirwy?

Ers 14 Medi mae’n ofynnol i bob dysgwr fynd i’r ysgol, a dylai pob dysgwr fod wedi dychwelyd oni bai bod ganddo reswm meddygol/yn ymwneud ag iechyd dros beidio neu os mai’r cyngor ar y pryd yw na ddylai fynd i’r ysgol.

Bydd Llywodraeth Cymru yn monitro’r sefyllfa ac am y tro, mae Llywodraeth Cymru wedi penderfynu na fydd rhieni’n cael dirwy, ond bydd hyn yn cael ei adolygu.

Sut bydd ysgolion yn monitro presenoldeb?

Mae presenoldeb rheolaidd yn hanfodol er mwyn helpu dysgwyr i ddal i fyny ar addysg a gollwyd, gwneud cynnydd a hyrwyddo eu lles a’u datblygiad ehangach. Rhaid i ddysgwyr o oedran ysgol gorfodol fod yn yr ysgol oni bai bod rheswm statudol yn berthnasol (fel salwch, absenoldeb ac ati).

Bydd ysgolion yn cefnogi dysgwyr a rhieni sy’n gyndyn neu’n bryderus ynghylch dychwelyd i’r ysgol.

Bydd ysgolion a lleoliadau yn cadw cofnod o bresenoldeb a dylai teuluoedd ddweud wrth eu hysgol os na fydd eu plentyn yn gallu bod yn bresennol. Bydd hyn yn helpu ysgolion, lleoliadau ac awdurdodau lleol i ddeall a chynllunio ar gyfer unrhyw rwystrau i atal dysgwyr rhag dychwelyd i’r ysgol a nodi unrhyw gymorth arall y gallai fod ei angen.

Rydyn ni’n deulu BAME (pobl dduon ac Asiaidd a lleiafrifoedd ethnig). A yw’n ddiogel anfon ein plant i’r ysgol?​

Mae Offeryn Asesu Risg Gweithlu Cymru Gyfan yn ystod yr Argyfwng COVID-19 wedi cael ei ddylunio gan Lywodraeth Cymru i helpu i fynd i’r afael â ffactorau risg unigol, waeth beth fo’r ethnigrwydd. ​

Ddydd Mercher 20 Ionawr, yn dilyn tarfu pellach ar ddysgu wyneb yn wyneb oherwydd pandemig y coronafeirws cadarnhaodd Gweinidog Addysg Cymru y bydd dysgwyr yng Nghymru sy’n astudio ar gyfer cyrsiau TGAU, Safon UG a Safon Uwch a gymeradwyir gan Gymwysterau Cymru eleni yn derbyn graddau wedi’u pennu gan eu hysgol neu eu coleg, yn seiliedig ar waith y maent wedi’i gwblhau yn ystod eu cwrs. Ni fydd unrhyw asesiadau nac arholiadau allanol.

Bydd dysgwyr sy’n dilyn cyrsiau TGAU, Safon UG a Safon Uwch a gymeradwyir gan Gymwysterau Cymru  yn derbyn cymwysterau wedi’u dyfarnu drwy fodel Gradd a Bennir gan Ganolfan. Mae hyn yn golygu y bydd graddau’n cael eu pennu gan eu hysgol neu eu coleg yn seiliedig ar asesiad o waith y dysgwr.

Bydd modd i ysgolion a cholegau ddefnyddio ystod o dystiolaeth i bennu graddau i’w dyfarnu i’w dysgwyr, gan gynnwys asesiadau di-arholiad, ffug arholiadau, a gwaith dosbarth.

Hefyd bydd CBAC yn cynnig cyfres o bapurau blaenorol wedi’u haddasu y gellir eu defnyddio i helpu i asesu’r dysgu o fewn cynlluniau addysgu. Bydd y rhain yn ddeunyddiau asesu dewisol ond bwriedir iddynt roi cymorth ychwanegol i athrawon a darlithwyr.

Gallwch ddarllen datganiad ysgrifenedig Llywodraeth Cymru: Y wybodaeth ddiweddaraf am Gymwysterau Cyffredinol yn 2021​

Gallwch ddarllen Cwestiynau Cyffredin Cymwysterau Cymru yma

A yw’r cwricwlwm wedi dychwelyd i’r arfer?

