{"id":6351,"date":"2026-05-29T13:55:14","date_gmt":"2026-05-29T13:55:14","guid":{"rendered":"https:\/\/www.childfriendlycardiff.co.uk\/?p=6351"},"modified":"2026-05-29T14:04:54","modified_gmt":"2026-05-29T14:04:54","slug":"cenhadaeth-chwarae","status":"publish","type":"post","link":"https:\/\/www.childfriendlycardiff.co.uk\/cy\/2026\/05\/cenhadaeth-chwarae\/","title":{"rendered":"Cenhadaeth Chwarae Caerdydd"},"content":{"rendered":"<div class=\"wpb-content-wrapper\"><p>[vc_row][vc_column][vc_column_text css=&#8221;&#8221;]I nodi Diwrnod Rhyngwladol Chwarae ar 11 Mehefin, gwahoddir ysgolion ledled Caerdydd i gymryd rhan yng Nghenhadaeth Chwarae Caerdydd. Mae&#8217;r genhadaeth yn rhan o waith ehangach Dinas sy\u2019n Dda i Blant Caerdydd, ac mae&#8217;n cefnogi Cynllun Gweithredu Digonolrwydd Cyfleoedd Chwarae&#8217;r ddinas.<\/p>\n<p>Mae gan Gymru ymrwymiad cenedlaethol cryf i chwarae plant. Mae Llywodraeth Cymru yn ei gwneud yn ofynnol i awdurdodau lleol asesu a chynllunio ar gyfer digon o gyfleoedd chwarae, a bydd yr wybodaeth a gesglir drwy&#8217;r genhadaeth hon yn helpu Caerdydd i greu darlun cliriach o gyfleoedd chwarae, rhwystrau a mannau sy&#8217;n addas i blant ledled y ddinas.<\/p>\n<p>Mae gan Genhadaeth Chwarae Caerdydd dair rhan syml. Gall ysgolion ddewis cymryd rhan mewn un, dwy neu&#8217;r tair.<\/p>\n<h2>Sut y gallai ysgolion gymryd rhan gyda disgyblion<\/h2>\n<p>Gall ysgolion gymryd rhan ym mha bynnag ffordd sy&#8217;n gweithio orau i&#8217;w lleoliad. Gellid archwilio&#8217;r cenadaethau trwy gr\u0175p llais y disgybl sydd yn bodoli eisoes, cyngor ysgol, llysgenhadon hawliau, gr\u0175p eco, gr\u0175p lles neu drafodaeth dosbarth. Gellid eu defnyddio hefyd yn ystod cyfnodau cofrestru, amser cylch, sesiynau iechyd a lles, dysgu am y dyniaethau neu\u2019r ardal leol, dysgu yn yr awyr agored, neu fel gweithgaredd dilynol byr yn gysylltiedig \u00e2 gwasanaeth.<\/p>\n<p>Nid y nod yw creu llwyth gwaith ychwanegol neu brosiect ffurfiol. Mae trafodaeth fer gyda disgyblion yn ddigon. Efallai y bydd ysgolion am ofyn i ddisgyblion beth maen nhw eisoes yn sylwi arno, yn ei wybod, yn ei ddefnyddio neu&#8217;n ei werthfawrogi, yna defnyddio&#8217;r ffurflenni i rannu&#8217;r wybodaeth honno.<\/p>\n<p>Ar gyfer Cenhadaeth 1, gellid gofyn i ddisgyblion sylwi ar arwyddion yn ystod eu teithiau arferol, a dod \u00e2&#8217;u harsylwadau yn \u00f4l i&#8217;r ysgol. Ar gyfer Cenhadaeth 2, gallai disgyblion drafod pa gyfleoedd chwarae maen nhw&#8217;n gwybod amdanynt neu\u2019n eu gwerthfawrogi ar dir yr ysgol ar \u00f4l 3pm, neu yn ystod gwyliau&#8217;r haf. Ar gyfer Cenhadaeth 3, gall ysgolion gymryd rhan yn yr Her Chwarae 31 ym mha bynnag ffordd sy&#8217;n gweddu i&#8217;r diwrnod ysgol.