{"id":6166,"date":"2025-09-23T12:11:28","date_gmt":"2025-09-23T12:11:28","guid":{"rendered":"https:\/\/www.childfriendlycardiff.co.uk\/?p=6166"},"modified":"2025-09-23T12:16:21","modified_gmt":"2025-09-23T12:16:21","slug":"dathlu-cynnydd-mae-hanner-ysgolion-caerdydd-bellach-yn-arian-neun-aur","status":"publish","type":"post","link":"https:\/\/www.childfriendlycardiff.co.uk\/cy\/2025\/09\/dathlu-cynnydd-mae-hanner-ysgolion-caerdydd-bellach-yn-arian-neun-aur\/","title":{"rendered":"Dathlu Cynnydd: Mae hanner ysgolion Caerdydd bellach yn arian neu&#8217;n aur"},"content":{"rendered":"<p>Wrth i&#8217;r flwyddyn academaidd ddod i ben, mae Caerdydd wedi cyrraedd carreg filltir arwyddocaol yn ei thaith i ymgorffori hawliau plant ar draws addysg. Heddiw, mae hanner yr holl ysgolion yn y ddinas wedi ennill Arian neu Aur yn y Wobr Ysgolion sy&#8217;n Parchu Hawliau.<\/p>\n<p>Mae hyn yn golygu bod plant mewn mwy na 50 y cant o ysgolion Caerdydd yn dysgu bob dydd mewn amgylcheddau lle mae eu hawliau nid yn unig yn cael eu haddysgu ond yn cael eu cynnal yn ymarferol. Mae&#8217;r rhain yn ysgolion lle mae plant yn cael eu diogelu, eu parchu a&#8217;u trin fel partneriaid cyfartal wrth lunio eu haddysg a&#8217;u cymunedau. Maen nhw&#8217;n gwybod bod eu lleisiau yn bwysig a bod eu barn yn arwain at newid ystyrlon.<\/p>\n<p>Mae&#8217;r effaith yn glir. Mae\u2019r disgyblion mewn ysgolion sy&#8217;n parchu hawliau yn dangos mwy o hyder, hunan-barch cryfach, a mwy o ymwybyddiaeth o&#8217;r byd o&#8217;u cwmpas. Mae perthnasau ar draws cymuned yr ysgol wedi&#8217;u seilio ar gyd-barch, ac mae\u2019r plant yn teimlo eu bod wedi&#8217;u grymuso i eirioli drostyn nhw eu hunain ac eraill.<\/p>\n<p>Mae&#8217;r cynnydd hwn yn ganlyniad i ymdrechion parhaus staff ysgol, disgyblion a chydlynwyr sydd wedi gweithio gyda gofal ac ymrwymiad i greu diwylliant lle mae hawliau&#8217;n cael eu byw ac nid eu dysgu yn unig. Mae eu hamser, eu hegni a&#8217;u hangerdd wedi gwneud gwahaniaeth parhaol i fywydau plant a phobl ifanc ledled y ddinas.<\/p>\n<h3><strong>Cymorth Parhaus i Ysgolion<\/strong><\/h3>\n<p>Caerdydd yw&#8217;r awdurdod lleol cyntaf yn y DU i hyfforddi swyddogion lleol yn llawn fel aseswyr Arian wedi\u2019u hachredu gan UNICEF. Mae hyn yn golygu bod y t\u00eem Caerdydd sy&#8217;n Dda i Blant bellach yn gallu rhoi cymorth wyneb yn wyneb wedi&#8217;i deilwra i ysgolion nad ydyn nhw wedi ymgysylltu eto neu sydd yn y cyfnod Efydd ar hyn o bryd.<\/p>\n<p>Gall ysgolion hefyd barhau i gael mynediad at gymorth yn uniongyrchol gan UNICEF UK. Mae&#8217;r t\u00eem Caerdydd sy&#8217;n Dda i Blant bob amser ar gael i drafod opsiynau, cynnig arweiniad, a helpu unrhyw ysgol i gymryd ei cham nesaf. I drefnu sgwrs neu i ofyn am gymorth, cysylltwch \u00e2:<\/p>\n<p>Robin Bonar-Law, Swyddog Cyswllt Dinas sy\u2019n Dda i Blant<br \/>\nE-bost: <a href=\"mailto:robin.bonarlaw@cardiff.gov.uk\">robin.bonarlaw@caerdydd.gov.uk<\/a><\/p>\n<h3><strong>Cynhadledd Gwobr Ysgolion sy\u2019n Parchu Hawliau (GYPH) sydd ar ddod: Dull Hawliau Plant o Ymdrin \u00e2 Chynhwysiant<\/strong><\/h3>\n<p>Yr hydref hwn, bydd UNICEF UK yn cynnal Cynhadledd GYPH 2025, gyda ffocws ar sut y gall ysgolion gynnal hawliau pob plentyn wrth gefnogi&#8217;r gymuned ysgol ehangach.<\/p>\n<p>Y prif siaradwr fydd yr Athro Laura Lundy o Brifysgol y Frenhines Belfast, a fydd yn cyflwyno syniadau o&#8217;i phapur <em>Children, classrooms and challenging behaviour: do the rights of the many outweigh the rights of the few?<\/em> Bydd y gynhadledd hefyd yn cynnwys yr Athro Carol Robinson o Brifysgol Strathclyde, sy&#8217;n arwain ymchwil newydd i effaith y GYPH ar gynhwysiant mewn ysgolion. Bydd y digwyddiad yn dod i ben gyda thrafodaeth banel gydag arweinwyr GYPH ysgolion a\u2019r Cyfarwyddwr Rhaglen Martin Russell.