Mae Llywodraeth Cymru wedi cyhoeddi canllawiau ar y dull o ddysgu ar gyfer tymor yr hydref​​​​​​​​D​olen allanol yn agor mewn ffenest newydd ac mae’n amlinellu sawl blaenoriaeth.

A fydd tripiau ysgol?

Mae canllawiau’n dal i newid, ond mae’r Cyngor yn gweithio gyda phartneriaid i allu cynllunio ymweliadau a theithiau ysgol unwaith eto. Darperir canllawiau cenedlaethol ar gyfer rheoli dysgu yn yr awyr agored, ymweliadau oddi ar y safle a dysgu y tu allan i’r ystafell ddosbarth gan Banel Ymgynghorwyr Addysg Awyr Agored.

Gweld y canllawiau cenedlaethol ar ddysgu yn yr awyr agored, ymweliadau oddi ar y safle a dysgu y tu allan i’r ystafell ddosbarth​​​​​​​

A all gwersi cerdd ailgychwyn?

Bydd. Mae’r Cyngor wedi bod yn gweithio gydag ysgolion i roi cymorth a sicrwydd y gall y gwasanaeth cerddoriaeth ddychwelyd yn ddiogel.

Pa fesurau sydd ar waith i gynnal diogelwch yn ystod gwersi cerddoriaeth? ​

Mae canllawiau Iechyd a Diogelwch Covid-19 wedi’u rhoi i bob athro peripatetig mewn ysgolion, yn unol â Chanllawiau Llywodraeth Cymru. Mae mesurau’n cynnwys:

  • ​Ni ddylai tiwtoriaid fynychu’r ysgol os ydyn nhw neu unrhyw un y maen nhw’n byw gyda nhw yn dangos symptomau Coronafeirws.  Dylid dilyn y gweithdrefnau hunanynysu presennol a dylid rhoi gwybod i reolwyr am hyn
  • Dylai tiwtoriaid olchi eu dwylo neu ddefnyddio hylif diheintio wrth fynd i mewn ac allan o’r ysgol.
  • Dylai tiwtoriaid gadw pellter cymdeithasol bob amser, a gwisgo mwgwd ym mhob man cymunedol.
  • Bydd tiwtoriaid yn sicrhau bod ystafelloedd addysgu yn cael eu hawyru lle bo modd
  • Dylai tiwtoriaid osgoi cyffwrdd ag offerynnau disgyblion, yn enwedig genau’r offeryn.  Dylai tiwtoriaid ddefnyddio menig untro a hylif diheintio dwylo os ydynt yn tiwnio offeryn neu os oes angen gosod corsen arno.  Dylid osgoi rhannu offerynnau oni bai eu bod yn addysgu piano/telyn, y dylid eu glanhau rhwng disgyblion. Gofynnir i ddisgyblion ddefnyddio hylif diheintio dwylo cyn canu’r offeryn
  • Dylai disgyblion gael eu copïau eu hunain o’r Gerddoriaeth a dod â’u hofferynnau eu hunain i’r wers.
  • Dylai tiwtoriaid lanhau eu hofferynnau a’u hoffer ar ddechrau ac ar ddiwedd pob gwers.
  • Dylid osgoi cyswllt corfforol â disgyblion a chyffwrdd cyn lleied â phosib â cherddoriaeth neu offerynnau sy’n perthyn i ddisgyblion.
  • Dim ond yn unigol neu mewn parau y dylid dysgu disgyblion, gan osgoi cymysgu grwpiau ysgol.
  • Dylai tiwtoriaid fod yn ymwybodol o asesiad risg yr ysgol a manylion mesurau diogelwch a rheoli ysgolion unigol.
  • Os yw plentyn yn dangos symptomau Coronafeirws yn ystod y wers, dylid rhoi gwybod i’r ysgol ar unwaith, a dilynir gweithdrefnau’r ysgolion.

A fydd gwasanaethau ysgol yn dal i gael eu cynnal?

Fel y nodwyd yng nghanllawiau gweithredol Llywodraeth Cymru, “dylid cadw grwpiau cyswllt ar wahân lle bo modd”. Golyga hyn y dylai ysgolion osgoi cynnal digwyddiadau lle mae llawer o bobl yn dod ynghyd fel gwasanaethau ysgol neu sesiynau cydaddoli gyda mwy nag un grŵp.

A fydd gwersi Addysg Gorfforol?