<\/p>\n<h1><\/h1>\n<h1>Cenhadaeth 1: Nodi\u2019r arwyddion sy&#8217;n atal chwarae<\/h1>\n<p>O gwmpas Caerdydd, mae yna hen arwyddion o hyd sy&#8217;n dweud wrth blant lle na allant chwarae, symud neu fod yn egn\u00efol. Gallai&#8217;r rhain gynnwys arwyddion fel &#8220;Dim gemau p\u00eal&#8221;, &#8220;Dim chwarae yma&#8221;, &#8220;Cadwch oddi ar y glaswellt&#8221;, &#8220;Dim beicio&#8221; neu &#8220;Dim sglefrfyrddio&#8221;.<\/p>\n<p>Mae rhai o&#8217;r arwyddion hyn yn hen iawn ac efallai na fyddant bellach yn cael eu cofnodi ar systemau&#8217;r Cyngor. Gallant wneud i leoedd deimlo&#8217;n llai croesawgar i blant ac efallai y byddant yn atal plant rhag mwynhau eu hawl i chwarae, ymlacio, symud, bod yn egn\u00efol a threulio amser gyda ffrindiau.<\/p>\n<p>Gall disgyblion helpu drwy nodi\u2019r arwyddion hyn yn ystod eu teithiau arferol, megis ar y ffordd i&#8217;r ysgol, ar y ffordd adref, ger parciau, ger clybiau, ger mannau addoli neu mewn mannau eraill y maent yn ymweld \u00e2 nhw fel rhan o fywyd pob dydd.<\/p>\n<p>Ni ddylid gofyn i ddisgyblion fynd allan yn arbennig i chwilio am arwyddion neu wneud unrhyw beth sy\u2019n anniogel. Ni ddylent fynd i mewn i dir preifat, cyffwrdd neu dynnu arwyddion, na herio unrhyw un am arwydd. Mae hyn yn ymwneud \u00e2 nodi ac adrodd am arwyddion yn ddiogel. Gall ysgolion gyflwyno canfyddiadau trwy lenwi ffurflen fer. Gall disgyblion ddisgrifio beth mae&#8217;r arwydd yn ei ddweud, ble mae, pa fath o le y mae ynddo, a sut maen nhw&#8217;n meddwl ei fod yn effeithio ar chwarae plant. Mae lle hefyd i ddisgyblion awgrymu neges fwy cadarnhaol.[\/vc_column_text][vc_single_image image=&#8221;6352&#8243; img_size=&#8221;medium&#8221; alignment=&#8221;center&#8221; onclick=&#8221;link_image&#8221; css=&#8221;&#8221;][vc_column_text css=&#8221;&#8221;]<\/p>\n<h1>Cenhadaeth 2: Rhannu\u2019r hyn sy&#8217;n digwydd eisoes ar dir yr ysgol<\/h1>\n<p>Fel rhan o waith Digonolrwydd Cyfleoedd Chwarae Caerdydd, rydym yn ceisio creu darlun cliriach o gyfleoedd chwarae ledled y ddinas. Mae hyn yn cynnwys parciau, mannau cyhoeddus, grwpiau cymunedol, gwasanaethau ieuenctid a thiroedd ysgolion. Gwahoddir ysgolion i rannu ciplun byr o unrhyw gyfleoedd chwarae presennol sydd ar gael ar dir yr ysgol ar \u00f4l 3pm neu yn ystod gwyliau&#8217;r haf. Gallai hyn gynnwys clybiau, cynlluniau chwarae, chwaraeon, defnydd dan oruchwyliaeth o fannau awyr agored, darpariaeth gofleidiol, neu weithgareddau a gyflwynir gan ddarparwyr allanol ar dir yr ysgol.<\/p>\n<p>Nid ymarfer archwilio, arolygu neu gymharu yw hwn. Nid yw&#8217;n ymwneud \u00e2 gofyn i ysgolion ddarparu mwy, ac nid yw&#8217;n creu unrhyw ddisgwyliad newydd. Y nod yn syml yw deall beth sy&#8217;n bodoli eisoes, lle mae ysgolion yn teimlo eu bod yn gallu ei rannu.<\/p>\n<p>Efallai y bydd ysgolion yn dymuno cynnwys disgyblion i nodi&#8217;r cyfleoedd y maent yn gwybod amdanynt, yn eu defnyddio neu\u2019n eu gwerthfawrogi. Gall staff wedyn ychwanegu gwybodaeth ffeithiol lle y bo&#8217;n ddefnyddiol, megis pryd y cynhelir y ddarpariaeth, pwy sy&#8217;n ei darparu, ac a yw&#8217;n agored i bob disgybl neu grwpiau penodol.