<\/p>\n<p>Mae Cynhadledd y GYPH yn agored i\u2019r holl staff ysgol ac mae&#8217;n arbennig o berthnasol i&#8217;r rhai mewn rolau arwain neu sy\u2019n arwain gwaith y GYPH yn eu lleoliad. Mae hefyd yn addas ar gyfer staff sy&#8217;n archwilio\u2019r GYPH am y tro cyntaf, neu unrhyw un sydd \u00e2 diddordeb mewn hawliau plant ac ymarfer cynhwysol.<\/p>\n<p><strong>Manylion y Gynhadledd<\/strong><br \/>\nDyddiad: Dechrau mis Hydref 2025<br \/>\nAmser: 9.30am i 12.15pm<br \/>\nLleoliad: Microsoft Teams<br \/>\nCost: Am ddim i ysgolion sy&#8217;n aelodau o&#8217;r GYPH (pob ysgol a gynhelir yng Nghaerdydd)<br \/>\nDolen cadw lle: <a href=\"https:\/\/www.eventbrite.co.uk\/e\/rrsa-conference-2025-a-child-rights-approach-to-inclusion-tickets-1333899682859?utm_source=chatgpt.com\">https:\/\/www.eventbrite.co.uk\/e\/rrsa-conference-2025-a-child-rights-approach-to-inclusion-tickets-1333899682859<\/a><\/p>\n<p>Mae cynnydd Caerdydd eleni yn dangos nad gweledigaeth yn unig yw addysg sy&#8217;n seiliedig ar hawliau, ond realiti bywyd mewn ystafelloedd dosbarth ledled y ddinas. Gyda chydweithrediad a chymorth parhaus, gall pob ysgol yng Nghaerdydd ddod yn fan lle mae hawliau plant yn cael eu hymgorffori, eu cynnal a&#8217;u dathlu.<\/p>\n","protected":false},"excerpt":{"rendered":"Wrth i&#8217;r flwyddyn academaidd ddod i ben, mae Caerdydd wedi cyrraedd carreg filltir arwyddocaol yn ei thaith i ymgorffori hawliau plant ar draws addysg. Heddiw, mae hanner yr holl ysgolion yn y ddinas wedi ennill Arian neu Aur yn y Wobr Ysgolion sy&#8217;n Parchu Hawliau. Mae hyn yn golygu bod plant mewn mwy na 50&#8230; <a class=\"view-article\" href=\"https:\/\/www.childfriendlycardiff.co.uk\/cy\/2025\/09\/dathlu-cynnydd-mae-hanner-ysgolion-caerdydd-bellach-yn-arian-neun-aur\/\">View Article<\/a>","protected":false},"author":4,"featured_media":0,"comment_status":"closed","ping_status":"closed","sticky":false,"template":"","format":"standard","meta":{"footnotes":""},"categories":[6],"tags":[],"class_list":["post-6166","post","type-post","status-publish","format-standard","hentry","category-newyddion"],"_links":{"self":[{"href":"https:\/\/www.childfriendlycardiff.co.uk\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/posts\/6166","targetHints":{"allow":["GET"]}}],"collection":[{"href":"https:\/\/www.childfriendlycardiff.co.uk\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/posts"}],"about":[{"href":"https:\/\/www.childfriendlycardiff.co.uk\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/types\/post"}],"author":[{"embeddable":true,"href":"https:\/\/www.childfriendlycardiff.co.uk\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/users\/4"}],"replies":[{"embeddable":true,"href":"https:\/\/www.childfriendlycardiff.co.uk\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/comments?post=6166"}],"version-history":[{"count":2,"href":"https:\/\/www.childfriendlycardiff.co.uk\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/posts\/6166\/revisions"}],"predecessor-version":[{"id":6170,"href":"https:\/\/www.childfriendlycardiff.co.uk\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/posts\/6166\/revisions\/6170"}],"wp:attachment":[{"href":"https:\/\/www.childfriendlycardiff.co.uk\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/media?parent=6166"}],"wp:term":[{"taxonomy":"category","embeddable":true,"href":"https:\/\/www.childfriendlycardiff.co.uk\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/categories?post=6166"},{"taxonomy":"post_tag","embeddable":true,"href":"https:\/\/www.childfriendlycardiff.co.uk\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/tags?post=6166"}],"curies":[{"name":"wp","href":"https:\/\/api.w.org\/{rel}","templated":true}]}}