Bydd, mae Addysg Gorfforol yn bwysig i blant, ond bydd gwersi’n cael eu haddasu i leihau’r risg o ledaenu COVID-19. Efallai y bydd eich ysgol yn gofyn i ddisgyblion wisgo eu dillad Addysg Gorfforol i’r ysgol ar y dyddiau hynny a bydd eich ysgol yn cyfleu ei chynlluniau i chi’n uniongyrchol.​

A fydd disgyblion ysgolion uwchradd yn dal i gael athrawon gwahanol ar gyfer pynciau gwahanol neu a fyddant yn cael un athro am y diwrnod cyfan?

Gall pob athro ac aelod o staff weithio mewn gwahanol ddosbarthiadau a chyda gwahanol grwpiau blwyddyn i sicrhau eu bod yn dilyn amserlen yr ysgol, ond byddant yn dilyn gofynion ymbellhau cymdeithasol. Ysgolion unigol fydd yn gwneud y trefniadau.

A fydd plant yn cael cyfnodau o egwyl a sut caiff ymbellhau cymdeithasol ei reoli yn ystod yr adegau hyn?

Bydd disgyblion yn cael egwyl ac amserau cinio ond bydd y rhain ar adegau gwahanol i hwyluso mesurau ymbellhau cymdeithasol.

Beth mae angen i fy mhlentyn ddod ag ef i’r ysgol? Oes angen ei offer ei hun arno?

Mae canllawiau Llywodraeth Cymru yn nodi y dylai dysgwyr gyfyngu ar faint o offer y daw ag ef i’r ysgol bob dydd, a chadw at yr hyn sy’n hanfodol yn unig.

Bydd ysgolion yn cyfleu eu gofynion eu hunain.

​​A fydd prydau ysgol ar gael o ddydd Llun 22 Chwefror?

Ni fydd arlwyo mewn ysgolion pan fydd ysgolion yn ailagor i ddisgyblion Cyfnod Sylfaen o ddydd Llun 22 Chwefror. Bydd angen i blant ddod â phecyn cinio.

Bydd eich ysgol yn rhoi gwybod i chi pan fydd arlwyo mewn ysgolion yn ailddechrau.

Beth os yw fy mhlentyn yn cael Prydau Ysgol am Ddim fel arfer?

Ar gyfer plant sy’n gymwys i gael Prydau Ysgol am Ddim, bydd y systemau e-dalebau a Parent Pay yn parhau ar waith hyd nes y daw’r ddarpariaeth arlwyo yn ôl ym mhob ysgol.

Dylai plant sy’n dychwelyd i’r ysgol o ddydd Llun 22 Chwefror ddod â phecyn cinio i’r ysgol.

Bydd Prydau Ysgol am Ddim hefyd ar gael yn ystod y gwyliau ysgol hyd at a chan gynnwys Pasg 2021 a thra bod ysgolion ar gau oherwydd y cyfnod clo.

Ble y gellir gwario talebau archfarchnad?

Gellir gwario’r talebau erbyn hyn mewn saith archfarchnad wahanol gan gynnwys Aldi, Asda, Iceland, Morrisons, Tesco, Sainbury’s a Waitrose ac mae’n rhoi’r hyblygrwydd i rieni a gofalwyr brynu bwyd eu plentyn o archfarchnad o’u dewis.

Beth os yw fy mhlentyn yn cael Prydau Ysgol am Ddim ond bod angen iddo hunanynysu?

Os yw disgyblion yn hunanynysu neu os oes angen iddynt aros gartref byddant yn cael Prydau Ysgol am Ddim drwy daleb archfarchnad.

Bydd Prydau Ysgol am Ddim yn parhau i gael eu darparu yn ystod yr ysgol.

A ddylai dysgwyr sy’n agored i niwed yn feddygol ddychwelyd i’r ysgol pan fydd yn ailagor?

Mae Coleg Brenhinol Pediatreg ac Iechyd Plant (RCPCH) wedi adolygu a chyhoeddi canllawiau ar y risgiau i blant sydd ag anghenion iechyd sylfaenol.​​​​​​​​ Mabwysiadwyd eu canllawiau gan bedair gwlad y DU.

Mae canllawiau RCPCH yn nodi dau grŵp o blant a phobl ifanc (dan 18 oed) sydd ‘yn eithriadol o fregus yn glinigol’.