<\/p>\n<p>Os nad oes gan ysgol ddarpariaeth ar hyn o bryd, neu os yw&#8217;r ddarpariaeth yn gyfyngedig, mae hynny&#8217;n ddefnyddiol i&#8217;w ddeall hefyd. Mae&#8217;n helpu i ddatblygu darlun gonest o gyfleoedd, rhwystrau a phwysau ledled y ddinas.<\/p>\n<p>&nbsp;<\/p>\n<h1>Cenhadaeth 3: Cymryd yr Her Chwarae 31<\/h1>\n<p>Gwahoddir ysgolion hefyd i gymryd rhan yn Her Chwarae 31 ar 11 Mehefin, Diwrnod Rhyngwladol Chwarae. Galwad i weithredu Fforwm Polisi Chwarae Plant y DU yw Her Chwarae 31, a gyflwynir mewn cydweithrediad \u00e2 phum cangen Cymdeithas Chwarae Ryngwladol y DU ac Iwerddon. Mae Chwarae Cymru yn aelod o Fforwm Polisi Chwarae Plant y DU, ac mae wedi rhannu gwybodaeth am yr her i ysgolion yng Nghymru.<\/p>\n<p>Mae&#8217;r her yn annog ysgolion i roi 31 munud ychwanegol o chwarae i blant yn ystod y diwrnod ysgol. Mae wedi\u2019i hysbrydoli gan Erthygl 31 o Gonfensiwn y Cenhedloedd Unedig ar Hawliau&#8217;r Plentyn, sy&#8217;n cydnabod hawl pob plentyn i chwarae, gorffwys, gweithgareddau hamdden a diwylliannol. Thema&#8217;r ymgyrch eleni yw &#8220;Diogelu chwarae, diogelu plentyndod&#8221;.<\/p>\n<p>Gall ysgolion gymryd rhan mewn ffordd sy&#8217;n gweithio iddyn nhw. Gallai hyn gynnwys ymestyn amser chwarae, cefnogi dysgu chwareus yn yr awyr agored, creu lle ychwanegol ar gyfer chwarae rhydd, neu gynnwys gweithgareddau chwareus yn y diwrnod ysgol.<\/p>\n<h3>Pam mae hyn yn bwysig?<\/h3>\n<p>Nid ychwanegiad braf yn unig yw chwarae. Mae&#8217;n cefnogi iechyd, lles, cyfeillgarwch, hyder, symudiad, creadigrwydd ac ymdeimlad o berthyn plant. Mae hefyd yn cysylltu&#8217;n uniongyrchol \u00e2 hawliau plant, gan gynnwys yr hawl i chwarae, yr hawl i gael eu clywed, a&#8217;r hawl i fod yn ddiogel.<\/p>\n<p>Mae Cenhadaeth Chwarae Caerdydd yn rhoi ffordd syml i ysgolion ddathlu chwarae, cefnogi llais y disgybl a helpu Caerdydd i ddeall profiadau plant o chwarae ledled y ddinas yn well.<\/p>\n<p>Bydd yr wybodaeth a gesglir drwy&#8217;r genhadaeth yn helpu i lywio gwaith Digonolrwydd Cyfleoedd Chwarae Caerdydd, ac yn cefnogi cynllunio yn y dyfodol ynghylch cyfleoedd chwarae, rhwystrau a mannau sy&#8217;n addas i blant.<\/p>\n<h2>Beth sy\u2019n digwydd nesaf?<\/h2>\n<p>Bydd y genhadaeth ar agor trwy gydol mis Mehefin. Gall ysgolion gymryd rhan mewn un, dwy neu&#8217;r tair cenhadaeth, yn dibynnu ar gapasiti a beth sy&#8217;n gweithio orau i&#8217;w lleoliad.<\/p>\n<p>Ar \u00f4l i&#8217;r cyfnod derbyn ffurflenni ddod i ben, bydd yr wybodaeth yn cael ei hadolygu a&#8217;i defnyddio i gefnogi Cynllun Gweithredu Digonolrwydd Cyfleoedd Chwarae Caerdydd. Pan fydd disgyblion yn nodi arwyddion a allai atal chwarae, bydd y rhain yn cael eu mapio a&#8217;u hadolygu lle y bo modd. Bydd gwybodaeth am gyfleoedd chwarae ar dir yr ysgol yn helpu i greu darlun cliriach ledled y ddinas o&#8217;r ddarpariaeth bresennol ar \u00f4l 3pm ac yn ystod gwyliau&#8217;r haf.