Mae Grŵp A yn rhestru cyflyrau sy’n golygu bod plentyn yn agored iawn i niwed yn glinigol. Dylid cynghori plentyn sydd â chyflwr yng ngrŵp A i hunan-warchod, yn unol â chyngor iechyd cyhoeddus y Llywodraeth.

Mae Grŵp B yn rhestru cyflyrau sy’n gofyn am drafodaeth rhwng y clinigydd a’r plentyn a’i deulu/gofalwr i weld a yw’n agored iawn i niwed yn glinigol ar sail pob achos unigol. Dylai plentyn yng Ngrŵp B drafod â’i dîm clinigol i bennau a ddylid ei gynghori i amddiffyn, yn unol â chyngor iechyd cyhoeddus y Llywodraeth, ar ôl cydbwyso’r risgiau. Ni fydd angen i bob plentyn a pherson ifanc sydd â chyflyrau a restrir yn Grŵp B wneud hyn. Os, yn dilyn y drafodaeth, caiff ei gynghori i beidio â hunan-warchod, dylai’r plentyn ddilyn trefniadau ymbellhau cymdeithasol llym.

Mae’r Coleg Brenhinol dynodedig wedi argymell y dylai gweithwyr meddygol proffesiynol weld plant a phobl ifanc â chyflyrau grŵp A neu B cyn mis Medi a dylid penderfynu a ddylid ystyried y plentyn yn ‘agored iawn i niwed yn glinigol’, a’i gynghori i amddiffyn.

Os cynghorir dysgwr i amddiffyn, bydd ysgolion yn parhau i ddarparu cyfleoedd dysgu o bell, ac yn parhau i gysylltu’n rheolaidd â rhieni/gofalwyr.

Mae gan fy mhlentyn anghenion gofal meddygol neu bersonol.  Ydy ysgolion yn gallu parhau i roi cymorth?

Bydd yr ysgol yn diweddaru’r asesiad risg ar gyfer eich plentyn ac yn trafod hyn â chi.

Os bydd angen i staff gael cyswllt uniongyrchol â’ch plentyn, bydd hyn yn cael ei drafod â chi’n gyntaf.   Bydd cyngor iechyd a diogelwch yn cael ei ddilyn, gan gynnwys hylendid ychwanegol a’r defnydd o gyfarpar diogelu personol.​

Mae gan fy mhlentyn ddatganiad o Anghenion Addysgol Arbennig: a fydd yn dal yn gallu derbyn cymorth ychwanegol?

Bydd ysgolion yn parhau i roi lefelau priodol o gymorth ychwanegol i ddysgwyr ag ADY.

Mae gan un neu fwy o’n dysgwyr nam ar eu clyw ac mae angen iddyn nhw weld gwefusau ac ystumiau wyneb pobl pan fyddan nhw’n siarad.  Beth yw’r cyngor o ran masgiau wyneb?

Er mwyn sicrhau nad yw cyfathrebu’n gyfyngedig i blant a phobl ifanc sydd â nam ar eu clyw, caiff feisorau wyneb eu gwisgo pan fo angen cyfarpar diogelu personol. ​

Cludiant ysgol o ddydd Llun 22 Chwefror

Cludiant o’r Cartref i’r Ysgol
Bydd y disgyblion hynny sy’n dychwelyd i ddarpariaeth wyneb yn wyneb yn yr ysgol o ddydd Llun 22 Chwefror sy’n gymwys i gael cludiant yn parhau i dderbyn cludiant os byddant yn mynychu’r ysgol.
Bydd angen i’ch ysgol gysylltu â’r Tîm Cludiant o’r Cartref i’r Ysgol gyda manylion disgyblion a fydd yn mynychu er mwyn gallu gwneud y trefniadau angenrheidiol.
Efallai na fydd cludiant prif ffrwd yn dychwelyd i’w weithrediad llawn tra bod ysgolion yn parhau i fod ar gau i’r mwyafrif o ddisgyblion. Bydd eich ysgol yn rhoi diweddariadau i chi.
Ystyrir mai Teithio Llesol yw’r ffordd fwyaf diogel ac iach o gyrraedd yr ysgol ac anogir disgyblion i gerdded, mynd ar sgwter neu feic lle y bo’n bosibl.
Cedwir newidiadau i drefn ffyrdd o gwmpas rhai ysgolion er mwyn cefnogi mynediad diogel.
I’r rhai na allant fynd i’r ysgol heb drafnidiaeth ysgol, bydd eich ysgol yn sôn wrthych am y trefniadau manwl ar gyfer dechrau’r tymor.​​

Beth sy’n digwydd os yw fy mhlentyn fel arfer yn teithio i’r ysgol ar fws?​

Bydd Trafnidiaeth Ysgol Prif Ffrwd yn gweithredu ar adegau arferol a chyda chapasiti arferol o fis Medi ymlaen.
Bydd trafnidiaeth ysgol ar gael gyda mesurau diogelwch ychwanegol ar waith. Bydd y rhain yn cynnwys:
  • Caiff pob cerbyd ei ystyried yn swigen ar wahân;
  • Bydd disgwyl i bob disgybl eistedd yn yr un sedd ar y ffordd i’r ysgol ac yn ôl;
  • Rhaid i ddisgyblion beidio â theithio os oes ganddyn nhw neu unrhyw un yn eu cartrefi symptomau COVID-19
  • Bydd diheintydd dwylo ar gael ar bob cerbyd. Rhaid i ddisgyblion ei ddefnyddio wrth fynd ar y cerbyd a’i adael.
  • Mae gweithredwyr trafnidiaeth wedi rhoi mwy o drefniadau glanhau ar waith a bydd cerbydau’n cael eu glanhau’n drylwyr bob wythnos. Caiff pob arwyneb y cyffyrddir ag ef yn rheolaidd ei lanhau ar ôl pob taith.
Mae’r uchod i gyd yn amodol ar newidiadau yng nghanllawiau Llywodraeth Cymru.

A oes disgwyl i’m plentyn wisgo gorchudd wyneb wrth deithio ar fws ysgol?

Bydd disgwyl i ddisgyblion ysgolion uwchradd prif ffrwd wisgo gorchuddion wyneb wrth deithio ar fysus ysgol prif ffrwd, bysus mini a thacsis. Bydd Cyngor Caerdydd yn rhoi dau orchudd wyneb amldro i bob disgybl ysgol uwchradd prif ffrwd.
Nid yw’r disgwyliad hwn yn berthnasol i ddisgyblion ag Anghenion Addysgol Ychwanegol er y rhoddir masgiau i’r rhai sy’n dymuno eu defnyddio.
Nid yw’r gofyniad i wisgo gorchuddion wyneb ar drafnidiaeth ysgol prif ffrwd yn berthnasol i ddisgyblion ysgolion cynradd ond bydd hyn yn cael ei adolygu’n barhaus yn unol â chanllawiau’r Llywodraeth.

Mae fy mhlentyn yn mynd i’r ysgol mewn tacsi, a fydd angen iddo wisgo gorchudd wyneb?

Mae Cyngor Caerdydd yn disgwyl i bob disgybl ysgol uwchradd wisgo gorchudd wyneb mewn tacsi a bydd yn rhoi’r gorchuddion i’r disgyblion hynny. Nid yw’r disgwyliad hwn yn berthnasol i ddisgyblion ag Anghenion Addysgol Ychwanegol na disgyblion ysgol gynradd er y rhoddir masgiau i’r rhai sy’n dymuno eu defnyddio.

Beth os bydd fy mhlentyn yn teithio i’r ysgol ar drafnidiaeth gyhoeddus?

Bydd disgwyl i ddisgyblion ysgolion uwchradd prif ffrwd wisgo gorchudd wyneb wrth deithio ar drafnidiaeth gyhoeddus.
Ewch i wefan Trafnidiaeth Cymru​​​​​​​​​​​​ i gael rhagor o wybodaeth a chanllawiau mewn perthynas â theithio ar drafnidiaeth gyhoeddus.

A all meithrinfeydd a lleoliadau gofal plant preifat aros ar agor yn ystod y cyfnod cloi lefel 4? ​

Mae’n dweud: Ledled Cymru, gall pob lleoliad gofal plant a lleoliad chwarae aros ar agor, gan ddarparu gofal, cymorth, addysg gynnar a chyfleoedd chwarae cyfoethog i bob plentyn.  Mae hyn yn cynnwys pob un o’n lleoliadau nas cynhelir megis gwarchodwyr plant a darparwyr gofal dydd, ynghyd â lleoliadau gwaith chwarae a darpariaeth Dechrau’n Deg.