<\/p>\n<p>Byddwn yn anelu at rannu diweddariad byr wedyn fel y gall ysgolion a disgyblion weld sut mae eu cyfraniadau wedi helpu.[\/vc_column_text][\/vc_column][\/vc_row]<\/p>\n<\/div>","protected":false},"excerpt":{"rendered":"[vc_row][vc_column][vc_column_text css=&#8221;&#8221;]I nodi Diwrnod Rhyngwladol Chwarae ar 11 Mehefin, gwahoddir ysgolion ledled Caerdydd i gymryd rhan yng Nghenhadaeth Chwarae Caerdydd. Mae&#8217;r genhadaeth yn rhan o waith ehangach Dinas sy\u2019n Dda i Blant Caerdydd, ac mae&#8217;n cefnogi Cynllun Gweithredu Digonolrwydd Cyfleoedd Chwarae&#8217;r ddinas. Mae gan Gymru ymrwymiad cenedlaethol cryf i chwarae plant. Mae Llywodraeth Cymru yn&#8230; <a class=\"view-article\" href=\"https:\/\/www.childfriendlycardiff.co.uk\/cy\/2026\/05\/cenhadaeth-chwarae\/\">View Article<\/a>","protected":false},"author":3,"featured_media":6352,"comment_status":"closed","ping_status":"closed","sticky":false,"template":"","format":"standard","meta":{"footnotes":""},"categories":[6],"tags":[],"class_list":["post-6351","post","type-post","status-publish","format-standard","has-post-thumbnail","hentry","category-newyddion"],"_links":{"self":[{"href":"https:\/\/www.childfriendlycardiff.co.uk\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/posts\/6351","targetHints":{"allow":["GET"]}}],"collection":[{"href":"https:\/\/www.childfriendlycardiff.co.uk\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/posts"}],"about":[{"href":"https:\/\/www.childfriendlycardiff.co.uk\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/types\/post"}],"author":[{"embeddable":true,"href":"https:\/\/www.childfriendlycardiff.co.uk\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/users\/3"}],"replies":[{"embeddable":true,"href":"https:\/\/www.childfriendlycardiff.co.uk\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/comments?post=6351"}],"version-history":[{"count":4,"href":"https:\/\/www.childfriendlycardiff.co.uk\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/posts\/6351\/revisions"}],"predecessor-version":[{"id":6357,"href":"https:\/\/www.childfriendlycardiff.co.uk\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/posts\/6351\/revisions\/6357"}],"wp:featuredmedia":[{"embeddable":true,"href":"https:\/\/www.childfriendlycardiff.co.uk\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/media\/6352"}],"wp:attachment":[{"href":"https:\/\/www.childfriendlycardiff.co.uk\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/media?parent=6351"}],"wp:term":[{"taxonomy":"category","embeddable":true,"href":"https:\/\/www.childfriendlycardiff.co.uk\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/categories?post=6351"},{"taxonomy":"post_tag","embeddable":true,"href":"https:\/\/www.childfriendlycardiff.co.uk\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/tags?post=6351"}],"curies":[{"name":"wp","href":"https:\/\/api.w.org\/{rel}","templated":true}]}}