Dylent, fodd bynnag, barhau i ystyried canllawiau Llywodraeth Cymru ar weithrediadau diogel.​

Mae Llywodraeth Cymru wedi cyhoeddi cyfres o Gwestiynau Cyffredin sy’n ymwneud â gofal plant a chwarae yn ystod lefel rhybudd 4​.

A fydd clwb brecwast a/neu glybiau ar ôl ysgol ar gael?

Mae’r Cyngor yn gweithio gydag ysgolion a darparwyr gofal plant i’w cynorthwyo i hwyluso clybiau brecwast ac ar ôl ysgol. Bydd eich ysgol neu ddarparwr gofal plant cofrestredig yn rhoi gwybod i chi’n uniongyrchol am y cynlluniau. ​

Ble galla i ddod o hyd i wybodaeth am ofal plant cofrestredig yng Nghaerdydd?

Mae Cyngor a Chymorth i Deuluoedd Caerdydd​​​​​​​ yn cynnig ystod o wybodaeth, cyngor a chymorth i blant, pobl ifanc a’u teuluoedd yng Nghaerdydd. Gall y tîm gynnig gwybodaeth a chyngor ynglŷn â gofal plant cofrestredig yng Nghaerdydd.  Cysylltwch â nhw trwy ffonio 03000 133 133 neu e-bostio CyswlltFAS@caerdydd.gov.uk.

Pryd bydd fy narparwr gofal plant cofrestredig yn ailagor?

Ddydd Gwener 2 Hydref, roedd 364 o’r 407 o leoliadau gofal plant cofrestredig ar agor. Mae hyn yn 89% o’r lleoliadau gofal plant cofrestredig yng Nghaerdydd.  Mae meithrinfeydd a lleoliadau gofal plant ledled y ddinas yn parhau i archwilio canllawiau i benderfynu a fyddant yn ailagor a phryd. I rieni sy’n dymuno cael gofal plant eto, bydd angen i chi gysylltu â’ch darparwr gofal plant cofrestredig i gael y wybodaeth ddiweddaraf am eu cynlluniau presennol neu fynd i Wefan Cyngor a Chymorth i Deuluoedd Caerdydd​​​​​​​​ i gael gwybod pa ddarparwyr sydd ar agor.​

Mae mesur atal dros dro y Cynnig Gofal Plant wedi’i godi.  Erbyn diwedd mis Medi 2020, roedd cyfanswm o 1,034 o blant Caerdydd yn elwa o’r Cynnig Gofal Plant.

I rieni, mae hyn yn golygu:

  • ​Y gall rhieni cymwys â phlant y disgwyliwyd iddynt ddechrau addysg Feithrin y Cyfnod Sylfaen (sy’n ffurfio rhan o’r Cynnig) yn nhymhorau’r gwanwyn neu’r haf wneud cais o ddydd Llun 10 Awst, ac y bydd arian ar gyfer yr elfen gofal plant ar gael o ddechrau’r tymor ysgol ar 1 Medi. Nid oes angen i rieni sydd eisoes wedi cyflwyno eu cais yn gynharach yn y flwyddyn ymgeisio eto.

Rydym yn rhagweld y caiff y rhan fwyaf o geisiadau o’r fath eu prosesu gan Dîm Cynnig Gofal Plant y Cyngor yn brydlon fel y bydd yr arian ar gael ar ddechrau’r tymor.

  • ​Gall rhieni cymwys y disgwylir i’w plant ddechrau eu haddysg feithrin yn y Cyfnod Sylfaen yn nhymor yr hydref gyflwyno eu ceisiadau o 1 Medi.  Bydd yr arian ar gael dim ond ar ôl i gais gael ei brosesu a’i wirio’n llawn. Mae Llywodraeth Cymru wedi dweud yn glir nad yw’n bosibl ôl-ddyddio taliadau cyn dyddiad cymeradwyo’r cais. ​

Ydych chi’n poeni am ffrind?

Mewn achosion brys pa fo plentyn yn wynebu perygl uniongyrchol, ffoniwch yr Heddlu ar 999.

Dylech weithredu os oes pryderon gennych ynghylch iechyd neu les plentyn. Hyd yn oed os yw eich pryderon yn ymddangos yn rhai bach i chi, dylech roi gwybod i’r awdurdodau perthnasol amdanynt. Caiff pob adroddiad eu trin fel mater difrifol, a gweithredir arnynt â sensitifrwydd.

Internet safety logo
Visit Thinkyouknow.co.uk for information on staying safe
Visit Childline website